Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyfeiriannol sydd gennym ar hyn o bryd a'n bod ar fin chwyldro arall a fydd yn ein dwyn yn ôl unwaith eto at y syniad o undod sylfaenol ond mewn ffram arall o feddwl. Gwelais erthygl rhyw flwyddyn yn ôl yn y Science Journal a awgrymai dafoli'r gronynnau i gyd i dri grwp neu amrywiadau o dri gronyn 'sylfaenol' arall. Ni wn a oes cychwyn newydd o hyn; cychwyn o dri y tro hwn yn IIe dau fel gyda Rutherford, ac un yn oes Thales. Yn wir, efallai fod awgrym yma fod math o nodrif cychwynnol i bob cylchred newydd o wybodaeth am fater a bod arwyddocàd yn y nodrifau hyn eu hunain. Prun bynnag, ar sail a priori gellir disgwyl i'r sefyllfa bresennol 0 luosogi gronynnau ddiweddu mewn cydraniad arall a fydd yn cychwyn eto yn nes at undod na llaweredd. I mi, fel lleygwr hollol, fe ymddengys bod rhyw fath o uwchdrefn bendant yn hanes yr ymchwil i natur mater. Bob tro, hefyd, pan fo hyn yn digwydd, mae rhywbeth pwysig yn digwydd i ddimensiynau gwybod fel y cyfryw. Oni fedrwn weld ystyr i rywbeth mae'r peth hwnnw'n ddiystyr i ni; maddeuer y dawtoleg. Heb fedru llunio ystyr, nid oes nemor ddiben byw o gwbl. Hyn, allwn feddwl, yw'r cyfiawnhad diwrth- dro dros archwilio'r gwagle a threfnu cyrch tua'r planedau. Mae hon, chwedl T.H.P-W., yn 'goblyn o daith' ond cyhyd ag y bydd hi 'yna', rhaid ei gwneud. Ond ar hyn o bryd hefyd, mae cyfiawnhad mwy ymarferol i'w gael dros y bwriad canys y mae'n fodd gweddol sicr i osgoi rhyfel byd. Ar les ein diogelwch ni fel cenhedloedd bychain gorau po fwyaf a waria Rwsia a'r Merica ar y cyrch i'r gwagle a gorau po eiddgaraf y gystadleuaeth rhyngddynt canys bydd hyn yn trethu cymaint ar eu cyllid a'u technegwyr fel na fedrant fforddio mynd i ryfel, yn y man/Er 1957, bu cydymgais y ddau allu yma yn y ras i'r lleuad yn ffactor o bwys er tynnu eu sylw oddi wrth gad-ddarpar. Am y deyrnas hon, y mae hi eisoes yn rhy dlawd i fedru fforddio dim o'r fath. Gall llywodraethau wneud cynnydd technologel anferth mewn hanner canrif, ond dylem gofio rhybudd Whitehead ei bod yn cymryd dwy fil o flynyddoedd i lywodraethau gynyddu o ran safonau moesol (e.e. diddymu caethwasiaeth) ac y gall cynnydd felly, yn wir, gael ei gyfrgolli unrhyw bryd (fel y digwyddodd i'r Almaen wrthgilio i farbariaeth o dan Hitler ac y digwydd i'r Unol Daleithiau heddiw wrthgilio i farbariaeth tebyg yn Fietnam). Ni chredaf ei bod hi'n bosibl i lywodraethau mawr wneud cynnydd moesol ac os yw hanes diweddar yn profi un dim o gwbl dyna yw, sef po rymusaf y llywodraeth, mwyaf yw ei drygioni a'i hoffter o ddinistr moesol. Felly hefyd ym myd estheteg; po rymusaf a chyf- oethocaf fo adnoddau gwladwriaeth fawr hyllaf a gwrthunaf yw'r hyn a eilw'n 'gelfyddyd' fel y gwelir yn rhwydd wrth gymharu, dyweder, bensaerniaeth mân deyrnasoedd y Canol Oesoedd a'r hyn sydd gennym heddiw. Wrth gwrs, ysfa filwrol ddinistriol sy'n peri i'r pwerau mawr gefnogi'r ymchwil i'r gwagle, ond os ceidw'r gwyddonydd a'r technolegwr eu pennau mae ganddynt gyfle gwych i wyrdroi pwrpasau'r pwerau i'r diben o fapio ystyron a gorwelion newydd. Gwendid yr uned fawr, afrosgo, fel arfer yw twpdra. Gwelais baragraff papur newydd diddorol iawn yn ddiweddar-wrth sôn am y gofod— lle'r adroddid fod gwyddonydd yn America yn mynd i roi tipyn o ysgytiad i'r uned sydd gan y wlad honno yn cadw cydit ar y pethau a elwir yn UFO, neu i ni, soseri hedegog. Gwnaeth Eirwen Gwynn sylw o'r un peth yn y Cymro. Yn y paragraff, dywedai'r gwyddonydd Americanaidd fod yr awdurdodau yn dra esgeulus ynglyn â'r pethau hyn ac mai'r polisi swyddogol, yn gyffredin, yw eu hanwybyddu neu geisio eu 'hesbonio' mewn ffordd dawelyddol; peidio â chyffroi dim chwilfrydedd. Beth yw'r gwir-nid am y pethau hyn ond am y modd y trafodir y swm mawr o dystoliaeth sydd amdanynt? A yw gwyddonwyr yn ystyried ei bod hi'n beth infra dig i'w cymryd o ddifri? Bûm yn teimlo lawer tro mai osgoi yn hytrach na thrafod y ffenomenau hyn a wneir ac yn niffyg astudiaethau gwyddonol, gwrthrychol, a diragfarn, mae cyfle i bob math o grancod a hanner-pennau gyhoeddi ílantasïau amdanynt. Os pethau yngalwheibioinni o'r gofod ydynt, oni ddylent fod yn llawer mwy diddorol fel ffynhonnell gwybodaeth na dim o'n hymdrechion ni'n hunain i esgyn i'r gofod atynt? Fel lleygwr, mae'n debyg y gallaf i a'm tebyg eu trafod hebunrhyw'golli wyneb'. Welais i eriodddim un o'r pethau hyn, ond mi welais ddigon o'r pethau y dywedir mai dyna ydynt-cymylau o siap od, clwstwr o adar yn cydhedfan ac ati. Ond fum i eriod yn amau nad cymylau neu adar oedd y pethau a welais. Hynny sy'n gwneud imi amau, nid bodolaeth y soseri ond cywirdeb yr esgus o esboniadau a roir amdanynt. 'Rwy'n lled-feddwl fod gan y gwyddonydd o'r Merica yna rywbeth o dan ei fawd.