Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Tarddiad yr Elfennau' a 'Cemeg yr Haul a'r Planedau' (1962), ac eraill eto ar broblemau mwy athronyddol fel 'Lle Cemeg mewn Gwyddoniaeth' a 'Lle'r ddamcaniaeth yn y cwrs cemeg'. Mae'n amlwg fod y darlithiau yn gweddu i'r gynulleidfa, ac o'r herwydd maent yr un mor ddefnyddiol i athrawon ym mhobman. Wedi'r darlithiau ffurfiol daw'r ddwy ochr ynghyd mewn cylchoedd trafod, ac adroddiadau'r cylchoedd hyn ydyw'r darnau mwyaf gwerthfawr o'r cyfrolau. Yn y pen draw rhaid i athrawon ysgol benderfynu beth sydd yn ymarferol ac yn fuddiol ar gyfer cwrs ysgol; mae cyfarwyddyd a brwd- frydedd athrawon coleg yn werthfawr ac yn anhepgorol ond fe ddylai'r cyfrifoldeb fod yn yr ysgolion eu hunain heb os. Yn y trafodaethau hyn fe eir i'r afael â'r broblem o ddefnyddio gwybod- aeth newydd mewn cwrs ysgol mewn dull ymarferol, ac fe ddeil yr awgrymiadau i'w hastudio gan athrawon ymhob gwlad. Dyma'r pynciau a fu dan sylw: 'Cydbwysedd Adweithiau Cemegol', 'Cemeg Organig', 'Adeiladwaith Atomau ac Uniadau Cemegol', 'Ocsidiad, Electrolysis, a Damcaniaeth Asid-Bas', 'Cemeg Niwclar' (1961), 'Defnyddio Data Ffisegol yn y cwrs Cemeg', 'Gwaith Ymar- ferol', 'Yr Hafaliad Cemegol a Mecanïaeth Adweithiau', 'Adeiladwaith Cemegol', a 'Cym- horthau Dysgu Cemeg' (1962). Ym mhob un o'r adroddiadau hyn cyflwynir awgrymiadau ynglyn â dysgu'r testun a'r anawsterau a gyfyd, peth o'r wybodaeth ychwanegol y bydd athrawon ei eisiau, a nodiadau ar addasrwydd y gwerslyfrau cyffredin. Hoffwn sylwi ar un yn unig o'r adroddiadau hyn, sef ar 'Adeiladwaith Cemegol', a cheisio crynhoi cynnwys yr adroddiad. Heb dreiddio i ysgolion Nid ydyw syniadau am adeiladwaith molecylau wedi treiddio i gyrsiau ysgol eto, ac fe gynigir dau reswm am hyn: yn bennaf am fod y dulliau a ddefnyddir i gasglu'r wybodaeth yn anodd i'w cyfleu, ac efallai am nad ydyw'r wybodaeth ar gael yn gryno. Er fod y dulliau yn anodd fe ddylai ffurf molecwl fod mor gyfarwydd â thymheredd berwi neu rewi, er enghraifft fod molecwl deuocsid carbon yn syth ond fod molecwl dwr yn gam, amonia fel pyramid a methan ar ffurf tetrahedron. Gall gwybodaeth ynglyn â ffurf egluro'r cyfnewid- iadau a welir wrth wresogi sylffur, y ddwy ffurf ar garbon, a'r gwahaniaeth rhwng ffosfforws coch a melyn; pam fod deuocsid carbon yn nwy a deuocsid silicon yn soled mor wahanol, a'r amrywiaeth mawr yn ocsidiau ffosfforws. Gellir llunio gwaith ymarferol gyda modelau i astudio'r gwahanol ffurfiau crisialaidd (ac yn ddiweddar fe welais ddyfais syml iawn gyda chynhyrchydd tonfeddi 3 cm. i arddangos egwyddorion y dull pelydrau-X o astudio crisialau). Mae'r arbrofion hyn gyda phelau o wahanol faint yn gymorth mawr i'r disgybl i 'weld' beth sy'n digwydd ymysg yr atomau. Y ffordd hawsaf o gydgysylltu ffurf y molecwl a'r adeiladwaith electronig ydyw defnyddio darlun y 'parau electronig': cymerir fod yr electronau falensi yn bodoli mewn parau, naill ai mewn uniad sengl neu yn rhydd, ac fod y parau hyn yn eu dosbarthu eu hunain mor bell ag y gallant y naill oddi wrth y llall. Mewn dwr ceir chwe electron gan yr ocsigen a dau gan y ddau atom hidrogen: wyth i gyd, sef pedwar pâr. Y dosbarthiad syml i'r rhain ydyw ar bedair cornel tetrahedron ac felly fe fydd y ddau atom hidrogen ar ongl ac nid yn syth. Gellir datblygu'r ddamcaniaeth syml hon i egluro llawer iawn o ffurfiau molecylol ac fe'i cymeradwyir. Mewn atodiad byr i'r adroddiad rhoddir braslun o'r dulliau arbrofol a ddefnyddiwyd i astudio ffurfiau ond ni fwriedir y rhain ar gyfer y dosbarth. Deallaf fod cyfrol gyffelyb wedi ei chyhoeddi yn 1960 ond nis gwelais. Bwriedir dal ymlaen gyda'r gyfres, a rhaid croesawu hyn, oherwydd dyma'r cyfrolau gorau a welais yn y maes hwn. Maent yn ystyried dull a deunydd dysgu cemeg gyfoes mewn ffordd sydd yn haeddu sylw. Nid ydynt ar werth yn gyffredin yn y wlad hon ond fe'i ceir ymhen hir a hwyr trwy archeb uniongyrchol. I.W.W. Chemical Systems. C.B.A. Chemical Bond Approach Project.* McGraw-Hill. Tud. 772. 54s. Y mae i syniadau a ffeithiau Ie amlwg mewn cemeg; pe'u cysylltid hwynt yn effeithiol yng ngwaith y chweched dosbarth yna byddai cemeg yn fan cychwyn ardderchog i ddechrau deall yr holl o wyddoniaeth fodern. Cyflwyna Chemical Systems y pwnc o'r safbwynt hwn. Wrth drafod hanfod cyfnewidiadau cemegol rhoddir y pwyslais ar weithrediad rhannau unigol o unrhyw system y naill ar y llall. I ddeall y rhyng-weithrediad hwn cyflwynir y syniad am atomau a'u dosbarthiad o fewn saernïaeth molecwl. Hawdd wedyn yw cyflwyno testunau fel pwysau atomig, pwysau molecylaidd, formiwlae cemegol yn drefnus a rhesymegol. Drwy astudio rhyng-weithrediad *Yn 1959 sefydlwyd C.B.A.-Chemical Bond Approach Project-gan nifer o athrawon cemeg mewn colegau ac ysgolion uwchradd yn yr Unol Daleithiau. Ers hynny, trwy gymorth nifer o arbenigwyr, cyhoeddwyd y llyfr presennol a hefyd lmestigating Chemical Systems.