Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwr diddorol iawn sydd ar ymweliad ìanner blwyddyn â'r Coleg ydyw'r Athro Hidekiyo Asai o Brifysgol Kobe, Japan. Athro Addysg Dechnegol ydyw ef yng nghyfadran Addysg y Brifysgol honno, a daeth i gysylltiad â'r Prifathro Llewellyn-Jones mewn cynhadledd Ffis- eo-ol y llynedd. Yn ystod ei arhosiad y mae'n ymchwilio ar fetelau mewn cyffyrddiad trydanol gyda Dr. M. R. Hopkins, ac ar yr un pryd mae'n astudio'r modd y dysgir pynciau tech- nolegol mewn ysgolion ym Mhrydain ac yn y cyswllt hwn treuliais eisoes rai oriau yn ei gwmni. Rhaid oedd egluro mai pur ychydig o waith technolegol a wneir yn ein hysgolion ni er fod rhai ysgolion megis Ysgol Ramadeg y Gwendraeth yn arloesi yn y maes ac yn rhoddi cyfle i ddisgyblion ddilyn diddordebau technolegol yn eu oriau hamdden. Dywed yr Athro Asai wrthyf fod pob plentyn yn yr ysgol eilradd (12-16 oed) yn Japan yn rhoi tair gwers bob wythnos i bynciau technolegol, yr un faint ag a roddir i ail iaith ac ymron cymaint ag a roddir i wyddoniaeth a mathemateg a phynciau cymdeithasol (4 gwers bob un). Mae'r pwyslais ar waith ymarferol, adeiladu modelau, setiau radio, etc. Yn ogystal rhoddir dwy wers yr wythnos ar bynciau galwedigaethol amaethyddiaeth, diwyd- iant, pysgota neu waith swyddfa. Bydd y merched yn gyffredin yn astudio technoleg y cartref neu wyddor ty, ond hyd yn oed yma gwelais fod peiriannau'r cartref yn llenwi rhan o'r maes. Tybed ai dyma sy'n cyfrif am ragoriaeth presennol Japan mewn amryw feysydd megis adeiladu llongau, camerau, a beiciau modur? Derbyniodd Dr. M. R. Hopkins, adran Ffiseg, wahoddiad i ymweld â'r Canolfan Ymchwil Niwcliar, CERN, yn Geneva. Bydd yn gweithio yno tan y Nadolig. Aeth Mr. John Smith, adran Peirianneg Gemegol, am gyfnod cyffelyb i Brifysgol Dechnegol Utrecht a Dr. J. Watson, adran Peirianneg Drydanol, am flwyddyn i Brifysgol California. Estynnwn ein dymuniadau gorau Dr. K. C. Rockey ar ei benodiad yn Athro Peirianneg Sifil ac Adeiladol yng Ngholeg Caerdydd. Mae Dr. Rockey yn awdurdod ar gynllunio ac adeiladu â thrawstiau dur ac aeth ei waith ymchwil ag ef cyn belled â Iwgoslafia a Czechoslofacia. Arwahân i flwyddyn fel Athro ym Mhrifysgol Brown yn yr Unol Daleithiau treuliodd Dr. Rockey ei yrfa er 1947 yn Abertawe gan godi i swydd Darllenydd. Y mae'n un o'r darlithwyr mwyaf poblogaidd ac uchaf ei barch yn y Coleg, a cholled wirion- eddol i ni ydyw caffaeliad Caerdydd. Derbyniodd yr adran Addysg grant o £ 100,000 gan y Cyngor Ysgolion, un o'r grantiau mwyaf a ddaeth i'r Coleg erioed. Rhoddirtraean y grant at astudiaeth o agweddau plant, rhieni ac athrawon at ddysgu Cymraeg a Saesneg yng Nghymru, ond nodwyd y rhan helaethaf o'r arian ar gyfer astudiaeth o blant sydd naill ai yn amddifad neuyn ddiffygiol ar ryw ystyr. Ymysg y rhain cyfrifir plant o gartrefi diddiwylliant, plant â phroblemau iaith neu â phrob- lemau emosiynol, a phlant â diffygion corfforol neu ddiffygion deall. Amcan y gwaith fydd ceisio canfod y diffygion hyn yn gynnar a pharatoi defnyddiau i athrawon fedru eu gwrthweithio a'u goresgyn lie bo modd. Bydd hen fyfyrwyr y Coleg am imi ddymuno yn dda i ddau aelod o'r staff sydd yn ymddeol wedi blynyddoedd maith o wasanaeth, sef Mr. Herbert Hill o adran y Clasuron a Miss Isabel