Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Treuliad Gyffuriau a Chemegolau R. TECWYN WILLIAMS, F.R.S. Yr awdur yng nghynadledd Cangen Wyddonol Cymdeithas lechyd y Byd yn astudio cynlluniau ar gyfer archwilio y cemegolau a ychwanegir at fwydydd yn fwriadol a damweiniol; Genefa, Gorffennaf 1966 Tocsicoleg fiocemegol YN y dyddiau hyn digwydd cyfansoddiau cemegol, y rhan fwyaf ohonynt yn estronol i'r corff, yn ein bwyd a diod ac weithiau hyd yn oed yn yr awyr a anadlir gennym, er enghraifft, y pryfleiddiaid (cemegolau-lladd-pryfed) a'r cemegolau a geir mewn mwg moduron. Mae'n debyg hefyd fod y rhan fwyaf o'r sylweddau a ddefnyddir neu a gyffyrddir gennym bob dydd yn cynnwys olion o lawer o gemegolau estronol. Dyfeisiwyd y rhan 'Rydym yn llawenhau bod cyfraniad cyntaf yr Athro R. Tecwyn WiIIiams, B.Sc., Ph., D. (Cymru), D.Sc. (Birm.), Doc.Hon.Causa (Paris) i Y GWYDDONYDD yn ymddangos yr un pryd â chyhoeddi'r newydd iddo gael ei ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (F.R.S.). Yn sicr mae yn un o'r biocemegwyr enwocaf yn y byd ac wedi ei anrhydeddu ar y cyfandir Docteur Honoris Causa, Prifysgol Paris, yn 1966, ac yn yr Unol Daleithiau, lle cafodd ei ethol yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Tocsicoleg y wlad honno yn 1966. Ar ei fynych deithiau o amgylch y byd pwysleisia ym mhobman mai Cymro ydyw. Cafodd ei eni yn Abertilerì, ond cyfrannodd yn helaeth o naws y Gogledd drwy fod ei fam yn hanu o Lanystumdwy a'i dad o Landecwyn, yn Sir Feirionnydd. Aeth y teulu i fyw i Flaenau Ffestiniog hyd at yr amser y dechreuodd yr Athro Williams yn yr ysgol. Pryd hynny, aethant yn ôl i'r De, ond ni chollodd yr Athro Williams ei famiaith, ac ni chafodd ddim anhawster i ysgrifennu'r erthygl hon ynddi. Dechreuodd ar ei yrfa yng Ngholeg y Briflysgol, Caerdydd, gan raddio yno a gwneud ymchwil ar gyfer y radd o Ddoethur. Gwnaeth ymchwil pryd hynny ar yr asid glucuronig, un o garthion y corff. Dyma oedd y cnewyllyn a'i harweiniodd i ddatblygu'r maes a gysylltir â'i enw heddiw, sef Tocsicoleg a Pharmacoleg Biocemegol. O Gaerdydd aeth yn aelod o staff Prifysgol Birming- ham, ac yn ddiweddarach yn uwch-ddarlithydd i Lerpwl lle cydweithiodd â Chymro enwog arall mewn Biocemeg, sef R. A. Morton, F.R.S. (a gyfrannodd hefyd i Y GWYDDONYDD, gw. cyf. iii, tud. 76, 1965). Cafodd Dr. Williams ei apwyntio i'r Gadair newydd a sefydlwyd yn Ysbyty'r Santes Fair yn Llundain yn 1949. 'Rydym yn wirioneddol ffodus ein bod wedi cael biocemegydd mor enwog i gyfrannu'r ail erthygl yn y gyfres a nawddogir gan Gwmni Beecham. [GOL]. fwyaf o'r cemegolau hyn (e.e. drygiau a chemegolau- lladd-chwyn a phryfed) er lles dynolryw ac er bod llawer ohonynt wedi dwyn manteision mawr i'r ddynoliaeth, nid yw hi eto yn glir i ba raddau yr ydym yn cael ein gwenwyno ganddynt yn araf deg. Mae'r broblem hon wedi peri datblygiad math newydd o docsicoleg (neu wenwyneg) sydd yn sefydledig ar egwyddorion biocemegol. Yn y gorffennol yr oedd tocsicoleg yn ymwneud gan fwyaf â gwenwyno bwriadol (fel hunanladdiad a