Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau LLE DYCHYMYG A GALLU CREADIGOL YN NATBLYGIAD GWYDDONIAETH* D. MATTHEW WILLIAMS, M.Sc., Ph.D. Pan oedd Arthur Koestler yn chwilio am deitl i'w lyfr pwysig ar Copernicus, Kepler a Galileo, dewisodd The Sieepwa/kers er mwyn awgrymu, mae'n amlwg, mai nid trwy 'rym ymennydd cywrain a di-goll' yn unig y ceir y gweledigaethau sy'n dyngedfennol yn nhwf gwyddoniaeth, fel y tybir yn gyffredinol. Clywodd llawer sydd wedi astudio Cemeg Organig y stori am Kekulé wrth ben- dwmpian o flaen y tân, ryw hanner ffordd rhwng cwsg ac effro, yn gweld falensiau molecwl benser yn ffurfio cylch a chael gafael ar y syniad a roddodd fodolaeth i gangen newydd o Gemeg Organig a setlo llawer o broblemau oedd wedi blino cemegwyr cyn hynny. Llyfr newydd Lle dychymyg yn nhwf gwyddoniaeth yw pwnc* llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar, llyfr sy'n cynnwys sylwedd cyfres o ddarlithiau a roes yr awdur ar hanes gwyddoniaeth ffisegol, yn bennaf yn y ganrif hon. A phwysigrwydd yr elfen greadigol yng ngwyddoniaeth a thechnoleg oedd pwnc darlith a draddododd Sir John Cockroft fel llywydd Cymdeithas Athrawon Gwyddoniaeth y llynedd. Mae'n amlwg fod yna deimlad lled gyffredinol ymysg gwyddonwyr y dylid ceisio cywiro syniadau a goleddir gan y cyhoedd yn weddol gyffredin heddiw am hanes a swydd gwyddoniaeth a'r method gwyddonol-syniadau sy'n llawer mwy perthnasol i waith technegol nag i wyddoniaeth. Mae technoleg wedi achosi'r fath gyfnewidiadau yn ein bywyd beunyddiol yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf fel bo gwir berygl i ni anghofio mai ymdrech i dreiddio i ddirgeledig- aethau'r cread yw gwyddoniaeth ac nid cais i ddod o hyd i ryw lamp Aladdin i'w rhwbio a chael dewis i wneud gwyrthiau drosom. Yn ddiamau y mae tuedd i'r cyhoedd feddwl am wyddoniaeth fel gallu sydd bob amser yn dweud y gwir ac yn y pendraw yn mynd i ddarganfod yr holl wir. Mae dweud bod rhywbeth yn wyddonol gywir yn golygu i'r rhan fwyaf ohonom na ellir amau'r gosodiad, bod yna sicrwydd sydd y tuhwnt i unrhyw amheu- aeth, heb feddwl bod yna amodau i'r gosodiad. Y gwirionedd yw nad oes yr un theori wyddonol wedi'i phrofi'n gywir: y cwbl a ellir ei ddweud yw na ddarganfuwyd dim hyd yn hyn i'w gwrthbrofi. Dywedwyd wrth Max Planck ar gychwyn ei yrfa academaidd y dylai osgoi astudio a gwneud ymchwil ym maes ffiseg, bod popeth diddorol yn y maes hwnnw wedi'i ddarganfod eisoes: ni fyddai sôn heddiw am Planck's Constant nac efallai am theori'r cwantwm, petai wedi gwrando ar y rhai a fu yn ei gynghori. Yr oedd eu syniadau ffìsegol, a dybient hwy i fod mor bendant a deddfau'r Mediaid a'r Persiaid, ymhell o fod yn wir. Planck a ddywedodd yn ei hunangofiant, ar ôl chwyldroi syniadau gwyddonol y ganrif ddiwethaf, bod yn rhaid i'r gwyddonydd sy'n ymchwilio ar ororau ein gwybodaeth o'r cread, wrth ddychymyg byw a gallu creadigol y celfyddydwr: dyna a rydd iddo'r gweledigaethau a fydd yn esgor ar ddirnadaeth ddyfnach o weithgaraeddau natur. 'Y gwyr ieuanc a welodd weledigaethau', meddai'r proffwyd Joel, a hwy sydd wedi gwneud y camau breision ymlaen ym maes gwyddoniaeth oddi ar ddyddiau Copernicws, Kepler, Galileo a Newton. Gweledigaeth Newton Yn ei ddarlithiau, mae Dr. Taylor wedi cyfyngu ei hun i bedair enghraifft o hyn yn hanes datblygiad ffiseg. Y cyntaf yw'r weledigaeth a gafodd Newton cyn rhoi i ni y deddfau symud sydd wedi bod yn sail ffiseg hyd heddiw. Bu Kepler wrthi yn ddyfal am flynyddoedd yn ceisio cael esboniad ar gylch- droeon y planedau, yn enwedig y blaned Mars, yn llafurio'n galed gyda'i fathemateg, cyn iddo daro ar y syniad mai elips ac nid cylch yw llwybr y planedau, fel y tybiwyd, oddi ar ddydd Aristoteles. Ond yr oedd yn rhaid wrth weledigaeth arall cyn cael y synthesis a alluogodd Newton i esbonio sail y deddfau a ddarganfu Kepler. Einstein, Planck a Rutherford Ceir y tair enghraifft arall yn hanes ffiseg yn y ganrif hon-Einstein a'r weledigaeth dyngedfennol a gafodd cyn cyhoeddi deddf perthansedd, a lliwio holl ddatblygiad ffiseg fathemategol oddi ar hynny;