Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Prifysgol Harvard, Cambndge, Massachusetts, lle mae ein gohebydd yn ymchwilio Llythyr o'r America STATWS pur isel sydd gan fyfyrwyr ymchwil yn hierarchiaeth ein prifysgolion ym Mhiydain. Un rheswm am hyn yw mai canolbwyntio ar ddysgu i'r radd gyntaf a wna'r prifysgolion, gyda'r canlyn- iad bod y myfyrwyr ymchwil mewn dosbarth ar eu pen eu hunain; heb freintiau'r athrawon ar yr un llaw, a heb y sylw a roddir i'r myfyrwyr gradd cyntaf ar y llaw arall. Ceir ymddygiad gwahanol iawn at fyfyrwyr ymchwil ym mhrifysgolion mwyaf yr Unol Daleithiau. Er enghraifft, yn yr adran Gemeg yn Harvard, rhoddir cymaint os nad mwy o bwys ar ddysgu ffurfiol i raddedigion nag a roddir i'r myfyrwyr gradd gyntaf. Ansawdd a swm yr ymchwil a gyhoeddir sydd yn penderfynu i raddau helaeth faint o arian a gaiff prifysgol i wneud ymchwil gan y Llywodraeth a diwydiant, ac oherwydd hynny yn yr Unol Daleithiau ceir agwedd fwy difrifol tuag at ymchwil, a hwyrach NOEL LEWIS OWEN un mwy cydymdeimladol tuag at fyfyrwyr ymchwil. Mewn sefydliadau fel Massachusetts Institute of Technology (M.I.T.), er enghraifft, y mae ymchwil mor bwysig fel mai nifer fach iawn o fyfyrwyr gradd gyntaf a dderbynnir bob blwyddyn gan rai adrannau o'r Coleg. Mae'n debyg mae teimlad y Coleg yw bod gwell elw i'w gael wrth dderbyn graddedigion o Brifysgolion eraill nag wrth eu dysgu eu hunain. Ni fydd llawer o fyfyrwyr yn aros yn Harvard i wneud eu hymchwil ar ôl cwblhau y radd gyntaf yno. Yn wahanol iawn i brifysgolion Prydain, anogir myfyrwyr i symud ar ôl cwblhau eu gradd gyntaf ym mhrifysgolion mwyaf yr Unol Daleithiau. Nid yw safon y radd hon mor uchel â'n B.A. neu B.Sc. ni ym Mhrydain, ond nid oes amheuaeth bod cwrs graddedig y prifysgolion yn cynhyrchu doethoriaid o safon uchel iawn. Yn y