Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Beth yn y byd oedd wedi digwydd? Roedd trefniadau pawb ar benwythnos wedi'u drysu oherwydc prinder eira. Tair mil o filltiroedd oddi yno, yn Portland, Oregon, a Seattle, yn y rhanbarth gogledd- orllewinol, ni welwyd erioed gymaint o eira a'r tywydd drwg yn hollol annisgwyl i'r ardal. Y tywydd oedd yn hawlio pob sgwrs. Mil a hanner o filltiroedd i'r De, yn Los Angeles, roedd hi'n rhy wlyb, ac yn y rhanbarth ddeheuol yn Birmingham, Alabama, roedd hi'n rhy llaith a chynnes. Onid tywydd yr haf oedd hwn ac yn gwbl groes i'r arfer yr amser yma o'r flwyddyn? I'r llu o gwestiynau am ein tywydd ni gartref, roedd yn gysur cael dweud fod peth glaw, peth eira a pheth haul, nad oedd hi ddim yn rhy boeth nac ychwaith yn rhy oer ond ar y cyfan yn gymhedrol ym mhobman. Diolch am gymedroldeb yn wir mewn tywydd ac ymarweddiad. Gan fod y sylwadau hyn yn cael eu paratoi yn ystod taith ar draws y wlad fawr yma a 36,000 troedfedd i fyny, efallai y maddeuwch y nodyn beirniadol. Byddaf mewn munud, gobeithio, yng nghwmni Cymro a chaf ddianc o'r unoliaeth llethol a nodwedda'r mwyafrif o Americanwyr. O un gongl i'r llall, mewn mannau sydd filoedd o filltiroedd oddi wrth ei gilydd, yr un yw patrwm byw ac ansawdd sgwrs. Mae dylanwad y teledu yn eithriadol gryf a 1984 heb fod yn bell iawn i ffwrdd. Diffyg pechadurus Gwelais effaith y wasgfa economaidd mewn cyfeiriad arall hefyd. Tair blynedd yn ôl dechreuwyd ar gynllun, mewn rhyw wyth canolfan, i ddarparu peiriannau dialyddio neu lanhau'r arennau. Pan fo'r arennau'n ddiffygiol, gellir cadw'r person yn fyw am flynyddoedd lawer drwy ddefnyddio'r peiriannau hyn. Gwariwyd miliynau o ddoleri ar y cynlluniau hyn ym mhob canolfan, ac o'r dechrau mynnodd y llywodraeth ganolog, a roddodd yr arian, mai am dair blynedd yn unig y byddai'r gefnogaeth yn parhau. Aethpwyd rhagddi, ac mae llawer iawn o bobl, ar hyd a lled y wlad, yn fyw drwy gymorth y peiriannau hyn. Dônt am 12 awr, dwy waith yr wythnos i ymweld â'r peiriant, ac wedi golchi'r amhuredd o'r corff parhânt i fyw yn gwbl normal am y gweddill o'r amser. Ond ym mis Mawrth eleni daw'r gefnogaeth ariannol i ben, ac nid oes unrhyw arwydd bod neb arall yn mynd i dalu am y driniaeth. O derfynu'r driniaeth marwolaeth sicr fydd tynged y personau hyn, ac mae'n amhosibl rhagweld dyfodol arall iddynt ar hyn o bryd. Efallai y gellir perswadio rhai ohonynt i dderbyn triniaeth lawfeddygol i asio aren newydd o berson arall iddynt. Nid yw hyn yn gweithio bob amser, wrth gwrs, ond dadleuir fod gwell siawns iddynt felly. Nid oes neb arall i gael mynediad i'r offer a bwrcaswyd ar gyfer y cynllun gwreiddiol, gan farnu fod yn well iddynt farw wrth eu pwysau, na chael cipolwg ar wellhâd byr hoedlog. Oherwydd y prinder arian mae gofyn i unigolion wneud y penderfyniad pwy gaiff fyw a phwy sydd i farw. Mewn gwlad sydd yn medru gwario miliynau o ddoleri ar arfau bob dydd yn Fietnam, mae'n anodd maddau'r diffyg pechadurus yn eu pwyslais. Wedi dechrau ar y cynllun, mae'n rhaid cydymdeimlo â'r meddygon sydd yn gorfod dedfrydu yr unigolion truenus, a gafodd fyw hyd yn hyn ar y peiriant, i farwolaeth. Er mai'r gymdeithas sydd yn dewis, mewn gwirionedd, arnynt hwy y disgyn y baich llethol hwn, a gallaf dystio i'r hunllef mae'n ei achosi i ambell un ohonynt. Do, fe ddaeth y gaeaf oer i'r Unol Daleithiau. GLYN O. PHILLIPS Atlanta, Georgia. Chwefror 1969.