Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Blas ar Ffiseg Darlith Agoriadol yr Athro C. A. TAYLOR, D.Sc. (Adran Ffiseg, Coleg y Brifysgol, Caerdydd) (Gofidiwn na ellir cynnwys mewn ysgriflyr holl arbrofion trawiadol a weithiwyd gan yr Athro Taylor yn ystod ei ddarlith. Teimlwn, er hynny, fod yr ysgrif o ddiddordeb cyffredinol fel y mae.-GoL.) BYDDAF yn gofidio fwyfwy o hyd fod y wasg, y teledu a'r radio yn creu argraff hynod o anffodus wrth ymdrin â Ffiseg. Pe gofynnech i'r dyn cyffredin 'Beth yw Ffiseg?' byddai'n sicr o gyfeirio at ynni niwcliar a grym atomig; efallai y byddai'n cyfeirio at gymhlethdod a manylrwydd y gwaith arbrofol ac y mae'n bur debyg y byddai'n gweld y ffisegydd fel gwr oeraidd a gwrthrychol. Y mae'n ddarlun rhyfedd ac yn un hollol gamarweiniol, gan fod Ffiseg i'm tyb i yn bwnc gyda mesur helaeth o ddyneiddiaeth yn perthyn iddo. Yr oedd yr hen enw 'athroniaeth naturiol', enw a ddefnyddir hyd heddiw yn rhai o brifysgolion yr Alban, yn gweddu i'r dim. Dyn a'i amgylchedd ydyw maes Ffiseg a chan fod dyn yn rhan o'i amgylchedd rhaid iddi fod yn astudiaeth ddynol. Mae'r syniad o wyddonydd oer gwrthrychol yn atgas i mi; rhaid i'r ffisegydd wrth ddychymyg a chrebwyll o'r radd flaenaf ynghyd â'r reddf i ymdeimlo yn synhwyrus â'i alwedigaeth. Nid trwy ymarferion ffurfiol diddychymyg y gellir meithrin y nodweddion hyn, ac er fod hyfforddiant manwl a gofalus yn hanfodol credaf ei bod yn bwysicach inni gyfleu i'n myfyrwyr, yn enwedig y rhai ieuengaf, wir ymdeimlad â'r pwnc, mewn gair, ceisio dangos iddynt fod blas ar Ffiseg. Fy mwriad i yn y ddarlith hon ydyw ceisio darlunio, hyd yn oed os na fedraf ddiffinio, y blas arbennig hwnnw sydd ar fy mhwnc. Y ddau fyd Yr ydym yn byw mewn dau fyd, byd profiad, a byd syniadau, syniadau a adeiledir ar sail profiad gan geisio gosod trefn ar y byd hwnnw. Mae a wnelo Ffiseg lawer iawn â pherthynas y ddau fyd. Datblygodd ein dealltwriaeth o ddeddfau mudiant tros lawer o ganrifoedd ac erbyn diwedd y ganrif ddiwethaf tybiai gwyddonwyr fod dirgelion mudiant i gyd wedi eu datrys. Yr oedd deddfau mudiant enwog Newton mor gryno ac mor berffaith fel y gellid rhagfynegi canlyniadau arbrofion a hynt comedau heb arlliw o amheuaeth ac mewn canlyniad daeth gwyddonwyr i gredu fod y deddfau hyn yn realiti gwirioneddol, gan anghofio mai creadigaeth y dychymyg ydynt, rhan o fyd syniadau nid o fyd profiad. Gadewch inni ystyried rhai o ddirgelion mudiant ymhellach. Pam fod gwrthrych yn cwympo tua'r ddaear wedi ei ollwng? Pam fod gwrthrych yn dilyn llwybr arbennig wedi ei daflu i'r awyr? Pam fod trol drom yn anos ei symud ar dir gwastad na throl ysgafn? A pham fod y drol drom yn anoddach ei hatal na'r drol ysgafn unwaith y bo'n symud? O'r dirgelion hyn y cyfyd y syniad fod i bob gwrthrych nodwedd arbennig, a elwir 'màs', sydd a wnelo a thuedd y gwrthrych i aros yn ei unfan neu i gyflymu ac arafu. O fewn y syniadaeth yma y mae'r hyn a adwaenwn ni fel 'pwysau' i'w briodoli i atyniad 'màs' y ddaear ar y 'màs' tan sylw. Ymhellach, y mae'r ffisegydd yn cydnabod deddfau cadwraeth. Rhan o fyd syniadau ydyw'r rhain eto wrth gwrs. Un ohonynt ydyw deddf cadwraeth egni— 'ni ellir cynhyrchu na dinistrio egni'. Hefyd deddf cadwraeth 'màs', a deddf cadwraeth momentwm. Dangosodd arbrofion fod y rhain i gyd yn ddeddfau buddiol, cyffredinol-mor fuddiol ac mor gyffredinol yn wir nes eu derbyn fel rhan diamheuaeth o fyd profiad. Ac felly pan awgrymwyd tua diwedd y ganrif ddiwethaf nad ydoedd egni bob amser yn hollol gadwedig, na 'màs', ond bod cysylltiad rhyngddynt (a amlygir yn hafaliad enwog Newton e=mc2) yr oedd adwaith y gwyddonwyr yn syfrdanol-yr oedd byd eu