Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AEROBIG: mewn aer. PYDRU AEROBIG: proses o bydru sydd yn dibynnu ar aer am ei gynhaliaeth. AGAR MAETHLON: math o jelly a wneir allan o wymon y môr sydd yn cynnwys elfennau maeth- lon sydd yn angenrheidiol i dyfiant bacteria; S. nutrient agar. ANGSTROM: uned a ddefnyddir i fesur hyd tonfedd goleuni. 1 Å = ÌO10 centimedr. ANTHROPOIDEA: yn perthyn i deulu dyn. ASID HYALURONIG: carbohidrad o fewn y manwe cysylltiol yn y corff a'r llygad. ASID NIWCLEIG: y sylwedd cemegol sydd yn rheoli nodweddion geneteg y gell. Y mae saernïaeth y molecwl yn eithriadol gymhleth, ond gellir eu gwahanu i unedau llai, y niwcleotidau. Y mae'r rhain yn cynnwys phosphat, ribôs a purîn neu pyrimidîn, ac y mae miloedd o'r unedau triphlyg hyn yn yr asid niwcleig. S. nucleic acid. Ceir dau fath, desoxyribonucìeic acid (DNA) a ribonucleic acid (RNA). ATALYDD I'R CYLCHYNYDD OLEW. S. oil circuit breaker. bacteriwm, 11. BACTERIA organeb meicroscopig sydd yn bresennol pan fo rhywbeth byw yn pydru; maent wedi eu dosbarthu'n eang yn yr aer, y pridd ac mewn pethau byw. BACTERIOLEG: y wyddor o astudio bacteria. BACTERIOPHAGE (neu PHAGE): unedau byw sydd yn medru 'bwyta' (Groeg phagein= bwyta) bacteria. Yn fwy manwl, firws yn tyfu mewn bacteria. CANOLRAN ASYMETRIC: rhan o'r molecwl a chanddo siâp pendant. S. asymetric centre. CAROTENAU: dosbarth o gemegau sy'n bwysig i fywyd, e.e. fitamin A. S. carotenoids. CATALYDD, 11. -ION: sylwedd sydd yn medru dechrau a chynnal adwaith gemegol ond sydd ei hun yn ddi-newid ar y diwedd. S. catalyst. CEMEGAU, CEMEGOLAU: sylweddau cemegol. S. chemical. CEPHALOPODA: creaduriaid y môr o lwyth y malwod a'r mollusc gyda thraed wedi eu gosod fel breichiau naill ochr i'r geg. CINETEG: yr astudiaeth o gyflymdra adweithiau cemegol. S. kinetics. Geirfa COFALENT: math o gysylltiad rhwng atomau i wneud molecwl. S. covalent. coloid: sylwedd sydd yn ymddangos ei fod yn ffurfio toddiant clir ond sy'n methu gwneud ei ffordd drwy femrwn; ans. coloidaidd. S. colloid. COLLAGEN: prodin sydd yn cynnwys miloedd o unedau asid amino. CORONOL: enw a ddefnyddir am y rhydwelïau a gwythiennau'r galon, am iddynt ymestyn o amgylch y galon ar ffurf coron. Ll. corona; S. coronary. CROMATOGRAFFI: dull diweddar o wahanu'r syl- weddau unigol mewn cymysgedd. Dibynnwyd i ddechrau ar sylwi gwahaniaeth lliw y sylweddau a wahanwyd, ond erbyn hyn mae nifer fawr o ddulliau wedi eu datblygu i wneud y rhannau unigol o'r cymysgedd yn weladwy. S. chromat- ography. CRYNODIAD: y swm arbennig o un sylwedd mewn cymysgedd. S. concentration, content. CURIE: y swm o unrhyw isotôp ymbelydrol sydd yn rhyddhau mewn eiliad 3-70 x 1010 o ronynnau. micro-curie = 10-6 curie; picocurie = micro- microcurie. DADELFENNU: y proses derfynol o gael y metel o'r mwyn. S. refine. DEORYDD: math o bopty lle y cynhesir bacteria ynddo i'w tyfu. S. incubator. ELECTROCARDIOGRAFF: offeryn sy'n mesur a record- io'r cynhyrfiadau trydanol a gynhyrchir â phob curiad y galon. Datblygwyd yr offeryn ar y cychwyn gan Einthoven yn yr Iseldiroedd ac wedyn gan y Cymro Thomas Lewis yn Llundain. ELECTROFFORESIS: y proses o wahanu'r sylweddau unigol mewn cymysgedd drwy dechneg drydanol. S. electrophoresis. ELECTRON-MEICROSCOP: meicroscop sydd yn medru chwyddo unrhyw wrthrych 50,000 gwaith gan ddefnyddio electronau yn hytrach na goleuni fel y gwna'r meicroscop cyffredin. EPLES: lefain, surdoes, ensym; sylwedd sy'n gyfrifol am newidiadau cemegol mewn pethau byw. S. enzyme. firws: uned byw sydd yn llai na bacteriwm ac yn medru achosi afiechyd. S. virus. fframwaith BOLYMERIG CROESDDOLEN: S. cross- linked polymeric structure.