Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pa mor hen yw'r ddaear? Yr astranaut yw'r unig un sy'n ei gweld fel cyfanwaith Oedran y Ddaear VERNON J. DAVIES AWGRYMODD James Hutton, hanesydd natur a ffermwr yn yr Alban, yn y ddeunawfed ganrif, fod y ddaear yn hen iawn. Yn ei lyfr Damcaniaeth y Ddaear, a gyhoeddwyd yn 1783, dywed na allai weld 'dim argoelion diwedd y byd, dim arwydd o'r dechreuad' — gofynnai am amser diderfyn ac anghytunai â'r farn gyffredin am oed y byd. Mae ei ddamcaniaeth a adnabyddir yn awr fel 'Egwyddor Unffurfedd' i'r byd anorganig fel y mae esblygiad i'r byd organig. Cyhoeddwyd damcaniaeth Hutton (1726-97) mewn cyfnod pan ystyriwyd mai rhai miloedd o flynyddoedd yn