Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol O NA byddai'n haf o hyd Dyna yw dymuniad trigolion California ar hyn o bryd. Ar ôl heulwen dibaid, gaeaf a haf, bu'n bwrw'n ddi-dor am bythefnos. O'r herwydd, y tywydd sydd ar wefusau pawb. Sut gallai peth fel hyn ddigwydd yn California o bobman? Wedi hel yma y mae'r rhelyw mawr o'r boblogaeth o rannau eraill o'r Unol Daleithiau i fwynhau'r tywydd a chyfleusterau gwaith. Dyma bellach y dalaith fwyaf poblog, a gwaith ar gyfer unrhyw un â chrefft ganddo ar ei delerau ei hun. Mae'r diwydiannau electronig, awyrennau, ynni atomig, y lliaws gweithfeydd sydd yn paratoi y drafnidiaeth i'r gwagle wedi tyfu'n ddibaid ers ugain mlynedd neu fwy, a'r gweithwyr wedi manteisio ar y sefyllfa i hawlio'r cyflog gorau posibl. Ond fe ballodd yr heulwen ac mae'n rhaid bellach wynebu'r glaw. Mae'r awyrgylch economaidd sydd yn poenydio rhannau eraill o'r byd, o dipyn i beth yn taflu cwmwl yma. Nid yw'r llywodraeth ganolog yn awr yn cadw at bob cytundeb a threfniant a wnaed gyda'r llu o gwmnïau, bach a mawr, a ffurfiwyd yn unig i wneud ei gwaith. Heb y gefnogaeth ariannol yma rhaid cwtogi ac mewn llawer cyfeiriad, dirwyn y gwaith i ben. Dros nos, fel petae, daeth y tywydd garw a phryder a dryswch yn ei sgîl. Nid oedd pensiwn, na sicrwydd gwaith yn poeni'r llu a ddilynodd yr haul yma, ac mae'r sefyllfa newydd felly yn ergyd drom i lawer. Gwaeth fyth, hyd yn oed, yw anallu llawer y deuthum i gyffyrddiad â hwy i gyfarfod â'r sefyllfa newydd. Ni fu angen cot law yma, ac mewn un man, 0 leiaf, adeiladwyd ty ar dir afon a fu yn sych am ddegau o flynyddoedd. Mae'r glaw a'r llifogydd wedyn gymaint mwy dinistriol, a thrist yw deall fod 90 wedi colli eu bywydau a rhai cannoedd yn ddigartref ar ôl y llifogydd sydyn. Y mae canlyniadau y tywydd economaidd drwg lawn mor enbyd, gan ei fod mor ddisymwth. Slicrwydd Daliwyd y prifysgolion hefyd gan y tywydd garw. Ers y rhyfel ddiwethaf, y ffynhonnell fwyaf haelionus a chyffredin o gefnogi ymchwil wyddonol mewn prifysgol oedd grantiau uniongyrchol gan un neu'r llall o adrannau'r llywodraeth. Datblygwyd y grefft o ysgrifennu cynlluniau ymchwil oedd yn cymeradwyo'u hunain i'r gwasanaethwyr sifil fyddai'n eu hadolygu. Slicrwydd yr apêl a nodweddai'r cynlluniau yma, yn hytrach na rhagoriaeth yr ymchwil ei hun. Tyfodd yr hyn a elwir yn grantsmanship a chymaint y wobr fel i'r prifysgolion gyflogi pobl i wneud dim ond cyflwyno'u cynlluniau ymchwil yn y goleuni gorau bosibl i'r trefnwyr. Daeth gwyntoedd oer y dwyrain i'r maes yma hefyd, ac er mor wych y cyflwynir rhai o'r cynigion ymchwil heddiw, i'r gweithwyr sefydledig y rhoddir rhan helaethaf y grantiau. Yn y maes yma eto, mae'r person a dderbyniodd y gwaith gyda'r cyflog uchaf, heb ystyried y sicrwydd, yn dioddef. Clywais am un gwr a fu ar staff prifysgol arbennig yn y Gogledd am ugain mlynedd yn colli'i waith am fod y grant a dalai ei gyflog wedi ei therfynu. Dyma sefyllfa nad oes ei thebyg ym Mhrydain. Pan gyflogir gwr ifanc ar staff prifysgol, sicrwydd gwaith a thelerau pensiwn yw'r ystyriaethau pennaf yn y cytundeb. Dyma un o'r diffygion y ceisiodd y Bwrdd Prisiau a Chyflogau dynnu sylw ato'n ddiweddar. Efallai bod lle i gytundeb sy'n cynnig peth sicrwydd gan roi sbardun hefyd i wr ifanc ar ddechrau ei yrfa; rhyw fan canolog, fel petae, rhwng pen-rhyddid yr Unol Daleithiau a chyfforddusrwydd di-ddychymyg Prydain. Cwyno I ddychwelyd at y tywydd eto am funud. Carwn bwysleisio mai cyfeiliornus hollol yw'r syniad mai Prydeinwyr yn unig sy'n cwyno am eu tywydd. Ym mhobman y bûm ar y daith yma, y tywydd oedd prif destun siarad. Yn Philadelphia a Delaware roedd hi'n anarferol o dyner-dim eira yn unman!