Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trawsblannu Meddygol TEG dweud i'r newydd am drawsblaniad llwydd- iannus y galon ddynol, ychydig fisoedd yn ôl, ddisgyn ar y cyhoedd fel rhuthr corwynt-neu efallai fel ffrwydrad bom atomig meddygol. Yn y munudau cyntaf ar ôl derbyn y ffaith fod newydd mor anhygoel yn llythrennol wir daeth ton o edmygedd am ddewrder y claf a menter y llaw- feddyg. Ond yna yn dilyn gwelwyd llanw o orffwylledd a chywreinrwydd afiach a busneslyd. Nid gosod bai ar neb yw dweud hyn, ond traethu ffaith noeth. Mae llawer o bobl yn barod i gyfiawnhau yr eithafion a welwyd ar y teledydd ac a glywyd ar y radio, ac a bentyrwyd arnom ymhob papur newydd-dyddiol ac wythnosol. Onid oedd yma driniaeth lawfeddygol newydd sbon ac o bwys arbennig i bawb a 'hawl' felly gan y cyhoedd i wybod y mân fanylion dyddiol am y derbynnydd a'i ymdrech lew am ei einioes, a chael clywed am bob cam a symudiad, waeth pa mor ddibwys, a wnai'r meddygon tu mewn a thu allan i'r ysbyty? A chaniatáu bod yr amgylchiadau yn hollol newydd yr oedd y cwbl yn dra anfoddhaol. Yr un cywrein- rwydd ansyber a welwyd yma a fu'n denu llawer o'n cyd-ddynion i deithio i Ddyfnaint i weld y pentrefi a ddinistriwyd gan y glawogydd ac i eistedd yn gyffyrddus yn eu moduron i loddesta uwchben difrod y llifeiriant cynddeiriog a chyrff rhai o'r pentrefwyr yn dal yn yr adfeilion heb eu darganfod. Roedd bai mawr ar y wasg a'r moddion cyhoedd- usrwydd yn gyffredinol am ymhyfrydu yn nrama'r trawsblannu gyda'r derbynnydd neu'r meddyg fel arwr, gan anghofio na fuasai'r driniaeth yn bosibl o gwbl onibai fod y rhoddwr wedi colli ei einioes a'i deulu mewn galar. Ymhen peth amser daeth tawelwch dros dro ond roedd aml gyffro ysbeidiol fel y llamai'r gwledydd eraill ar y llwyfan, oblegid yr oedd yn amlwg ddigon fod ymgiprys cyd-wladol erbyn hyn ac 'anrhydedd' cenedl yn y fantol. A oedd profi fod y fath adnoddau meddygol wrth law yn ychwanegu cufydd at eu maintioli, beth bynnag fyddai'r canlyniadau? Mae'n siwr y dylai'r cwbl fod dan fantell o dawelwch ac anhysbysrwydd-heb ias o gyhoedd- usrwydd, heb enwau, heb luniau o'r teuluoedd, o angladd y rhoddwr, o'r claf yn ei wely, nac o'r EMYR WYN JONES llawfeddygon yn sefyll ar risiau'r ysbyty. Rwy'n haeru nad oes lle o gwbl i hysteria'r wasg, y radio a'r teledu mewn amgylchiadau preifat a thynged- fennol i ddau deulu. Digon fyddai nodyn byr ffeithiol yn unig heb enwi neb ac yn sicr heb gynnig unrhyw fanylion meddygol. Bu awgrym hefyd yn y cylchgronau meddygol fod yna ymgiprys rhwng y llawfeddygon eu hunain, a dyma drosiad o sylw nad yw, trwy drugaredd, yn nodweddiadol: 'Pan oedd y cwbl drosodd awgrymai llawfeddyg arall y buasai ei dîm ef yn gyntaf onibai am y mater bach o gael rhoddwr priodol wrth law'. Ar y llaw arall teg yw dweud mai nid dyma o bell ffordd oedd agwedd y mwyafrif. Mae barn llawer ohonom yn gadarn o blaid trawsblannu fel egwyddor oblegid yn ei hanfodion nid yw ond gwaith sy'n dilyn yn naturiol ac anochel yr arloesi cynnar dros dair canrif yn ôl. Mae'n hollol resymol ategu a chynnal y gwaith ymchwiliadol a wneir ac ar yr un pryd wrthwynebu'r modd y'i gwneir. Rhan hanfodol o'n gwaith yw estyn oes dyn hyd eithaf ein gallu ond heb achosi dioddefaint afresymol wrth geisio gwneud hyn; ac yna pan mae'n eglur i feddyg profiadol na ddylai barhau'r ymdrech dylid caniatáu i'r claf fynd trwy borth yr angau mewn tawelwch ac urddas. Mae'n anodd osgoi'r ym- deimlad o berthynas â rhai o'r digwyddiadau diwethaffod yna i ryw raddau absenoldeb rhyfeddol o barch at ddyn fel dyn. Mae rhai meddygon profiadol yn y maes hwn yn dadlau y dylai'r 'rhoddwr' fod yn fochyn neu lô ac na ddylid 'defnyddio' rhoddwr dynol, fel mater o egwyddor. Rhaid cyfaddef i rai o'r meddygon a'u cynorth- wywyr gael eu denu gan y rhialtwch gwyddonol a chael eu temtio i ymddwyn mewn modd nad oedd yn gydnaws â'u hurddas naturiol nac yn deilwng o'u traddodiadau proffesiynol. Bu beirniadaeth lem arnynt oherwydd eu hymddygiad, ac yn ddi-os nid mater o rawnwin chwerw oedd yr esboniad am hyn, ond gwir bryder fod yr hen safonau cadarn yn Uithro i'r llaid. Mae arweinwyr parchusaf y byd meddygol a'r Gweinidog Iechyd ei hun wedi datgan eu pryder yn ddifloesgni am yr agwedd anffodus yma, ac y mae'n sicr na welir yr un math o ym- ddygiad eto gan feddygon y wlad hon. Diddorol