Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GORSAF HINSODDEGOL YSGOL BOTWNNOG Dangosir yn y llun swyddogion presennol yr Orsaf Hinsoddegol a fu mewn llawn weithrediad oddi ar Ebrill 1960. O'r manylion a gasglwyd gellir disgwyl, ar gyfartaledd, mewn blwyddyn ym Motwnnog 1,600 i 1,700 0 oriau o haul (42 0 oriau y dydd) a 35 i 40 o fodfeddi glaw. Y diwrnod poethaf oedd Medi 1, 1962 (82° F.) a'r noson oeraf oedd Ionawr 12, 1963 (17° F.). Y mis mwyaf heulog oedd Mehefin 1960 (259·2 0 oriau) a'r gwlypaf oedd Tachwedd 1960 (8.86 o fodfeddi) Diddorol iawn yw eu cymhariaeth gydag ardaloedd eraill: 1962 Haul (oriau) Glaw (modfeddi) Blaenau Ffestimog 1022-5 96.49 Rhyl 1565.5 19-40 Jersey 1918-8 32.74 Botwnnog* 1647.8 36-74 Gellir disgwyl felly haul yn Rhyl a glaw yn 'Stiniog, ond tywydd llai eithafol ym Motwnnog. Os oes gweithgarwch gwyddonol mewn rhyw ysgol arall byddwn yn falch o glywed amdano. Cyhoeddwyd y ffigurau yn Y Gloch, cylchgrawn Ysgol Botwnnog.