Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'n debyg mai'r seremoni cyflwyno graddau a gynhaliwyd yn y Coleg ar ddiwedd Mehefin eleni fu'r olaf o dan yr hen oruchwyliaeth. Ym marn rhai nid drwg o beth mo hyn. Ers blynydd- oedd bellach bu'r seremoni graddio dan feirniadaeth gan rai oherwydd ei debyg- rwydd honedig i ddiwrnod rhannu gwobrwyon mewn ysgol. Erbyn y flwyddyn nesaf bydd y Coleg yn aelod cyflawn o Brifysgol Cymru ac yn cydymffurfio â'r gweddill o'r Brifysgol yn ei seremoni graddio. CAERDYDD Mynd a Dod Bu marwolaeth yr Athro Eric Evans, a hyn o fewn ychydig wythnosau i amser ei ymddeoliad, yn ergyd drom i'w gydweithwyr a'i gyfeillion. Bu'r Athro Evans yn Athro Addysg yn y Coleg er 1951. Rhaid cofnodi ymddeoliad yr Athro Joseph Morgan (Cerddoriaeth), Mr. W. Handel Morgan (Swyddog Ymgyng- horol i'r Myfyrwyr) a'r Dr. Dorothy Marshall (Hanes). ARBENIGIAD y weithred o ganolbwyntio ar un agwedd yn unig; S. specialisation. ciwrare: cyffur sydd â'r gallu i barlysu nerfau; S. curare. CORTECS: haenen allanol yr ymennydd sy'n ymwneud â theimlo a symud; S. cortex. CREIGIAU GWADDODOL: S. sedimentary rocks. CWSG FEDDYGAETH: S. anaesthesia. CYMEDROL: S. average. DYSLECSIA, -IG: S. dyslexia, -ic. ERYDIAD: S. erosion. GAIR-DDALLINEB: S. word blindness. MORYD: lle mae afon yn ymarllwys i'r môr; S. estuary. OPTHALMOLEGYDD: un sy'n ymwneud â diffygion y golwg; S. opthalmologist. R.E.H. Penodwyd yr Athro Christopher Hooley (Athro Mathemateg Bur ym Mhrifysgol Durham) yn Athro Mathe- mateg Bur, Dr. N. D. Shergold (New- castle) yn Athro Sbaeneg a'r Dr. K. C. Rockey yn Athro Peirianneg. Penodwyd Dr. Alun G. Lloyd yn Athro Biocemeg ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast, a'r Dr. Glyn O. Phillips yn Athro Cemeg ym Mhrifysgol Salford. Gwaith ymchwil Deil Mr. Leslie Alcock (Archaeoleg) i gyfarwyddo ac arolygu'r cloddiadau archaeolegol yng Nghastell Cadbury. Gwnaeth yr adran Peirianneg Fecan- yddol astudiaeth o'r dulliau o wyntyllu twneli'r traffyrdd yng Nghasnewydd. Mae'r adran Seicoleg newydd gwblhau arolwg a wnaethpwyd yn ardal Bute dan nawdd y Sefydliad er Astudio Perthnasau Rhyng-hilol. Penodwyd dau wyddonydd diwydiannol yn Gymrodyr Proffesoraidd yn y Coleg yn ddiweddar -Dr. D. J. D. Hockenhull o Glaxo a'r Dr. F. A. Robinson o Labordai Twy- ford. Cymeradwyodd Cyngor y Coleg sefydlu Uned Ymchwil Gymraeg fel rhan o'r adran Gymraeg. Bydd yr Uned hon yn ymwneud â thafodieithoedd Geirfa PALAEONTOLEG: y gangen o wyddoniaeth sy'n delio ag anifeiliaid a phlanhigion sydd bellach yn ddiflanedig. rheweiddiad: techneg o rewi rhan o'r corff mewn llawfeddygaeth S. refrigeration. SEICOLEGYDD ADDYSGOL: S. educational psychologist. SIALCAIDD: perthyn i gyfnod daearegol; S. cretaceous. TRECHAF: S. dominant. TRUM: S. ridge. TRYDYDDOL: perthyn i gyfnod daearegol; S. tertiary. YMENYDDOL: perthyn i'r ymennydd; S. cerebral. YNYSYDD: defnydd neu sylwedd nad yw'n cludo trydan; S. insulator. Cymraeg, dysgu seineg a phynciau cyffelyb. Cynadleddau Trefnodd yr adrannau Groeg, Lladin a Hanes gynhadledd-un-dydd ar gyfer disgyblion o'r chweched dosbarth mewn ysgolion lleol. Bu hefyd gynadleddau yn delio ag agweddau ar otomasiwn ac ar Economeg fel pwnc i'w ddysgu yn yr ysgolion. Cyrsiau Newydd, Ymweliadau, etc. Bu'r cwrs newydd mewn Cymraeg ar gyfer dysgwyr (Rhan 1) yn eithriadol o lwyddiannus. Bwriada'r gyfadran Wydd- oniaeth gychwyn cwrs-tair-blynedd mewn astudiaethau cyffredinol yn bennaf ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd am osgoi arbenigo cynnar yn ystod eu gyrfa academaidd. Traddododd yr Athro Robinson ddarlith agoriadol dan y teitl 'Gwaith Ymchwil--Bri'r Wlad neu Les Dyn?' Enwogion eraill a ymwelodd â'r Coleg yn ddiweddar fu'r Athro O. E. Lowenstein, Dr. C. V. Wedgwood a Mr. Saunders Lewis.