Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tybiwyd bod yr amser wedi cyrraedd i Y GWYDD- ONYDD arbrofi gyda stori ffuglen wyddonol, ac i wneud hyn fe aethom at ein nofelydd mwyaf llwyddiannus, Islwyn Ffowc EIis. Afraid yw ei gyflwyno i ddarllenwyr Cymru, sydd yn sicr wedi mwynhau darllen ei ysgrifau a'i nofelau, a gwrando ar ei raglenni gafaelgar a'i ddramâu difyr ar y radio a'r teledu. Ysgrifennodd y stori hon yn arbennig i Y GWYDDONYDD, a rhoddodd i'r gwaith holl awdurdod ei safonau proffesiynol. Yr ydym yn dra diolchgar iddo am ei ateb parod a phrydlon. -GOL. 'UN bach eto cyn cychwyn, John?' 'Dim diolch, Bernard. Wedi cael hen ddigon. Mae gen i ddeugain milltir o yrru o 'mlaen, cofia.' 'Wel, ti wyr. Cymer ofal dros y mynydd 'na. Un o'r ychydig ffyrdd unig sy ar ôl yng Nghymru bellach.' 'Mi gymra i ofal. Wel, fechgyn, rydw i'n mynd, beth bynnag amdanoch chi.' 'Rydyn ni i gyd yn mynd, John,' meddai Bryn Lewis. A chododd y cwmni bach i chwilio am eu cotiau. Yn y drws, wrth ymadael, fe drodd y Dr. John Parry at y lleill. 'Diolch yn fawr ichi, fechgyn, am ddod o'ch conglau i roi'r fath groeso'n ôl imi.' 'Ni ddyle ddiolch i chi, Parry,' meddai'r Athro Charles, 'am ddangos i'r byd fod 'na wyddonwyr yng Nghymru. Nid bob blwyddyn y mae Cymro'n ennill Gwobr Nobel.' Y tu allan i'r drws, safodd John Parry'n sydyn. 'Bethydi'r goleacw?' Craffodd y lleill ar y smotyn goleuni'n dawnsio hyd ochor y mynydd gyferbyn. ISLWYN FFOWC ELIS 'Rydw i'n credu mai chwilole o'r gwersyll milwrol,' meddai Bernard Gwynn. 'Am beth maen nhw'n chwilio ?' 'Dim syniad. Maen nhw wedi bod wrthi ers sawl noson.' 'Dwyt ti ddim wedi i holi nhw?' 'Pam y dylwn i? Dydi o'n ddim o 'musnes i.' Distawrwydd wedyn, tra bu John Parry'n gwylio'r llygedyn llachar yn gwibio rhwng y creigiau. Yn y man, dywedodd, 'Nid gole cyffredin ydi 'nacw. Mae'n anhraethol feinach a chryfach nag unrhyw chwilole milwrol.' Trodd y lleill mewn syndod. Am ei waith mewn Opteg y cafodd John Parry Wobr Nobel. 'Bethywe'te, Parry?' 'Laser o ryw fath. Ond mae rhywbeth o'i gwmpas o'n ddiarth i mi. Weles i ddim goleuni'n hollol yr un fath â hwnna erioed. Mae'n ymddwyn yn od. A ph'un bynnag, pwy fase'n chware laser ar fynyddoedd canolbarth Cymru? E? I beth? Mi wn i am bob gwaith arbrofol mewn goleuni yma ar y Ddaear. Ond beth ydi hwn ?' Trawodd Parry'i het am ei ben. 'P'un bynnag, does gen i ddim amser i edrych arno heno. Rhaid imi gychwyn i gynhadledd ym Mharis ben bore fory. Cadw lygad ar y gole 'na, Bernard. Mi 'ffonia i atat ti pan ddo i'n ôl o Baris. Ac os bydd y gole'n parhau, mi ddo i fyny eto i'w weld o'n iawn. Wel, fechgyn, da boch.' 'Da boch, Parry. Pob hwyl ym Mharis!' Cododd Parry'i law drwy ffenest ei gar. Chwifiodd Bernard Gwynn yn ôl. Fe gâi weld ei gyfaill eto'n fuan, felly. Ardderchog. Bychan a wyddai nad oedd hynny i fod.