Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ystyriaeth J. D. R. THOMAS MAE mawn yn bwysig fel tanwydd cartref a diwyd- iant ym mywyd economaidd llawer gwlad yn y rhanbarthau cymedrol dwym. Ceir dau bwerdy yn llosgi mawn yn Iwerddon, ac yn Rwsia defnyddir rhan sylweddol o'i chynnyrch mawr i baratoi trydan mewn 35 o bwerdai mawn enfawr. Nid yw pwysigrwydd mawn ym mywyd rhai gwledydd i synnu ato oherwydd, ar wahân i brinder tanwydd arall, mae yno gronfeydd anferth o fawn, e.e. Almaen, 6 miliwn erw; Canada, 24 miliwn erw; Gwlad Pwyl, 3t miliwn erw; Iwerddon, 3 miliwn erw; Norwy, 7t miliwn erw; Rwsia, 180 miliwn erw; a Sweden, 12 miliwn erw. Hyd yn oed ym Mhrydain gorchuddia corsydd mawn rhwng 3t a 6 miliwn erw o dir. Nid rhyfedd, felly, i'r Llywod- raeth, yn 1949, benodi Pwyllgor Mawn yr Alban i gynghori ar gasglu manylion ac i ymchwilio i'r posibiliadau o ddefnyddio mawn. Mae'r Pwyllgor wedi cyflwyno dau adroddiad maith, y cyntaf yn 1954 a'r ail yn 1962. Nid oes cyfrif pendant i'w gael ar faint cronfeydd mawn Cymru, ond maent yn sylweddol iawn a daw dwy gors fawr, Tregaron a'r Borth, i gof ar unwaith. Er nad yw perchen tir mawnog yn ei ystyried yn Gemegol ar Fawn feddiant rhy dda, am nad yw o werth amaethyddol, mae'n dda sylwi fod yng Nghymru, o'r diwedd, ddiwydiant wedi ei seilio ar fawn. Mae'n bosibl heddiw i fynd i siop arddwriaeth a phrynu 'Mawn Hesg Cymru' yn ogystal â chynnyrch Iwerddon. Rhan bwysig o'r diwydiant newydd hwn yw paratoi sarn mawn fel defnydd gwelyau i anifeiliaid. Beth yw mawn? Wrth geisio ateb hyn dargan- fu llawer ymchwiliwr ei fod yn bwnc hudolus a diddorol ond ar yr un pryd yn un dryslyd iawn. I ddechrau, diffinir mawn fel casgliadau o weddill- ion planhigion wedi hanner pydru mewn rhan- barthau sydd yn llawn dwr, lle mae'r gwlybaniaeth ar wyneb y pridd yn atal y pydru aerobig arferol. Nodweddion eraill sy'n helpu datblygiad mawn yw tymheredd isel, surni uchel, a diffyg maeth yn y tir, hynny yw, y pethau sy'n lleihau gweithgarwch meicrobau. Y mae'n dilyn yn naturiol, felly, fod gan fawn surni uchel (pH tua 4) ac yn cynnwys rhyw 85 i 95 y cant o ddwr. Defnydd organig yw'r mawn sych bron i gyd ac nid yw'r lludw wedi'r llosgi ond yn cynnwys rhyw 2 y cant o'r defnydd gwreiddiol. Silica ac alwmina yw'r rhan fwyaf o'r lludw, ond ceir ynddo haearn, Cydynu mawn hesg main