Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Darlun: J. A. Taylo Pumlumon a tharddffrydiau afon Gwy. Rhosdir a ddi-goedwigwyd yn y pellter; llethrau a goedwigwyd yn y blaendir Cymru ein Gwlad Gyfnewidiadau yn y Defnydd ar Dir Cymru JAMES A. TAYLOR Brodor o Sir Gaerhirfryn yw'r awdur gyda gwreiddiau yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Killarney. Graddiodd ym Mhrifysgol Lerpwl gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn daeareg, ac mae'n ddarlithydd mewn daeareg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, oddi ar 1950. Ei brif ddiddordeb ymchwil i ddechrau oedd daeareg amaethyddol a defnydd tir gwledig ond ehangodd ei ddiddordebau erbyn hyn a sefydlodd gyrsiau mewn bio-ddaeareg ac astudiaethaú'r pridd. Mae'n gyfarwyddwr i'r Arolwg Defnydd Tir yng Nghymru (testun ei erthygl yma), ac yn 1961 cychwynnodd Arolwg Llystyfiant Ucheldir Cymru er mwyn casglu data botanegol manwl. Mae'n briod a chanddo ddau o blant. Rhagarweiniol MEWN chwedl a ffaith, darluniodd llawer o'r mapiau a'r croniclau cynnar dopograffïau Cymru. Eithr dim ond yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf y casglwyd gwybodaeth meintiol; yn y lle cyntaf yn breifat a lleol ond yn ddiweddar yn gynhwysfawr ac ar raddfa genedlaethol. Digwyddiad o bwys oedd cyfarwyddyd y Swyddfa Gartref yn 1801 i glerigwyr Cymru i gasglu manylion am arwynebedd cnydau arbennig yn eu hardaloedd. Cyfunodd David Thomas (1963) y data yma ar ffurf map a thrwy hynny ail-lunio rhyw gymaint o dirweddau amaethyddol Cymru tros ganrif a hanner yn ô1. Anturiaeth fawr y diweddar Sir Dudley Stamp- mewn cydweithrediad â byddin fawr o arolygwyr tir gwirfoddol — a arloesodd Arolwg Cyntaf Defnydd Tir Prydain yn y tridegau. Dosbarthwyd tir yn rhyw chwech o brif fathau, e.e. tir porfa, tir âr, tir coedwig a thir trefol a diwydiannol ac fe gyhoeddwyd llawer o fapiau lliw o Gymru a Lloegr ar y raddfa o 1 i'r filltir. Uchafbwynt yr