Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau LLYFRAU I'R ATHRO CEMEG New Thinhing in School Chemistry, dan nawdd O.E.C.D. (2 rue André-Pascal, Paris XVI); yn rhad ac am ddim. Chemistry Today: Guide for Teachers, dan nawdd O.E.C.D. H.M.S.O. 20s. Approach to Chemistry, 1961, ac Approach to Chemistry, 1962. Gwasg Prifysgol New South Wales, Awstralia. Pris, ansicr. Bydd y pedwar llyfr uchod o ddiddordeb arbennig i athrawon cemeg ac i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc. Cyhoeddwyd dau ohonynt yn Ewrop a dau yn Awstralia ac fe amlygant y cynnwrf byd-eang ym maes addysg wyddonol heddiw. Peth annisgwyl ydyw gweld y Sefydliad er Cyd- weithrediad a Datblygiad Economaidd (O.E.C.D.) yn cyhoeddi llyfrau ar ddysgu cemeg ond y mae'r corff hwn ers blynyddoedd wedi sylweddoli mai addysg wyddonol ydyw allwedd datblygiad econom- aidd a bu adran arbennig yn noddi cynadleddau a chyhoeddiadau cydwladol i'r perwyl hwn. Cynhaliwyd cynhadledd yn Greystones (Iwerddon) yn 1960 a thrafodion y gynhadledd ydyw'r gyfrol gyntaf dan sylw. Cynrychiolid gwledydd Ewrop i gyd gan athrawon, arolygwyr ysgolion, a rhai athrawon coleg, ac fe argraffwyd nifer o ddarlithiau a thrafodaethau. Tair o'r penodau mwyaf buddiol ydyw'r rhain: 'Damcaniaethau Cemegol er 1900', 'Pwysigrwydd Syniadau am Adeiladwaith Cemegol mewn gwaith ysgol', a 'Cyflwyno adweithiau ocsidio-rhydwytho ac asid-bâs ar sail yr atom electronig'. Rhoddir sylw gofalus yn y penodau hyn i werth y gwahanol bynciau a damcaniaethau o fewn fframwaith cwrs ysgol. Cytunir fod angen cyflwyno darlun modern o'r atom yn gynnar a bod gwerth hyd yn oed mewn datblygu'r darlun ychydig ymhellach nag atom Bohr i ddangos fod adeiladwaith manylach oddi fewn ei rodau elect- ronau syml ef; hefyd fod adeiladwaith molecylau a chrisialau yn rhan hanfodol o'r pwnc heddiw. Ond y mae yn y gyfrol un frawddeg holl bwysig: 'Nid sut i'w cyflwyno na pha mor bell y dylid eu datblygu ydyw'r peth pwysicaf ynglyn â'r damcan- iaethau hyn. Yr hyn sy'n hanfodol ydyw eu defnyddio i arddangos cydberthynas ffeithiau arbrofol, ac i drafod adweithiau cemegol'. Nid ydyw'r ddamcaniaeth ddiweddaraf yn werth dim no ynddi ei hun onibai ei bod yn cael ei defnyddio; mae mwyafrif awduron y gyfrol yn sylweddoli hyn ac yn ystyried pa fodd y gellir defnyddio'r damcan- iaethau newydd er goleuo'r pwnc. Gwelir yn amlwg yn y gyfrol fod gwahaniaethau mawr mewn dysgu cemeg rhwng gwlad a gwlad. Cyfraniad diddorol ydyw'r un o Sweden yn disgrifio cwrs ar gyfer y 16-18 oed yn y wlad honno. Seiliwyd hwn yn gadarn ar y Tabl Tymhorol; tueddwn ni i lusgo'r Tabl i mewn ar ddiwedd y cwrs ysgol. Telir llawer o sylw hefyd i doddiadau ionig fel y gellid disgwyl yn sgîl gwaith mawr Bjerrum a Bronsted yn Scandinafia ar y testun hwn. Treuliwyd rhan helaeth o'r amser i ystyried anghenion cwrs cemeg cyfoes mewn ysgolion ac y mae'r crynodeb ar ddiwedd y gyfrol yn werth ei ystyried. Hyd yn oed o fewn terfynau'r sylabws presennol y mae digon o Ie i ystyried amcanion sylfaenol a phwyslais y gwahanol bynciau. Gan fod y gyfrol i'w chael yn rhad ac am ddim o'r cyfeiriad uchod nid oes reswm yn y byd pam na ddylai pob athro cemeg fod yn gyfarwydd â hi. Yr ail gyfrol Canlyniad i'r gynhadledd hon ydyw'r ail gyfrol dan sylw: 'Cemeg Heddiw: Arweinlyfr i Athrawon'. Teimlai'r gynhadledd fod angen llyfr o gyfar- wyddyd i athrawon ar y datblygiadau cyfoes mewn cemeg a galwyd nifer o arbenigwyr ynghyd i baratoi'r deunydd. Athrawon coleg ydynt bron i gyd, o nifer o wledydd. Rhaid dweud ar y cychwyn fod yr ysgrifennu yn eglur a graenus drwyddo draw, nid oes arwydd o straen cyfieithu yn unman ac y mae hyn yn glod i'r golygydd-E. Cartmell o Brifysgol Southampton. Disgyn y deunaw pennod yn naturiol i batrwm: tair pennod gyffredinol, pedair ar adeiladwaith atomau, molecylau, soledau, a hylifon, tair neu bedair ar gineteg a chydbwysedd, ar electrogemeg, ar gemeg organig, a dwy i orffen ar gemeg mewn diwydiant ac ar gemeg niwclar. Pwysleisir nad gwerslyfr yw hwn, nac ychwaith gynllun gwaith ar gyfer ysgolion, ond llyfr i ddehongli 'Cemeg Heddiw' i athrawon a chanddynt gefndir yn y pwnc. Nid ydyw pob pennod yn taro deuddeg er hynny. Mae rhai yn bur elfennol a'r deunydd yn gyfarwydd eisoes i athrawon y wlad hon beth bynnag. Y mae ambell i awdur arall heb weithredu'r egwyddor a nodwyd yn y gyfrol flaenorol ac yn bodloni ar gyflwyno'r ddamcaniaeth