Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

electrostatic gwelir fel y mae'n bosibl ystyried mater yn gasgliad o atomau sydd eu hunain yn unedau trydanol. Y mae i bob atom ei gnewyllyn positif sydd yn cael ei amgylchynu gan electronau negatif. Disgrifiad syml a chyfleus yw'r syniad hwn o'r atom, wrth gwrs, ac os am fanylu rhaid ehangu cryn dipyn arno. Gwneir hyn drwy gyflwyno dau fodel gwahanol sydd yn defnyddio'r syniad gwreiddiol o atomau wedi eu gwneud i fyny o gnewyllyn ac electronau yn symud o'u cwmpas. Y mae'n bosibl symud yn naturiol wedyn i greu darlun tri-dimensiwn o unrhyw sylwedd sydd yn cael ei ddosbarthu yn ddiweddarach yn cofalent, ionic, a metalig. Y mae llawer iawn o lyfrau sy'n ceisio cyflwyno cemeg mewn modd systematig a rhesymol, felly pam y dylid cael un arall ? Mae'r datblygiadau yn y pwnc wedi bod mor chwyldroadol y blynyddoedd diwethaf fel na ellir eu cynnwys mewn cwrs elfennol os na chwalir yn llwyr yr hen ganllawiau a'r syniadau, a dechrau o'r newydd. Ymgais deg i wneud hynny yw y llyfr hwn ac fe ddylai fod yn ddefnyddiol iawn mewn ysgolion gramadeg. G.O.P. YR ARHOLIADAU NEWYDD Datblygiad pwysig iawn ym myd addysg ar hyn o bryd ydyw'r Dystysgrif Addysg Eilradd, neu'r C.S.E. fel y'i gelwir yn gyffredinol. Bwriedir arholiad lefel O y G.C.E. ar gyfer yr 20% mwyaf deallus o blant ein hysgolion ac yn awr fe gynigir arholiad y C.S.E. i'r 40 nesaf. Y mae cymhellion cymdeithasol yn ogystal â rhai addysgol y tu ôl i'r datblygiad hwn ond nid awn i drafod hynny yma, yr hyn sy'n bwysig ydyw fod yr arholiad yn dod i rym yn 1965 a theg yw ystyried ei ddylanwad ar ddysgu gwyddoniaeth i'r plant hyn mewn ysgolion gramadeg (gan fod cyfartaledd plant yn y mwyafrif o'r ysgolion gramadeg yng Nghymru yn uwch na 20%) ac mewn ysgolion modern. Fe all yr arholiad newydd fod yn aruthrol werthfawr oherwydd fe all ddylanwadu yn chwyldroadol ar y math o wyddoniaeth a ddysgir. A bod yn berffaith onest yr arholiad yn y pen draw sy'n rheoli dull dysgu; mae cwestiynau ffeithiol y G.C.E. yn archwilio'r cof ond nid y crebwyll ac yn arwain i ddull dysgu sy'n aml yn ffeithiol a di-ddychymyg, ac yn anffodus y mae'r dull dysgu hwn yn gyffredin mewn dosbarthiadau nad oes a wnelont ddim â'r G.C.E. Fe all yr arholiad newydd ddatblygu yn gysgod tila o'r G.C.E. ac fe fyddai hynny yn drasiedi. Cyfle godidog y C.S.E. ydyw'r cyfle i ddatblygu dulliau arholi newydd sbon a fydd yn profi rhywbeth mwy na'r gallu i gofio ffeithiau moel. Y mae'n amlwg fod y Weinyddiaeth Addysg yn ymglywed â'r perygl ac â'r cyfle. Bu arloesi'r maes yn nwylo'r Cyngor Arholiadau Ysgolion Eilradd a chyhoeddwyd ganddynt eisoes ddau fwletin gwerthfawr a chalonogol. Yn gyntaf: awgrymiadau i athrawon ac arholwyr; a'r ail: adroddiad ar arholiad arbrofol mewn gwyddon- iaeth. Yn y bwletin cyntaf pwysleisir mai amcan dysgu gwyddoniaeth ydyw arwain plant i resymu a dyfalu, gan roddi iddynt ganllawiau gwyddonol. Awgrymir y dylid canolbwyntio ar y math o waith lle y mae'r plant yn casglu peth gwybodaeth, yn dyfalu damcaniaeth syml, ac yn llunio arbrofion i gadarnhau'r ddamcaniaeth. Fel enghraifft, rhoddir esiampl y gannwyll yn llosgi dan lestr gwydr ar blât gwydr gwastad. Gwelir fod y gannwyll yn fuan yn dechrau mygu ac yn diffodd, a bod diferion o ddwr yn casglu ar y llestr; mae'r llestr yn anodd i'w godi oddi ar y plât ac wedi llwyddo i wneud clywir swn awyr yn rhuthro i mewn. Os codir y llestr oddi ar y plât dan ddwr cyfyd lefel y dwr yn y llestr. Anogir y plant yn awr i ddyfalu beth sy'n digwydd, ac o roddi'r cyfle iddynt fe gynigir llawer o atebion, e.e. fod y dwr a gynhyrchwyd yn diffodd y gannwyll; fod y llestr yn rhy fach; fod awyr yn dianc (ac fe allwn feddwl am ragor: fod y gannwyll wedi llosgi allan; fod y gannwyll yn llosgi yn rhy wan, etc.). Bydd llawer o'r awgrymiadau yn hollol gyfeiliornus, ond yr hyn sy'n bwysig ydyw fod yr holl awgrymiadau yn cael eu derbyn a'u hystyried yn rhesymol, fod arbrawf pellach yn cael ei ddyfeisio i brofi pob un. Nid ydyw'r dull hwn o ddysgu gwyddoniaeth yn newydd; yr hyn sy'n newydd ydyw'r pwyslais ar arholiadau a fydd yn dilyn yr un trywydd. Awgrymir nifer o gwestiynau o'r fath yn y bwletin cyntaf a cheir enghreifftiau pellach yn yr arholiad arbrofol. Gosodwyd yr arholiad hwn yn ystod haf 1963 i ryw 600 o blant mewn deg ar hugain o ysgolion, ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys rhai yng Nghymru; ysgolion modern oedd y rhan fwyaf ohonynt a chryn amrywiaeth yn y math o gwrs gwyddoniaeth y bu'r plant trwyddo. Gofynnwyd cwestiynau ar wahanol agweddau o wyddoniaeth ond rhoddwyd dewis pur eang. Dyma rai enghreifftiau (1) 'Fe honnir fod tywel yn sychach wedi dau funud mewn troellsychwr nag wedi ei wasgu ddwywaith trwy wasgwr. Ym mha fodd y ceisiech brofi'r gosodiad hwn ?' Cwestiwn syml yn galw am allu i lunio arbrawf teg a boddhaol, i sicrhau, er enghraifft, fod y tywel yr un mor