Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Ddwy Ddamcaniaeth am y Creu mewn Cosmoleg YN yr erthygl flaenorol (gw. Y GWYDDONYDD, cyf. 5, tud. 32, 1967) awgrymais bod dwy ddamcan- iaeth fawr mewn cosmoleg ar hyn o bryd, sef y creu parhaol a'r ffrwydriad fawr. Yn namcaniaeth y creu parhaol erys y dwysedd yr un bob amser, felly mae yn angenrheidiol creu mater newydd o ddim oherwydd ymestyniad y bydysawd. Mae bydysawd o'r math yma yn anfeidredd mewn amser yn ogystal â mewn cyfaint, hynny yw, ni fu dechrau i'r bydysawd hwn. Ar y llaw arall, yn namcaniaeth y ffrwydriad fawr erys cyfanswm y mater yr un, felly fel yr ehanga'r bydysawd, rhaid bod y dwysedd yn lleihau. Yn ôl y ddamcaniaeth yma, bu dechreuad pendant i'r bydysawd pan oedd y mater i gyd wedi ei grynhoi i'r un lle a'r dwysedd yn enfawr. Dechreuodd y bydysawd, y gwyddom ni amdano, gyda ffrwydriad-y bang fawr. Yn naturiol dymuna seryddwyr wybod pa un o'r ddwy ddamcaniaeth sydd yn gyson â'r bydysawd y trigwn ynddo. Ceisiant wneud hyn, nid drwy ddadleuon athronyddol, ond drwy gasglu gwybod- aeth am y bydysawd a cheisio darganfod rhyw ffaith a broffwydir gan un ddamcaniaeth ond nid gan y Hall. Byddant hefyd yn ceisio dangos nad yw rhyw effaith a broffwydir gan un ddamcaniaeth yn bod. Yn y modd hwn y gobaith yw y bydd yn bosibl gwrthod un o'r ddwy ddamcaniaeth. Sylwer nad yw hyn yn profi mai'r llall sydd yn iawn. Cyn disgrifio rhai o'r arbrofion sydd wedi eu gwneud i geisio gwahaniaethu, ceisiaf roi syniad o'r broblem sydd yn wynebu seryddwyr gan ddefnyddio eglureb syml. Cysidrwn unrhyw goleg addysg uwchradd lle y mae nifer sylweddol o ddynion a merched ifanc yn byw. Dygwn i'r coleg hwn ymwelydd o rhyw fyd arall na wyr ddim am y coleg nag am ein system addysg. Caniatawn iddo edrych ar y coleg a'r myfyrwyr am un funud, ond heb adael iddo ofyn cwestiwn na siarad â neb. Ar ôl y munud awn ag ef oddi yno a gofyn iddo egluro sut fath sefydliad yw y coleg. Yr unig beth y gallai'r gwr hwn ei ddweud wrthym yw bod cannoedd o bobl yn byw yn y coleg a phob un yn ymddangos tua'r un oed, sef I. P. WILLIAMS o gylch yr ugain oed. Pe gofynnem iddo sut y daeth lle fel hyn i fodolaeth, gallai gynnig un o ddwy ddamcaniaeth, ond ni allai wneud dewis terfynol. Un ai, ugain mlynedd yn ôl, bu digwydd- iad arbennig yn y coleg a ganwyd pob un o'r myfyrwyr ac iddynt fod yn y coleg byth oddi ar hynny ac yn heneiddio yn ara-deg, neu bod myfyrwyr newydd yn dod i'r coleg yn rheolaidd i gymryd lle y rhai oedd yn gadael. Gwelwn na all ein ymwelydd benderfynu pa un ai'r creu parhaol ynte'r bang fawr fu'n gyfrifol am bresenoldeb y myfyrwyr yn y coleg! Dyma'r un broblem sydd yn wynebu seryddwyr, ond bod yr amser a gawn ni i edrych ar y sefyllfa o'i gymharu ag oed y ser yn llai na'r munud mewn ugain mlynedd a gafodd ein hymwelydd; tua chwech eiliad fyddai'r gymhariaeth briodol. Y gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddwy ddamcan- iaeth yw fod mater yn cael ei greu mewn un, tra yr erys yr un peth yn namcaniaeth y bang fawr. Fel yr eglurwyd yn yr erthygl gyntaf, fodd bynnag, y gradd o greu sydd yn angenrheidiol yn y creu parhaol yw un atom o hydrogen yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul bob 300 mlynedd. Wrth gwrs, mae'n hollol amhosibl darganfod creu ar y raddfa yma gan fod mewn blwch matchis tua 100,000,000,000,000,000,000 o atomau a buasai yn hollol amhosibl felly darganfod un atom newydd mewn blwch bach fel hyn. Nid yw felly yn bosibl gwneud unrhyw ddewis rhwng y ddwy ddamcan- iaeth gydag arbrawf o'r math yna. Gwahaniaeth arall rhwng y ddwy yw y cwestiwn o oedran. Mae bydysawd y creu parhaol yn anfeidredd tra dechreuodd bydysawd y bang fawr gyda ffrwydrad amser penodol yn ôl. Drwy fesur cyflymder perthnasol a phellter galaethau eraill oddi wrthym gallwn wneud amcangyfrif o'r amser yma. Ei faint yw 1/H, gyda H yn cynrychioli constant Hubble. Gesyd hyn oedran o rhyw ddeng mil o filiynnau o flynyddoedd i'r bydysawd os derbyniwn ddamcaniaeth y bang fawr. Felly os gallwn brofi bod unrhyw seren alaeth, blaned neu unrhyw wrthrych yn y bydysawd yn hyn na deng mil o filiynnau o flynyddoedd gallwn