Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG TECHNOLEG UWCHRADD CYMRU PARC CATHAYS, CAERDYDD Prifathro: ALEXANDER HARVEY, B.SC., PH.D., F.INST.P. Ar hyn o bryd, darperir cyrsiau (amser-llawn a 'sandwich') ar gyfer Graddau Prifysgol Cymru a Llundain, Diplomâu mewn Technoleg, a Diplomâu a Thystysgrifau Coleg a Chenedlaethol. Gellir astudio Adeiladu, Cemeg Diwydiannol, Cyffuriaeth, Economeg, Fferylliaeth, Ffiseg, Gweinyddiaeth, Opteg, Peirianneg (Cynhyrchiol, Mecanyddol, a Thrydanol), Pensaernïaeth, Trafnidiaeth, ac Ystadegaeth. Ceir cyrsiau i athrawon sy'n dysgu Saesneg fel ail iaith, gan gynnwys hyfforddiant mewn labordy iaith. Mae gan y Coleg ei gyfrifydd electronig ei hun. Y mae amryw o'r cyrsiau hyn nas cynigir yng Nghymru ond yn y Coleg hwn. Darperir nifer o gyrsiau wedi-gradd, a chynigir ysgoloriaethau ymchwil tebyg i eiddo'r D.S.I.R. Yn dilyn adroddiad Pwyllgor Robbins ar Addysg Uwchradd, gellir bod yn hyderus y bydd yr efrydwyr a ymrestra yn 1964 yn y cyrsiau sy'n awr yn arwain at Ddiplomâu mewn Technoleg (a rhai eraill, mae'n bosibl) yn ymgeiswyr am radd cyn diwedd eu cwrs. Dechreuir ar adeiladu Neuadd Breswyl gyntaf y Coleg, i 150, yn 1964. Gellir cael prospectws, a manylion pellach, oddi wrth Ysgrifennydd y Coleg. YSGOL FEDDYGOL GENEDLAETHOL CYMRU, CAERDYDD (PRIFYSGOL CYMRU) Llywydd: SYR CLEMENT PRICE THOMAS, K.C.V.O., LL.D., F.R.C.P., F.R.C.S. Pennaeth: A. TREVOR JONES, M.D., F.R.C.P., D.P.H. Ysgrifennydd: F. DODSWORTH, F.C.I.S. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau meddygol Prifysgol Cymru (M.B., B.Ch.), a gall myfyrwyr sy'n paratoi ar gyfer graddau o dan Gyrff Arholi eraill fynychu'r cyrsiau. Dylid dychwelyd y ffurflenni cais i Ganolfan Ceisiadau am Fynediad i'r Prifysgolion, 29 Tavistock Square, Llundain, W.C.l, cyn diwrnod olaf y flwyddyn sy'n rhagflaenu'r Hydref y bwriedir dechrau ar y cwrs. Gellir gwneud cais cyn cael canlyniadau'r arholiad a gydnabyddir gan y Brifysgol am matriculation. Ceir hefyd gyrsiau ar ôl gradd, sy'n arwain i ddiploma mewn Iechyd Cyhoeddus (Cymru), a diploma mewn Darfodedigaeth a Chlefydau'r Frest (Cymru), a gellir cael manylion pellach oddi wrth yr Ysgrifennydd. Cwblheir yr Ysgol a'r Ysbyty Deintyddol, a bydd yn barod i dderbyn myfyrwyr deintyddol clinigol, erbyn Hydref 1965. Bydd yr adrannau cyn-glinigol yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, yn derbyn myfyrwyr ar gyfer cyrsiau cyn-glinigol Hydref 1964, a dylai'r ceisiadau fod wedi'u derbyn cyn 31 Rhagfyr 1963. Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer 1965 drwy'r Cyngor Canolog cyn 31 Rhagfyr 1964. Dylid cyfeirio pob ymholiad ynglyn â'r cyrsiau at Ddeon Astudiaethau Deintyddol, 36 Newport Road, Caerdydd.