Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Telegraff electrostatig Ronalds Camp fawr Francis Ronalds oedd goresgyn yr anawsterau hyn yn llwyr. Defnyddiai un wifren yn unig. Defnyddiai hefyd ddau beiriant cloc, gyda llythrennau'r wyddor yn troi ar ddeial ac yn ymddangos y naill ar ôl y llall tu ôl i ffenestr fechan ar flaen y cloc. Pan fyddai'r ddau gloc yn troi gyda'i gilydd, ac nid oedd hynny yn anodd gan fod technoleg clociau wedi datblygu yn grefft gywrain, byddai'r un llythyren yn ymddangos gyda'i gilydd ar y ddau beiriant. Y gamp arall oedd defnyddio un wifren i nodi pa lythyren i'w dewis. Cysylltai Ronalds beiriant cynhyrchu trydan electrostatig â'r wifren, ac yn y pen cysylltai ddwy belen ysgafn o fêr coeden (pith) â'r wifren. Pan fo'r wifren wedi ei thrydanu gwahana'r ddwy belen, ac i ddanfon arwydd ar hyd y wifren byddai Ronalds yn daearu'r wifren am amrantiad gan beri i'r ddwy belen gwympo 'nôl at ei gilydd. Yn y diagram gwelir fod dwy belen arall ym mhen y trosglwyddwr hefyd iddo fod yn sicr fod popeth yn gweithio fel y dylai. Cymerai oddeutu munud i drosglwyddo gair ar y telegraff hwn. Mae'n werth sylwi fod Ronalds yn bur geidwadol wrth ddewis ei offer. Yr oedd y peiriant cynhyrchu trydan electrostatig a'r clociau yn offer cyfarwydd, di-drafferth. Nid oedd ganddo felly ond un broblem dechnegol sef ynysu'r wifren rhwng y trosglwyddwr a'r derbynnydd. Gwnaeth hyn trwy osod y wifren mewn tiwb gwydr. Gan mai ychydig droedfeddi oedd hyd pob tiwb rhaid oedd cysylltu'r rhain â thiwb lletach a'u selio â chwyr. Yr oedd yr wifren felly wedi ei hynysu yn effeithiol ac yn rhad. I'w diogelu ymhellach gosodai'r tiwb gwydr mewn cafn pren wedi ei lenwi â pitch. Claddodd chwe chan troedfedd o wifren yn ei ardd, ac ar waethaf gwlybaniaeth gardd ger afon Tafwys dangosodd fod y telegraff yn gweithio yn berffaith ym mhob tywydd.