Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG TECHNOLEG UWCHRADD CYMRU PARC CATHAYS, CAERDYDD Prifathro: ALEXANDER HARVEY, B.SC., PH.D., F.INST.P. Ar hyn o bryd, darperir cyrsiau (amser-llawn a 'sandwich') ar gyfer Graddau Prifysgol Cymru a Llundain, Diplomâu mewn Technoleg, a Diplomâu a Thystysgrifau Coleg. Gellir astudio Adeiladu, Astudiaethau Cymdeithasol, Cemeg Diwydiannol, Cyffuriaeth, Economeg, Fferylliaeth, Ffiseg, Gweinyddiaeth, Opteg, Peirianneg (Cynhyrchiol, Mecanyddol, Sifil, a Thrydanol), Pensaernïaeth, Trafnidiaeth, ac Ystadegaeth. Ceir cyrsiau i athrawon sy'n dysgu Saesneg fel ail iaith, gan gynnwys hyfforddiant mewn labordy iaith. Mae gan y Coleg ei gyfrifydd electronig ei hun. Y mae amryw o'r cyrsiau hyn na chynigir yng Nghymru ond yn y Coleg hwn. Darperir nifer o gyrsiau wedi-gradd, a chynigir ysgoloriaethau ymchwil tebyg i eiddo'r D.S.I.R. Ar hyn o bryd, mae'r Coleg yn y broses o ymgyrraedd at statws prifysgol. Bwriedir trawsffurfio nifer o'r cyrsiau diploma presennol yn gyrsiau gradd, a bydd yr efrydwyr wedyn yn ymgeiswyr am raddau. Gellir cael prospectws, a manylion pellach, oddi wrth Ysgrifennydd y Coleg. YSGOL FEDDYGOL GENEDLAETHOL CYMRU, CAERDYDD (PRIFYSGOL CYMRU) Llywydd: SYR CLEMENT PRICE THOMAS, K.C.V.O., LL.D., F.R.C.P., F.R.C.S. Pennaeth: A. TREVOR JONES, M.D., F.R.C.P., D.P.H. Ysgrifennydd: F. DODSWORTH, F.C.I.S. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau meddygol Prifysgol Cymru (M.B., B.Ch.), a gall myfyiwyr sy'n paratoi ar gyfer graddau o dan Gyrff Arholi eraill fynychu'r cyrsiau. Dylid dychwelyd y ffurflenni cais i Ganolfan Ceisiadau am Fynediad i'r Prifysgolion, 29 Tavistock Square, Llundain, W.C.l, cyn diwrnod olaf y flwyddyn sy'n rhagflaenu'r Hydref y bwriedir dechrau ar y cwrs. Gellir gwneud cais cyn cael canlyniadau'r arholiad a gydnabyddir gan y Brifysgol am matriculation. Ceir hefyd gyrsiau ar ôl gradd, sy'n arwain i ddiploma mewn Iechyd Cyhoeddus (Cymru), a diploma mewn Darfodedigaeth a Chlefydau'r Frest (Cymru), a gellir cael manylion pellach oddi wrth yr Ysgrifennydd. Cwblhawyd yr Ysgol a'r Ysbyty Deintyddol, a derbyniwyd y myfyrwyr deintyddol clinigol cyntaf, Hydref 1965. Bydd yr adrannau cyn-glinigol yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, yn awr yn derbyn myfyrwyr ar gyfer cyrsiau cyn-glinigol, a dylai'r ceisiadau fod wedi'u derbyn cyn 31 Rhagfyr 1966. Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer 1967 drwy'r Cyngor Canolog cyn 31 Rhagfyr 1966. Dylid cyfeirio pob ymholiad ynglýn â'r cyrsiau at Ddeon Astudiaethau Deintyddol, 36 Newport Road, Caerdydd.