Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ABERYSTWYTH Cynadleddau TYMoR o gynadledda brwd fu gwyliau'r Pasg eleni, ac yn wyneb y gyrru sydd ar wyddoniaeth y dyddiau hyn, nid yw'n syndod bod blas gwyddonol ar y rhan fwyaf o'r cynadledda hwn. Hyd yn oed ym maes iaith, bu pwyslais ar ddysgu iaith lafar, Cymraeg a Ffrangeg yn arbennig, gyda chymorth y labordy iaith newydd a sefydlwyd yn ddiweddar yn yr ystafell lie bu unwaith labordy Ffiseg. Mae yn y labordy hwn nifer o fân ystafelloedd, bob un â'i recordydd- tâp, lle gall myfyrwyr unigol ymarfer â llefaru, bob un ar ei ben ei hun ac eto o dan gyfarwyddyd a rheolaeth yr athro, sydd â chanolfan iddo'i hunan, a chyswllt rhyngddo a phob myfyriwr. Gwariwyd rhai miloedd ar offer i'r cynllun hwn, sydd yn ennill tir yn gyflym. Cynhaliwyd dau gwrs wythnos i athrawon ysgolion, o dan nawdd y Gyfadran Addysg, y naill ar Fioleg a'r llall ar Fathemateg, gyda phwyslais arbennig ar ddulliau dysgu'r ddau destun yn chweched dosbarth yr ysgol- ion uwchradd. Rhannwyd yr amser yn y cwrs Bioleg rhwng Zwoleg a Botaneg, a rhwng trafodaethau a gwaith ymarferol ymdriniwyd â chryn amrywiaeth o bynciau, o agweddau ar fywyd y gell unigol hyd at astudiaethau yn y maes. Daeth 88 o athrawon ynghyd i'r cwrs hwn, o ysgolion Cymru gan mwyaf, ond hefyd o ysgolion dros y ffin, cyn belled â Hong Kong. Yn y cwrs Mathemateg, talwyd cryn sylw i'r hyn a elwir yn 'Arbrawf Southampton', sef dull newydd a chwyldroadol o ddysgu Mathemateg yn yr ysgolion, sydd yn defnyddio syniadau ac egwyddorion na thybid hyd yn hyn y gellid eu trafod ond gyda dosbarthiadau uchel yn y prifysgolion. Honnir bod llwyddiant amlwg ar y dull hwn, a diau y clywir rhagor amdano. Dengys y ffaith bod 74 o athrawon yn y cwrs y diddor- deb sydd mewn dysgu Mathemateg yn y dyddiau hyn. Daeth ynghyd rhyw ddeugain o athrawon a darlithwyr o adrannau Ffiseg Colegau'r Brifysgol i gynhadledd undydd ar broblem dysgu gwaith ymar- Nodiadau o'r Colegau ferol mewn Ffiseg, problem y bu cryn drafod arni yn ddiweddar. Cred rhai athrawon y gellid cwtogi'r oriau a dreulir gan fyfyrwyr mewn labordai heb unrhyw niwed i'w cwrs addysgol; ânt cyn belled â haeru y gwastreffir amser yn y labordai a bod myfyrwyr yn diflasu ar waith ymarferol. Cred eraill i'r gwrthwyneb bod gwaith mewn labordy yn hanfodol bwysig, ac na ellir ymgyfarwyddo'n deg â'r amryw- iaeth anferth o aparatws ac o ddulliau o'i drafod, heb sôn am y llu o ysbrydion drwg sydd ar brydiau yn meddiannu pob celficyn a fu mewn labordy erioed, heb dreulio cryn amser gyda hwy. Tebyg mai dwyshau a wna'r broblem hon oherwydd y cynnydd parhaus yn nifer y myfyrwyr, a'r anhawster o drefnu lle ac amser iddynt astudio ac ymarfer gwaith llaw o dan gyfarwyddyd agos un o'r athrawon. Cred yr Athro Mendoza, a benodwyd yn ddiweddar yn bennaeth adran Ffiseg Coleg Bangor, y gellir esmwythau peth ar y broblem, mewn dosbarthiadau elfennol yn fwyaf arbennig, drwy i'r athro, ac efallai ddau fyfyriwr, gynnal arbrawf ym mhresenoldeb dosbarth o ryw hanner cant, ond nid o