Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Hwb i'r Galon' Mrs. Esperanza del Valle Vaquez (ar y dde) yn gadael yr ysbyty yn Texas. Hi oedd y claf cyntaf wella ar ôl triniaeth lawfeddygol gyda phwmp-calon artiffìsial yn cael ei ddefnyddio Uchelgais lawfeddygaeth heddiw ydyw ad- newyddu organau diffygiol yn y corff, naill ai trwy drawsblannu o gorff arall neu gydag organau hollol artiffisial. Gwnaed cyfraniad pwysig yn y cyfeiriad hwn yr haf diwethaf gan Dr. Michael Ellis DeBakey, yr arbenigwr byd-enwog ar lawfeddygaeth y galon, yn Ysbyty Methodistaidd Houston, Texas. Yn yr ysbyty yr oedd gwraig o Fexico, Mrs. Esperanza del Vella Vasquez, a oedd wedi dioddef oddi wrth glefyd ar y galon ers blynyddoedd. Gofynnai'r driniaeth am orffwyso fentrigl chwith y galon, sef y rhan honno o'r corff sydd yn bennaf gyfrifol am yrru'r gwaed o gwmpas y corff. Llwyddodd Dr. DeBakey i osod pwmp plastig yn y corff i gynorthwyo'r galon trwy dderbyn tri chwarter y gwaith o bwmpio'r gwaed yn ôl curiad y galon. Ddeng niwrnod yn ddiweddarach, wedi rhoddi cyfle i'r galon orffwyso a chryfhau, tynnwyd y ddyfais ymaith heb unrhyw anhawster. Y mae Mrs. Vasquez yn awr wedi gwella yn llwyr ar ôl y driniaeth ac wedi dychwelyd i'w gwaith. Hwn oedd y pedwerydd tro i'r meddygon fentro'r driniaeth ar gleifion dynol er eu bod wedi arbrofi yn llwyr ar anifeiliaid ymlaen llaw. Yr oedd Dr. DeBakey ddwy waith a Dr. Kantrowitz yn Ysbyty Maimonides, Efrog Newydd, un waith wedi defnyddio'r driniaeth ar gleifion a oedd yn ddifrifol wael ac nad oedd obaith iddynt fyw ond trwy'r driniaeth hon. Yn y tri achos yr oedd y pwmp wedi gweithio yn berffaith ond fod y cleifion wedi marw rai dyddiau yn ddiweddarach oherwydd gwendidau eraill. Er hynny yr oeddynt wedi cyfrannu yn fawr at wybodaeth a medr y meddygon ac at y driniaeth gwbl lwyddiannus a dderbyniodd Mrs. Vasquez. Sail y llwyddiant hwn oedd y gwaith blaenorol a wnaed gan Dr. DeBakey ar ddefnyddio pibellau plastig yn y corff i adnewyddu gwythiennau a rhydweliau. Gwneir y rhain yn gyffredin o neilon wedi ei wau, ac y mae miloedd o bobl bellach wedi eu hadnewyddu yn y dull hwn. Yr anhawster gydag unrhyw driniaeth o'r fath ydyw fod y corff yn tueddu i ymwrthod ag unrhyw ddeunydd annaturiol a'r gwaed yn ceulo o'i gwmpas. Cafwyd fod rwber silicon yn rhydd o'r diffyg hwn ac o'r deunydd yma y lluniwyd dyfais Dr. DeBakey. Y mae'r plastig mewnol yn peri i gelloedd y gwaed ffurfio meinwe sydd yn debyg iawn i wyneb mewnol y galon ei hun