Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Corfforaeth Rand 'Academi marwolaeth a dinistr', medd y wasg Rws- aidd 'Think factory medd y wasg Americanaidd. Dyma ddau enw a roddwyd ar Gorfforaeth Rand, y sefydliad rhyfedd yna nepell o ardal ryfeddol Hollywood. Mae enwau mor eithafol â'r rhain yn naturiol yn achosi cryn gywreinrwydd. Yn swyddogol, yn ôl y siarter, diben Rand yw hyrwyddo amcanion gwyddonol, addysgiadol ac elusennol, y cwbl er mwyn lles y cyhoedd, a diogelwch yr Unol Daleithiau. Gan amlaf, fe gysylltir yr enw Rand â'r diben olaf, ac i raddau helaeth, gellir priodoli hyn i'w hanes cynnar ac i rai o'r adroddiadau a gafodd sylw gan y wasg. Ddiwedd y rhyfel diwethaf, yr oedd pennaeth 11 u awyr yr Unol Daleithiau wedi penderfynu bod yn rhaid i'r llu awyr gadw'r gwyddonwyr a oedd wedi bod o gymorth mawr yn ystod y rhyfel. Ar y naill law yr oedd yn hollol amhosibl eu cadw gyda'r lluoedd arfog, ac ar y llaw arall yr oedd anhawster mawr, o safbwynt diogelwch, eu defnyddio mewn sefydliad fel prifysgol. Ni fuasai sefydliad swydd- ogol yn le addas i ddynion feddwl am y dyfodol pell. Felly gwnaed cytundeb â Chwmni Awyrennau Douglas yn Santa Monica a sefydlwyd Project Research and Development o dan reolaeth un o'r peirianwyr, F. R. Collbohn, sydd yn parhau yn bennaeth ar Rand. Yn ddiweddarach penderfynwyd y byddai llai o anawsterau pe bai Rand yn anni- bynnol. (Un o'r anawsterau digrifaf a gawsant Ll. G. CHAMBERS oedd cael enw ar swydd o fewn y diwydiant awyrennau a oedd yn addas i athronydd. Fe'i galwyd yn Design Specialist '/4' !). Pa beth yn union yw gwaith Rand? Yr ateb syml yw meddwl. Nid yw Rand yn gwneud dim ond darllen, myfyrio a chyhoeddi ffrwyth y myfyrdod. Nid yw Rand yn cynhyrchu arfau; nid yw Rand yn gwneud y penderfyniadau sy'n ofynnol i'r llywod- raeth eu gwneud. Cynghori yn unig yw ei ddiben. Wrth gwrs, gan fod y rhan fwyaf o arian Rand yn dod o'r lluoedd arfog, ar eu cyfer hwy y gwneir y rhan fwyaf o'r gwaith. Mae'n ddiddorol ystyried rhai o agweddau gwaith Rand. Un o'r problemau cyntaf a ddaeth i Rand yn 1946 oedd y rhai a gyfyd yn sgîl datblygiad y lloeren. Astudiodd Rand, nid yn unig y problemau technegol, ond hefyd awgrymodd y problemau gwleidyddol a oedd yn debyg o godi. Hefyd, drwy astudio'n drwyadl gylchgronau a llyfrau Rwsia, proffwydwyd dyddiad yn 1957 pryd y byddai'r sbwtnic cyntaf yn cael ei saethu gan y Rwsiaid ac nid oedd ond pythefnos o wahaniaeth rhwng dyddiad y broffwydoliaeth a'r digwyddiad. Yn ystod y cyfnod cynnar yna, bu amryw o bynciau eraill o dan sylw, pob un ohonynt i raddau helaeth yn gysylltiedig â phroblemau technegol y lluoedd arfog. Er enghraifft, dangosodd Rand fanteision llenwi tanciau awyrennau a oedd ar wyliadwriaeth am elynion yr Unol Daleithiau tra'r oeddynt yn yr