Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CAERDYDD Yn ystod gwyliau'r Nadolig aeth nifer o fyfyrwyr yr adran Fioleg Allanol ar daith i Jamaica i astudio adar, planhig- ion a bywyd y môr yno. Dyma sylwadau Mary E. Gilliam, trefnydd y daith. Ar ôl taith heibio i Efrog Newydd a Nassau, cyrhaeddodd y cwmni Gampus Prifysgol Ynysoedd y Gorllewin, a gwneud eu cartref yno am dair wythnos. Roedd yr erwau o amgylch yn baradwys i bob biolegwr gyda chyfoeth o bob math o blanhigion mewn blodau a lliaws di-ri o adar yn uchel eu cloch. Gallem hefyd logi ceir i deithio ymhellach ac astudio bob math o amgylchfyd gan fod amrywiaeth mawr o dywydd ar yr ynys o law trwm y Mynyddoedd Gleision at sychder yr ardaloedd yn y de lIe tyf y cactus. Gwelir yr un amrywiaeth ar ffurfiau'r arfordir; mawnogydd, gwastadiroedd halen a chreigiau calch a thraethau glân o dywod-ceir y cwbl yn Jamaica. Daw'r gwyntoedd â phethau diddorol i'r lan ar rai o'r traethau hefyd. Diddorol oedd gweld adar mawr a'u hadenydd yn ddeg troedfedd o led yn ymrafael â wennol y môr wrth bysgota â'r pelicanod yn plymio yn syth i'r dyfnder am fwyd. Caem ninnau gip ar ryfeddodau'r dyfnder yma trwy fenthyg cwch gwaelod gwydr yr adran Swoleg a chawsom gasgliad cynhwysfawr o'r coral a'r pethau eraill. Mewn tair wythnos fer daethom mewn cysylltiad â chyfran helaeth o natur a thrigolion yr ynys gan ddych- welyd gyda gwybodaeth llawer eangach am ei daearyddiaeth a'i bywydeg. Hefyd, wrth gwrs, gyda llawer troedfedd o ffilm a channoedd o luniau lliw. Apwyntiwyd yr Athro Andrew Taylor, cyfarwyddwr y sefydliad a phennaeth adran Addysg, Prifysgol Abadan, i'r Gadair Addysg. Addysgwyd yr Athro Taylor, sydd yn 46 mlwydd oed, yn Seland Newydd lle y daeth yn brif fyfyriwr mewn Addysg yn y Brifysgol. Pan dorrodd y rhyfel allan gadawodd Wasanaeth Addysg Seland Newydd ac ymunodd â'r llu arfog. Dychwelodd yn 1946 i Seland Newydd fel dirprwy brifathro ac wedyn fel darlithydd yng Ngholeg Athrawon, Wellington. Aeth i Ghana yn 1950 i ddarlithio ar seicoleg addysg yn y Brifysgol yno a daeth yn bennaeth yr adran yno yn 1958. Aeth i Ibadan yn 1961. Apwyntiwyd y Dr. K. C. Rockey, darlithydd a darllenydd ym Mheir- iannaeth Sifil yng Ngholeg Abertawe i Nodiadau o'r Colegau Gadair Peiriahnaeth Sifil ac Adeiladol. Enillodd y Dr. Rockey, sydd yn 45 oed, ei radd gyntaf, B.Sc. Peiriannaeth (Uundain) tra'n gweithio fel cynllunydd yn Nociau Devonport. Wedi bod am gyfnod yn ddarlithydd yng Ngholeg Technolegol, Smethwick, daeth Dr. Rockey i Abertawe fel is-ddarlithydd yn 1948. Cafodd ei radd o M.Sc. (Uundain) yn 1949 a'i ddoethuriaeth (Ph.D.) yn 1955. Bu yn yr Unol Daleithiau fel athro ym Mhrifysgol Brom am y flwyddyn 1960-61. COLEG TECHNOLEG UWCHRADD CYMRU Bu diddordeb cynyddol ymhlith ffisiol- egwyr yn ddiweddar yn yr hyn a elwir yn 'Glociau Sircadaidd'. Wrth hyn fe olygir y newidiadau rhythmig sy'n digwydd yn y corff yn ystod y dydd ynghyd ag astudiaethau o'r peirianwaith metabolaidd sydd yn eu rheoli. Delio â'r materion hyn wnaeth Dr. W. Goody, o Ysbyty Cenedlaethol Clefydau'r Meddwl yn Llundain, wrth annerch Cymdeithas Fioleg y Coleg yn ddiweddar. Dyfarnodd cyfadran Bwyd a Diod Cwmni Beecham rodd ychwanegol o £ 4,000 i hyrwyddo'r ymchwiliadau ar fitamin C a wneir ar hyn o bryd yn is-adran Bioleg Gymwysedig y Coleg. Bwriedir defnyddio peth o'r rhodd i archwilio'r ffordd y mae oedran a rhyw yn effeithio ar fetaboleg fitamin C yn y corff. Bu sawl aelod o staff y Coleg yn cynhadledda yn ystod gwyliau'r Pasg. Bu'r Dr. Ben Thomas (adran Ffiseg Gymwysedig) yn swyddog cyhoeddus- rwydd i'r Gynhadledd Gydwladol ar Ymbelydredd Fiolegol a gynhaliwyd ym Mhorth Meirion dan nawdd NATO. Bu'r Dr. R. Elwyn Hughes (adran Bioleg Gymwysedig) yn annerch cyn- hadledd ym Mangor ar 'Wyddoniaeth trwy'r Gymraeg'. Ymwelodd y Dr. Tom Jones (adran Cemeg) â Kinsale, Iwerddon, lle bu Cynhadledd Euchem ar Mecaniaeth Adweithiau Anorganig. Cynhelir y cynadleddau hyn dan nawdd Cyngor Ewrop ac fe'u patrymir ar y 'Cynadleddau Gordon' yn y Taleithiau Unedig. Bu Dr. Jones yn annerch y Gynhadledd ar 'Agweddau ar Ginetigau Cemegol Cromiwm (111)'. Da yw sylwi fod llyfrgell y Coleg bellach yn derbyn Y Cymro a'r Faner yn rheolaidd. Dyma ddyblu nifer y cylchgronau Cymraeg sy'n dod i'r llyfrgell-bu eisoes yn derbyn Barn a'r Gwyddonydd. Cam bach i'rcyfeiriad iawn. O'r adran Peirianneg daw adroddiad for Mr. D. R. Towell wedi derbyn grant o £ 4,555 gan y Cyngor Ymchwil Wyddonol i astudio datblygu'r amodau gorau posibl o drefnu peirianwaith ddiwydiannol (operations research). Mae Mr. P. Spirek o Brifysgol Prâg wedi ymuno â Grwp Dadansoddi Dynamig yr adran; hefyd, Mr. T. E. Shuttleworth o Grwp Solatron Elec- tronics. Bu aelodau o'r Grwp yn ymweld â Meysydd Glanio Bedford a Boscombe Down yn ddiweddar er mwyn gwireddu rhai o'u canlyniadau arbrofol. Agwedd arall ar waith ymchwil sy'n derbyn sylw yn yr adran Peirianneg yw sut orau i ddatblygu trosglwyddyddion mecanyddol gyda golwg ar eu cymhwyso i'r meysydd trafnidiaeth a diwydiant. Dr. D. Fitzgeorge, gyda chymorth Mr. S. R. Chodavarapu o'r India, sy'n gyfrifol am y gwaith hwn. R.E.H. BANGOR Tuag ugain mlynedd yn ôl, sefydlwyd y parciau cenedlaethol. Un o'r rhai enwocaf o'r rhain yw Eryri, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd. Ychydig a wyddys mewn gwirionedd am yr effeithiau gwneud tir yn barc cenedlaethol. Mae effeithiau cymdeithasol, gwyddonol ac amaethyddol. Gyda chymorth ariannol Comisiwn y Parciau Cenedlaethol, mae Coleg Bangor am wneud astudiaeth o'r gwrthdrawiad rhwng y gwahanol ofyn- ion sydd ar y tir yn y parc. Bydd yr ymchwil yn cael ei gyfarwyddo gan yr Athro Huw Morris Jones o'r adran Gymdeithaseg, Dr. Gwyn James, econ- omydd yn yr adran Amaethyddol, a'r Athro P. W. Richards o'r adran Llysieueg. Bellach mae adeilad newydd yr Ysgol Beirianneg yn barod ac mae'r Ysgol yn symud i mewn. Ar hyn o bryd mae ar wasgar mewn adeiladau anghymwys megis hen siopau, hen gapel, ac ymlaen, a bydd y datblygiadau diweddaraf yma yn welliant mawr. Unwaith eto, bu llawer o ymwelwyr tramor o gwmpas y Coleg. Mae Dr. H. Ramsay o Awstralia yn yr adran Llysieueg am flwyddyn. Ei diddordeb hi yw mwsogl-ac mae llawer o hwn o gwmpas Bangor. Bu'r Athro F. F. Boldwref o Novosibersc yn ymweld â'r adran Gemeg, ac mae Dr. Una o Dwrci yn gweithio yn adrannau Cemeg a Bioleg Môr ar siwgrau gwymon môr.