Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Naturiaethwr Gorauyn Awr yn Ewrob" Edward Lhuyd, F.R.S. (1660-1709) Darlun o Edward Lhuyd, o Donation Book of the Old Ashmolean Museum, Rhydychen. Tynnwyd y llun o fewn i Iythyren gyntaf ei enw, ar ddechrau erthygl yn trafod ei wasanaeth i'r Amgueddfa ac addysg wyddonol. Rhaid fod y llun wedi ei dynnu yn gynnar yn 1709, y flwyddyn y bu Lhuyd farw. Nid oes darlun arall ohono ar gael, ond dywed Hearne fod darlun o'i wyneb wedi ei dynnu ar ôl ei farwolaeth; 'roedd ym meddiant Cymrawd o Goleg lesu, ond ni chredai Hearne ei fod yn ddarlun da iawn Rhaid i'r sawl sy'n astudio bywyd a gwaith Edward Lhuyd bwyso'n drwm ar gofnodion cyfoes y sylwedydd hollwybodol hwnnw o Rydychen, Thomas Hearne. Ynghanol ei hanesion am wleidyddiaeth y Brifysgol a'i gondemniad o'r Chwigiaid, fe gawn rai nodiadau bywgramadol prin ar y Cymro enwog hwn.1 Dysgwn, er enghraifft, fod Hans Sloane (a oedd yn ddiweddarach yn Llywydd y Gymdeithas Frenhinol) yn ystyried Lhuyd erbyn 1706 fel 'y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrob', fel yr ystyriai Lhuyd ei hun John Ray, a fu farw ddwy flynedd ynghynt, yn 'naturiaethwr mwyaf ein hoes'.2 Diben yr erthygl hon, felly, yw profi enwogrwydd rhyngwladol Lhuyd fel gwyddonydd a'i ddehongli, ond, ar y dechrau, y mae rhyw gymaint o berygl i ni os ystyriwn ar wahân yr hyn y gallwn ei alw F. V. EMERY Addysgwyd yr awdur yn Ysgol Tre-gẃyr ac yng Ngholeg Iesu Rhydychen. Bu'n ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol Aber- tawe cyn dychwelyd i Rydychen fel darlithydd mewn Daearyddiaeth Hanesyddol. Mae heflyd yn Gymrawdo Goleg SanPedr yn Rhydychen. Cyhoeddodd nifer o erthyglau ar Lhuyd. RHAN I heddiw yn ddiddordebau gwyddonol iddo. Mae'n anffodus fod Gunther a rhai eraill ar ei ôl yn edrych ar ymlyniad Lhuyd wrth fotaneg, daeareg, ac archaeoleg, ynghyd â'i ymchwil ieithegol, fel cyfres o gyfnodau hunan-ddigonol yn ei yrfa gyfan.3 Mwy rhesymol ydyw gweld y pedwar prif faes astudio hynny yn themâu cyson-yn gor- gyffwrdd â'i gilydd, mae'n wir, mewn modd cymhleth ac afreolaidd-ond pob un honynt yn arwain ac yn cyfrannu at ddiddordeb ysol, di- gyffelyb Lhuyd yn y cenhedloedd Celtaidd (neu 'Brydeinig'). Olrheiniodd ef y rhain o'r Alban i Lydaw, gan fyned ar deithiau ymchwil yn y gwledydd y preswylient ynddynt er mwyn dangos i'r byd i gyd eu cyfoeth hanes naturiaethol arbennig -planhigion, ffosilau, mwynau-a'u deall hwy fel tiriogaethau brodorol y pobloedd Celtaidd yr oedd