flaen y dosbarth yn gymaint ag o flaen camera teledu, sydd yn gwylio manylion yr arbrawf a'u trosglwyddo i ddwy neu dair set deledu o flaen y dosbarth. Gall y dosbarth felly ddilyn yr arbrawf a chopïo yn eu llyfrau yr amryw fesuriadau a wneir, ac yna trafod gyda'r athro arwyddocâd yr arbrawf a'r mesuriadau. Eithr amheua'r rhai a gred mewn dulliau traddodiadol mai cysgod gwael o waith ymarferol yw peth fel hyn, gan mai ysgrifbin yw'r unig offeryn a ddaw'n agos i ddwylo mwyafrif y dosbarth. Eto diau bod rhyw gymaint o Ie i'r dull hwn. Yn dilyn y gynhadledd hon, bu cyn- hadledd ddeuddydd o ystadegwyr, i drafod y dulliau o ddefnyddio cyfrifydd- ion electronig, y bu un ohonynt, sef yr IBM 1620, ar waith yn y Coleg er yn agos i ddwy flynedd. Un o'r rhai lleiaf ymhlith cyfrifyddion heddiw yw hwn, ond mae iddo faes eang o waith, a gwneir defnydd helaeth ohono gan nifer o adrannau, yr adrannau amaethyddol yn arbennig, lle y cesglir wmbredd o ffig- urau na ellir eu trafod yn gyfleus, os o gwbl, heb gymorth peiriant o'r math yma. Eisoes mae pentwr o 'gyfrolau' o waith y peiriant yn casglu o'i amgylch, ar ffurf milltiroedd lawer o dâp papur, yn cynnwys 'iaith' y peiriant, sef tyllau, neu'n hytrach ac yn fwy ystyrlon, dim tyllau, yn y papur. Amlygwyd y farn y dylai fod gan bob gwr gradd, o ba destun bynnag, ryw amgyffred o bosibil- iadau cyfrifydd, ac y dylai pob myfyriwr mewn testun gwyddonol gael cyfle i ymgydnabod yn ymarferol ag un o'r peiriannau hyn. Yn y gynhadledd olaf o'r gyfres, bu nifer o brifathrawon ysgolion uwchradd Cymru yn trafod datblygiadau diweddar yn y Coleg, mewn meysydd gwyddonol a lled-wyddonol biocemeg amaeth- yddol, economeg, ystadeg, a'r labordy iaith, sef rhai o'r cyfeiriadau lie y mae cynnydd cyflym ar hyn o bryd. Grantiau Pery'r Coleg i dderbyn symiau syl- weddol i hyrwyddo gwaith gwyddonol, oddi wrth adran Ymchwil Gwyddonol a Diwydiannol y Llywodraeth (y D.S.I.R.) yn arbennig, ond oddi wrth amryw gynghorau a chwmnïau yn ogystal. Ar hyn o bryd mae cyfanswm grantiau'r D.S.I.R. i'r Coleg yn ymylu ar £ 90,000. O'r swm hwn â yn agos i £ 28,000 drwy ddwylo'r adran Ffiseg i gynnal y gwaith a wneir o dan nawdd y Gymdeithas Frenhinol yn yr orsaf ymchwil yn Halley Bay, yn Antarctica, lIe mae ymhlith y cwmni ddau aelod o'r adran a aeth yno fis Rhagfyr diwethaf, i aros am ddwy flynedd. Yn ychwanegol at y swm hwn daw £ 12,500 arall i gynnal amryw fathau o waith ymchwil yn yr adran ei hun yn Aberystwyth. Â £ 20,000 i'r adran Fiocemeg Amaethyddol i gynnal gwaith yr Athro Goodwin ar gyfansoddiad cemegol y carotenau, teulu o sylweddau cymhleth sydd yn cynnwys yr un a rydd y lliw coch i foron. Â £ 10,300 at waith yr Athro B. M. Jones yn yr adran Zwoleg, a £ 10,900 arall i'r Is-brifathro Wood at y gwaith ym Mae Ceredigion y soniwyd amdano yn ein rhifyn diwethaf. Ymhlith y grantiau llai, mae un o ddiddordeb uwchlaw'r cyffredin, sef tua £ 600 oddi wrth y Cyngor Ymchwil Amaethyddol i'r Dr. Huw Rees, o'r adran Fotaneg Amaethyddol, sydd â lle i gredu ei fod ar fin llwyddo i beri