Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Debygwn W. Freeman Evans LLE'R GYMRAEG YN NIWYDIANNAU CYMRU HYDERAF fod eich nodiadau golygyddol yn rhifyn Rhagfyr wedi cael sylw dyladwy ymhlith arwein- wyr byd addysg Cymru. Tybed a roddwyd ystyriaeth i wir ystyr y geiriau a ganlyn?: Ni ellir yn rhesymol amau pwysigrwydd gwyddoniaeth a thechnoleg i Brydain, gwlad â gormod o boblogaeth i gyfateb i'w hadnoddau crai cynhenid. Ar ein gallu creadigol yn unig y gallwn ennill ein bywoliaeth o hyn ymlaen, mewn byd sydd yn feunyddiol ddod yn fwy cystadleuol. Fe sylweddola'r Llywodraeth yn dda mor dyngedfennol fydd y blynyddoedd nesaf gyda chynhyrchu technolegwyr y dyfodol. Ond, rhywfodd, nid ydym eto wedi medru perswadio'n pobl ifanc fod diwydiant a thechnoleg yn oruchwylion parchus, sy'n rhoddi boddhad i'r rhai academaidd eu haddysg.' Mae'n amlwg mai at Brydain yn gyffredinol y cyfeirir yn y dyfyniad uchod, ond beth am y sefyllfa arbennig yng Nghymru? Er cynddrwg y broblem ym Mhrydain, mae mor dyngedfennol â chnul i fywyd Cymru. O edrych ar fywyd Cymru heddiw gwelwn nad oes bron ddim ond ei diwydiannau yn llwyddo ar raddfa eang. Yn nwylo'r diwydianwyr y mae'r awennau, y nhw yw'r bobl sy'n cyfrif. Prin y mae unrhyw gyswllt rhwng yr arweinwyr diwydiannol, yr aristocratiaeth newydd, â gwerin Gymraeg Cymru, oddigerth fod y gweithwyr yn dibynnu ar eu meistri am eu cynhaliaeth. Eithriadau yw'r ychydig Gymry sydd yn dal swyddi o bwys yn y gyfundrefn ddiwydiannol bresennol, a phrin iawn yw Cymry Cymraeg yn eu plith. Nid yw hyn, wrth gwrs, ond canlyniad naturiol i'r ffaith na wnaed unrhyw ymgais hyd yn hyn i berswadio'n 'pobl ifanc fod diwydiant a thechnoleg yn oruchwylion parchus, sy'n rhoddi boddhad i'r rhai academaidd eu haddysg'. Fel pob gwlad yng ngorllewin Ewrop, a thu hwnt, mae Cymru yn datblygu yn fwy a mwy diwydiannol; bydd yma gynnydd pellach yn y dyfodol agos. A yw llif y chwyldro diwydiannol newydd hwn yn mynd i foddi'r bywyd Cymreig, neu a yw'r Cymry Cymraeg am gydio ynddo, a'i drin a'i ddefnyddio 'er mwyn Cymru'? Hyd y gwelaf i, nid oes ond un ffordd inni fanteisio arno, SAFBWYNT PERSONOL AR WYDDONIAETH HEDDIW sef yw hynny, trwy gael Cymry Cymraeg i'r swyddi a'r safleoedd o bwys yn y diwydiannau mawr. Ond pa obaith sydd gennym i'r cyfeiriad yma ? Mae lle o hyd i'r crefftwr medrus a'r celfydd ei law yn niwydiannau ein gwlad, ond prif angen y byd diwydiannol heddiw yw'r rhai 'academaidd eu haddysg', hufen ein colegau a'n prifysgolion. A phrif angen Cymru heddiw yw cael y Cymry Cymraeg disgleiriaf i'w diwydiannau. Mae galw am grwsâd i'r amcan yma yn ein hysgolion a phrif- ysgolion. Pwysleisier 'mor dyngedfennol fydd y blynyddoedd nesaf gyda chynhyrchu technolegwyr y dyfodol'. Os yw'n 'dyngedfennol' i Brydain, ni allaf feddwl am air i fesur a mynegi ei bwysigrwydd i Gymru! Yn wir, fe ddylai'r crwsâd fod yn un cysegredig yng Nghymru, am fod popeth, ie popeth o werth ym mywyd ein cenedl yn dibynnu arno. Pe cawn i rhyw gant neu ddau o wyddonwyr a thechnolegwyr mwyaf addawol ein cenedl i ddod ymlaen 'er mwyn Cymru' yn ystod y pum mlynedd nesaf, a phe cawn eu gosod yn strategol yn ein prif ddiwydiannau, 'rwyn sicr y gwelid amgenach gwedd ar y diwydiannau hynny o safbwynt y Gymraeg a'r gwerthoedd Cymreig ymhen rhyw ugain mlynedd. Os y perchir y gwerthoedd hynny yn y boardroom, ni fydd angen poeni yn eu cylch yn y rhannau eraill o'r busnes. Ar hyn o bryd estron yw'r Gymraeg yn y lleoedd o bwys yn ei gwlad ei hun. Meddylier am ardal fel Cefn Mawr, ardal nad yw'n amlwg iawn am ei ffyddlondeb i'r Gymraeg. Pe ceid Cymro Cymraeg, un yn falch o'i dras a'i iaith, yn bennaeth ar gwmni Monsanto, a rhai eraill o gyffelyb ysbryd wrth ei benelin, buan y ceid gweld cryn newid yn agwedd trigolion Cefn Mawr tuag at y Gymraeg a phethau Cymru. Ond breuddwyd yw hyn na sylweddolir mohono oni ellir perswadio hufen ein hieuenctid y gall diwyd- iant a thechnoleg roi 'boddhad i'r rhai academaidd eu haddysg'. Yn y byd sydd ohoni heddiw methaf weld fod ffordd arall, i achub y Gymraeg yn y lle cyntaf a wedyn i ehangu maes ei defnyddioldeb.