Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG Y BRIFYSGOL, CAERDYDD UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: C. W. L. BEVAN, C.B.E., B.SC., PH.D., F.R.I.C. Y mae'r rhan fwyaf o adeiladau'r Coleg ym Mharc Cathays. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau Prifysgol Cymru (B.A., B.Sc., B.Sc.Econ., B.Arch., B.Pharm., B.Mus.). Gellir astudio'r pynciau a ganlyn: YNG NGHYFADRAN Y CELFYDDYDAU Cymraeg, Saesneg, Lladin, Groeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg. Portwgaleg, Hebraeg, Athroniaeth, Efrydiau Beiblaidd, Hanes, Hanes Cymru, Cerddoriaeth, Archaeoleg, Addysg, Mathemateg, Seicoleg, Economeg, Cyfraith. YNG NGHYFADRAN EFRYDIAU ECONOMAIDD A CHYMDEITHASOL Economeg, Cyfraith, Athroniaeth, Cyfrifyddiaeth, Cysylltiadau Diwydiannol, Seicoleg, Gweinyddiad Cymdeithasol, Cyfarwyddo a Rheoli Gweithwyr, Gwyddor Gymdeithasol, Gwleidyddiaeth, a Chymdeithaseg. YNG NGHYFADRAN GWYDDONIAETH Mathemateg Bur, Mathemateg Gymwysedig, Ffiseg, Cemeg, Llysieueg, Swoleg, Microbioleg, Daeareg, Anatomeg, Ffìsioleg, Biocemeg, Meteleg, Mwyngloddiaeth, Peirianneg Sifil, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Drydanol ac Electronig, Seicoleg, Archaeoleg, ac Economeg. Y mae gan v Coleg neuaddau preswyl ar gyfer dynion a merched. Ceir hefyd feysydd chwarae, gymnasiwm, ac Undeb Myfyrwyr. Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn gan y Coleg ar sail canlyniadau'r flwyddyn gyntaf. Adeiledir yn awr Ganolfan Cyfrifiaduron i ddal cyfrifiadur English Electric 4.S0. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: F. LLEWELLYN-JONES, C.B.E., m.a D.PHIL., D.SC., F.INST.P. Darperir y cyrsiau canlynol i fyfyrwyr gwyddonol: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth Bur a Gwyddoniaeth Gymwysedig. (h) Diploma'r Coleg mewn Ffiseg Fathemategol. (c) Diploma'r Coleg mewn Ystadegau Mathemategol a Dadansoddiad Cyfrifyddol. (ch) Diploma'r Coleg mewn Cartograffi. (d) Diploma'r Coleg mewn Peirianneg Gemegol. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Bur yn cynnwys Athroniaeth, Economeg, Mathemateg Bur, Ystadegau, Mathemateg Gymwysedig, Ffiseg, Cemeg, Daeareg, Daearyddiaeth, Botaneg, a Swoleg. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Gymwysedig yn cynnwys Peirianneg Sifil, Drydanol, a Mecanyddol; Peirianneg Gemegol, a Meteleg. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Dyfernir Ysgoloriaethau Derbyn ar ganlyniad arholiad a gynhelir ym mis Chwefror bob hlwyddyn. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd.