Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cemeg Penodwyd Dr. Alistair Kerr yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Birmingham ar ôl chwe mlynedd o wasanaeth gwerthfawr iawn yn yr adran ac aeth i'w swydd newydd ar ddiwedd mis Mawrth. Tra bu yma, cyhoeddodd 35 o bapurau ymchwil ar gineteg ym- weithiau nwyol. Gofidiwn o golli ei gwmni hynaws diymhongar a dymunwn yn dda iddo yn ei faes newydd. Fe ddaw'r Dr. P. Cadman--yntau'n arben- igwr mewn cineteg-i lanw'r bwlch. Y mae ymchwil ar ddielectryddion ar gynnydd sylweddol yn yr adran ac erbyn hyn y mae yma offer sy'n estyn tros bedwar-wythawd-a-deugain o'r sbectrwm. Trefnwyd y cyfarpar at donfeddi 2, 4 a 8 mm. gan Dr. Alun Price trwy gymorth grant o £ 7,000 oddi wrth y C.Y.G. a gobeithir estyn ei gyrhaeddiad yn fuan hyd at donfeddi 1 mm. a mm. yn yr is-goch pell iawn trwy ddefnyddio offeryn Michelson. Bydd yr olaf dan gyfarwyddyd y Dr. Mansel Davies. Tonfeddi uwch fydd diddordeb arbennig Dr. Graham Williams a derbyniodd £ 900 yn ddiw- eddar oddi wrth I.C.I. Cyf. i gyflenwi offer at y gwaith. Trefnodd Dr. Harry Heller ac aelodau eraill o'r staff gwrs pen-wythnos (i fyfyr- wyr yr ail flwyddyn) yn Gregynog ar ddiwedd tymor y Grawys. Cafwyd darlith arbennig o ddiddorol gan Mr. Brian Campbell James (o gwmni Shell) ar 'Ffactorau dynol ac economig mewn cemeg diwydiannol'. Cafwyd darlithiau gan y staff ar agweddau hanesyddol cemeg. Enynnodd y cwrs ddiddordeb tu hwnt i bob disgwyliad a bu trafodaethau brwd ymysg y myfyr- wyr. Tarddodd awgrymiadau gwerth- fawr ynglyn â gwelliannau y gellid eu cynnwys yn y cyrsiau Cemeg a gweith- redir eisoes ar rai ohonynt. Nid oes amheuaeth nad yw cwrs anffurfiol fel hwn yn ddull effeithiol iawn i hyrwyddo cyfathrach agosach rhwng myfyrwyr a'i gilydd ac a'i hathrawon ac i atal y dieithrio anochel a ddaw yn sgîl dosbarthiadau mawr. ABERTAWE Mae Coleg Abertawe wedi datblygu yn ganolfan pwysig i gynadleddau a chyrsiau a thrwy gydol pob gwyliau bydd y lle yn ferw o ymwelwyr. Y mae'r tair neuadd breswyl gydag ystafelloedd sengl i chwe chant o ymwelwyr, cyfleus- terau bwyta Ty'r Coleg a digonedd o ystafelloedd darlithio mawr a bach, heb wy na chanllath o gerdded rhyngddynt J.B.B. i gyd, yn ateb holl ofynion unrhyw drefnydd cynhadledd. Ac y mae'n sicr fod safle ddeniadol y Coleg a hyfrydwch cyfagos bro Gwyr yn atyniadau pellach. Mantais i'r Coleg, wrth gwrs, ydyw cael defnyddio adnoddau a staff a fyddai fel arall yn segur am gyfnodau hir. Rheswm arall am y datblygiad hwn ydyw brwdfrydedd yr adrannau, yn enwedig yr adrannau gwyddonol, yn trefnu cynadleddau a chyrsiau. Yn ystod gwyliau'r Pasg cyfarfu'r grwpiau spectroscopeg is-goch a niwclear magnetig yn adran Cemeg. Bydd yr un adran yn cynnal cynhadledd gydwladol ar Gineteg Nwyon ym mis Gorffennaf. Dros y Pasg hefyd trefnodd adrannau Peirianneg nifer o gyrsiau, ar Systemau Ynni, Peirianneg Gemegol a Pheir- ianneg Creigiau. Yn ystod yr un gwyliau croesawyd cynadleddau y cyrff allanol canlynol: cwrs ar Reolaeth Ddiwydiannol o dan nawdd cwmni Richard Thomas a Baldwin; Sefydliad Technoleg Labordai Meddygol; Undeb Ornitholegol Prydain a'r Colloquium Mathemategol Prydeinig. Nid wyf am sôn am y nifer helaeth o gynadleddau anwyddonol, ond nodi mai'r mwyaf o'r rhain oedd cynhadledd flynyddol y Blaid Gydweithredol. Yn ystod y Pasg hefyd bu o leiaf un ar bymtheg o golegau ac ysgolion a thros chwe chant o fyfyrwyr dieithr ar gyrsiau ymarferol yng nghylch Abertawe ac yn lletya a gweithio yn y Coleg. Daearyddiaeth a bywydeg ydoedd pynciau y grwpiau hyn, gan fod amryw- iaeth daeareg, daearyddiaeth a thyfiant bro Gwyr, y maes glo ac ardaloedd cyfagos y garreg galch yn hynod o ddiddorol ac yn sail i waith ymarferol buddiol. Yn eu tro bu myfyrwyr o'n hadran Ddaearyddiaeth ni yn gwneud gwaith ymarferol yn Iwgoslafia, Spaen a De Lloegr. I ddathlu ymweliad y Colloquium Mathemategol Prydeinig lluniodd y Llyfrgell arddangosfa o hen lyfrau mathemateg sydd yn ein meddiant. Ymysg yr hynaf o'r rhain yr oedd Arithmetic or the Grounde of Artes gan Robert Recorde (1510-58), y mathe- mategydd o Sir Benfro a oedd y cyntaf i ddefnyddio y simbol =, a'r cyntaf i ysgrifennu yn Saesneg ar fathemateg. Nid oedd y gyfrol a arddangoswyd yn argraffiad cynnar (arg. laf 1540), ond yn un llawn mor ddiddorol wedi i John Dee, y seryddwr a'r dewin a hannai o Sir Faesyfed, a John Mellin (enw Cymreig tybed?) ychwanegu ato yn 1654. Dwy eitem ddiddorol arall ydoedd argraffiad o waith Euclid yn 1847 gyda diagramâu lliw, a dau bapur gan Charles Babbage yn 1822 yn disgrifio peiriannau i weithio tablau mathemategol a seryddol-rhagflaenwyr ein cyfrifyddion diweddaraf. Yn ei ddarlith agoriadol ar Hinsoddeg dywedodd yr Athro John Oliver fod astudiaethau hinsoddegol yn hanfodol mewn llawer gwyddor. Dangosodd fod gwres yr haul sydd yn disgyn ar lethrau deheuol Bannau Brycheiniog yn ystod yr haf o fewn dim i'r gwres sy'n disgyn ar y Sahara. Da o beth felly mai anaml y gwelir haul tanbaid am gyfnodau meithion yn y parthau hyn. Awgrymodd hefyd y byddai astudiaeth fanwl o hinsawdd Abertawe yn awgrymu codi llwybrau dan do i fynd o un rhan o'r Coleg i'r man arall. Darlith agoriadol ddiddorol arall a glywsom yn ddiweddar oedd un yr Athro H. W. Gosling, Peirianneg Drydanol. Gobeithiwn allu cynnwys y ddarlith hon yn ein cyfres Darlithiau Agoriadol cyn bo hir. Ym mis Mai cyfarfu Undeb Cym- deithasau Gwyddonol De Cymru yn y Coleg ar achlysur eu Darlith Flynyddol. Y darlithydd oedd yr Athro G. Porter, gynt o Brifysgol Sheffield ac yn awr o'r Sefydliad Brenhinol yn Llundain. Traddododd yr Athro Porter gyfres boblogaidd o ddarlithiau ar Thermo- dynameg ar y teledu ddwy flynedd yn ôl. Testun ei ddarlith oedd 'Faraday a'i Dŷ' — yn y Sefydliad Brenhinol y gweithiodd Faraday ar hyd ei yrfa yn y ganrif ddiwethaf ac yno y darganfu egwyddorion cynhyrchu trydan electro- magnetig. I droi oddi wrth wyddoniaeth am y tro hoffwn nodi ei bod yn gyfnod hynod o lewyrchus i dîmau chwaraeon y Coleg. Abertawe yw pencampwyr Prifysgol Cymru eleni mewn rygbi, pêl-droed, hoci bechgyn a merched, pêl-rwyd, pêl-fasged, nofio, polo-dwr a thennis bwrdd, ac er fod yn rhaid mynd i'r wasg cyn y tymor criced ac athletau bu'r Coleg yn flaenllaw yn y ddau faes yma hefyd yn ddiweddar. Yn 1965 aethpwyd i rownd derfynol criced Prifysgolion Prydain, ac ennill tlws Unicorn mewn athletau i Brifysgolion gyda llai na dwy fil o fyfyrwyr yn ddynion. Mae'r tîmau squash, badmin- ton, judo a ffensio hefyd yn flaenllaw, ac un myfyriwr yn bencampwr bocsio pwysau canol Prifysgolion Prydain. Nodais y tro diwethaf fod Aleppo yng ngwlad Jordan. Camgymeriad dybryd gan mai yn Syria y mae. i.w.w.