Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wrth gwrs, boed y broblem yn delio â thrawsblaniad cyflawn mewn perthynas â'r galon, yr iau neu'r aren; neu yn rhannol, megis gosod falf neu ddwy yn y galon. Mae beirniadaeth hefyd ein bod yn amcanu estyn oes cleifion sydd i bob pwrpas wedi cyrraedd pen y dalar, ac y dylent hwy a'u perthnasau, a ninnau'r meddygon, fodloni ar hyn. Os nad oes gobaith cadarn am adfer y claf i fywyd gweddol gyflawn a'i gyneddfau yn gytbwys ni ddylid ymgymeryd â thriniaethau mor enbyd. Annheg a di-fudd yw gwneud ymdrechion llawfeddygol peryglus o'r natur yma, â'r claf ar ôl hyn yn llusgo byw ar riniog angau, yn faich iddo'i hun ac yn ofid llethol i'w deulu. Ond ar yr un pryd nid achub yr hen yn unig yw'r nôd, y mae'n bosibl y gellir meithrin gobaith yn y man i gynnig calon newydd i blant neu bobl ifanc ar drothwy bywyd pan fo nam genedigol ar y galon sy'n sicr o'u torri i lawr yn gynnar. Pwy a wyr? Duw biau edau bywyd A'r hawl i bennu ei hyd. Ond nid tynghediaeth yw dweud hyn chwaith; ein braint a'n dyletswydd yw gwneud ein gorau yn ôl ein gallu a'n cydwybod i'r cleifion dan ein gofal. Yn olaf, fe erys y pryder egwyddorol sy'n cnoi ymysgaroedd dyn, nad yw hi'n foesol gyfiawn gwario cymaint o adnoddau ariannol a phroffes- iynol mewn un congl fechan o'r maes meddygol, tra mae'r byd 'gwareiddiedig' yn gwneud cyn lleied i GWASG PRIFYSGOL CYMRU LLYFRAU'R WASG YN U.D.A. I'r rhai hynny sy'n awyddus i brynu cyhoeddiadau'r Wasg yn America cysyllter â- LAWRENCE VERRY (INC.), arbed bywydau cannoedd o filoedd o blant sy'n marw o newyn a heintiau yn Biaffra a Fietnam. A phan gofier am y symiau astronomaidd o gyfoeth y byd a werir ar arfau rhyfel a dinistr o bob math, a'r holl wastraff ar wybodaeth arbenigwyr gwydd- onol i'w paratoi, mae ysbryd dyn yn cael ei lethu gan faich y cyfrifoldeb a'i anallu i wneud dim i wella'r sefyllfa alaethus. Buasai cyfran o'r symiau enfawr hyn­briwsion, fel petai, oddi ar fwrdd y rhai 'sy dda ganddynt ryfel' — yn gweddnewid y sefyllfa ar unwaith. Byddai agwedd oleuedig a deallus at ryfel a'i erchyllterau yn rhyddhau adnoddau anfesuradwy i wella cyflwr dyn yn feddygol ac yn gymdeithasol-ac yn anad dim yn foesol. CYDNABOD Dymunaf ddiolch yn gynnes iawn i Gwmni The Genito- Urinary MFG Co. Ltd., am eu caniatâd parod a grasol i ddefnyddio ffigurau 6, 7, 8 a 9. OL-NODIAD Erbyn diwedd 1968 fe ymddengys y gwnaed trawsblaniad y galon ddynol bron gant o weithiau. Tua hanner y nifer yma oedd ar dir y rhai byw ym mis Rhagfyr, a rhaid pwysleisio'r gwirionedd prudd mai pedwar yn unig oedd yn fyw chwe mis ar ôl y driniaeth. Fe welir felly mai llethol o araf yw'r cynnydd; ac fe gydnabyddir gan yr arloeswyr mwyaf profiadol y bu, yn ystod y flwyddyn gyntaf, 'siomedigaethau anferth gyda'r problemau ôl-driniaethol, ac y mae'r dyfodol yn dibynnu ar ddatblygiad cyffuriau i reoli ymwrthodiad, ac nid ar fedrusrwydd y llawfeddygon'. MYSTIC, CONNECTICUT.