Westcott, adran Saesneg. Bydd eu henwau mor gyfarwydd i hen fyfyrwyr gwyddonol ag i'w myfyrwyr eu hunain. Dymunwn lawer blwyddyn o hapus- rwydd iddynt. i.w.w. COLEG TECHNOLEG UWCHRADD CYMRU Eleni fe ymddeolodd Mr. Vernon Lloyd, Pennaeth Ysgol Fferylliaeth Cymru a Dirprwy-Brifathro'r Coleg. Brodor o gyffiniau Pontypridd yw Mr. Lloyd a bu'n gwasanaethu'r Coleg am yn agos i ddeugain mlynedd. Efe, yn anad neb efallai, fu'n gyfrifol am godi'r Ysgol Fferylliaeth i'w safle presennol. Yn rhinwedd ei swydd a'i weithgareddau fe ddaeth yn adnabyddus i lu mawr o fferyllwyr led-led De Cymru. Ar achlysur ei ymddeoliad fe gyflwyn- wyd llun olew ei hun iddo gan nifer o'i gydweithwyr a'i gyn-ddisgyblion. Wrth ddiolch am hyn, mynegodd Mr. Lloyd y gobaith na fyddai tyfiant y Coleg yn cael ei lesteirio gan unrhyw ddyblygu neu gystadlu dianghenraid rhyngddo a Choleg y Brifysgol, Caerdydd. Dewisiwyd yr Athro Baldwin (Peirian- neg) yn Ddirprwy-Brifathro yn lie Mr. Llovd. Bu Dr. G. Park, o'r adran Gemeg, yn bresennol ym Mrysels yn ddiweddar mewn Cynhadledd Ryngwladol ar Gemeg Macromoleciwlaidd-yr unig gynrychiolydd o Brifysgol Cymru yno. Daw'r newyddion hefyd fod yr adran Cemeg wedi derbyn Cymrodoriaeth Ymchwil gan Sefydliad Ymchwil Paent y Taleithiau Unedig i archwilio priodol- eddau ffìsegol gwahanol fathau o bolymerau stereoreolaidd gan gynnwys rhai sydd o ddiddordeb arbennig i'r diwydiant paent. Rhaid llongyfarch Mr. D. G. Smith, myfyriwr ymchwil o'r un adran, ar iddo ennill gwobr arbennig dan nawdd Grwp Plastigau a Pholy- merau'r Gymdeithas Cemeg Diwyd- iannol. Bu Mr. Smith yn astudio agweddau arbennig ar ffurfiad radical- iaid-rhydd mewn polymerau. Cynhaliwyd nifer o gynadleddau yn y Coleg yn ddiweddar. Ar Orffennaf 4 bu symposiwm ar Ddadansoddi Poly- merau a siaradwyr gwadd o fyd diwydiant ac o'r prifysgolion yn cymryd rhan. Daeth 114 ynghyd ar gyfer y cwrs, un o bob tri ohonynt o Gymru. Diddorol yw sylwi mai gwyddonwyr diwydiannol yw'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n cofrestru ar gyfer cyrsiau o'r math hwn-arwydd fod y Coleg yn araf ennill ei blwyf ym myd diwydiant. Bu cynhadledd arall yn trafod dulliau modern o gyflwyno gwyddoniaeth-gan gynnwys trafodaeth ar raglunddysgu. Rhwng Gorffennaf 6 a'r 12 fe gyn- haliwyd Ysgol Haf yn y Coleg dan nawdd y Cyngor Prydeinig er hyrwyddo Addysg mewn Cemeg. Ysgol Haf beripatetig fu hon. Mae'n symud o'r naill ganolfan i'r IIa.ll a'r un gyfres o ddarlithiau yn cael eu traddodi yn y gwahanol leoedd. (A chyda llaw, sawl Cymro, tybed, a sylwodd ar y rhag- hysbysiad rhyfedd am y cwrs hwn a ymddangosodd yn y cylchgrawn Education in Chemistry mis Tachwedd diwethaf? Cyfeiriwyd at y lleoedd y bwriadwyd ymweld â nhw fel fve cities Birmingham, Cardijf, Bristol, Exeter and Southampton-in the south nad west of Englandl) Cafwyd darlithiau yn y boreau gan athrawon prifysgol yn delio ag agweddau neilltuol ar Gemeg megis Cineteg, Egni, etc. Yn ystod cyfarfodydd y prynhawn cafwyd trafod- aeth ar gyflwyno'r pynciau hyn i aelodau'r chweched dosbarth a'r prob- lemau sy'n codi yn sgîl hynny. Cadeir- iwyd cyfarfodydd y prynhawn gan nifer o athrawon gwyddoniaeth o ysgolion lleol. Mr. A. H. Henson, Pennaeth adran Cemeg y CTU, fu cadeirydd y pwyllgor lleol a drefnodd yr Ysgol Haf lwyddiannus hon.