Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhaglen Ynni Niwcliar Canada* ANEURIN WILLIAMS Brodor 0 Lithfaen, Sir Gaernarfon, yw'r awdur ac wedi bod yn yr ysgol elfennol yng Nghaernarfon, fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg, Pwllheli, a Choleg y Brifysgol, Bangor, lle y graddiodd gydag anrhydedd mewn ffiseg. Bu wedyn yn gweithio mewn amryw o golegau fel darlithydd ac uwch-ddarlithydd cyn mynd i Ganada yn 1957. Gwaetha'r modd mae'n enghraifft berffaith o'r brain-drain, oherwydd roedd ei arbenigaeth yn ei wneud yn dra gwerthfawr i gwmni Canadian General Electric ac ef a gafodd y gwaith 0 adeiladu'r orsafy mae'n ei disgrifio yma. Nid oes amheuaeth nafu yn llwyddiant mawr ac Aneurin Williams fydd bellach yn gyfrifol am adeiladu adweithydd dŵr trwm Canada a'r orsaf bŵer sy'n gysylltiedig â hi. Trd'n ymfalchïo a'i longyfarch yn ei Iwyddiant, mae'n flin gennym na allwn gynnig cystal cyfleusterau iddo yma. UN o anghenion mwyaf arwyddocaol cymdeithas ddiwydiannol yw cyflenwad digonol o bwer trydan. Y mae nifer mawr y pwerdai trydan a godir yn ychwanegol bob blwyddyn mewn gwledydd diwyd- iannol, megis Prydain a'r Unol Daleithiau, yn brawf o hyn. Fe'i pwysleisir yn fwy gan anghenion gwledydd sydd, fel Canada, yn dal i ddatblygu'n ddiwydiannol. Ni all ffigurau moelion gyfleu'n hollol pwysig- rwydd digonedd o bwer trydan rhad i Canada a gwledydd tebyg. Y mae'n werth cofnodi, fodd bynnag, nad yw poblogaeth y wlad enfawr yma (3-5 miliwn o aceri sgwâr, sef trigain gwaith Prydain o ran maint) ond yn hanner poblogaeth Prydain. Eto, mae i'r genedl ifanc yma, oedd yn dathlu ei chanmlwyddiant gyda balchder yn 1967, safon byw uwch nag unrhyw wlad ag eithrio'r Unol Daleithiau. Gall cyflenwad parhaol o bwer rhad fod yn elfen holl bwysig wrth sefydlu a chynnal y safon uchel yma. Hyn a wnaeth i Ganada, fel Prydain, fwy na dyblu ei gallu i gynhyrchu trydan yn y deng mlynedd o 1955 hyd 1965. Dyma hefyd paham y cynllunir i'r pwerdai a adeiladir o 1965 hyd 1971 gynhyrchu cymaint o drydan ag a wnai ei holl bwerdai yn 1955. Pam pwer atomig yng Nghanada? Er sicrhau cyflenwad digonol rhad i'r dyfodol rhaid wrth gynllunio gofalus a rhagwelediad. Rhaid cael rhagfynegiad manwl o'r angen am bwer yn y dyfodol a gweithio allan y ffordd rataf o Cyf. Rhiain Phillips. gynhyrchu'r pwer yma. Pa ddulliau sydd ar gael i gynhyrchu pwer trydan? Gellir defnyddio un o ddau fath o bwerdy: (1) Pwerdy yn defnyddio dwr yn disgyn i droi'r olwynion sy'n gyrru'r cynhyrchydd trydan. (2) Pwerdy thermal yn defnyddio gwres i gynhyrchu ager i droi'r olwynion sy'n gyrru'r cynhyrchydd trydan. Gellir cael y gwres trwy losgi tanwydd ffosil fel glo, olew neu nwy mewn pwerdy traddodiadol. Ar y llaw arall gellir cynhyrchu gwres trwy hollti atomau uranium mewn pwerdy atomig. Heb os nac oni bai, defnyddio dwr sydd rataf. Yn wahanol i Brydain mae gan Canada ffynonellau addas o ddwr nas datblygwyd mohonynt eto. Buont yn hwb mawr i'w datblygiad diwydiannol grymus yn y gorffennol. Medd Canada hefyd ar gronfeydd hwylus o lo, nwy ac olew. Rhyfedd felly fod ystyriaeth wedi ei roi yma o gwbl i'r syniad cymharol ddiweddar o ddefnyddio pwer niwcliar i gynhyrchu trydan. Gyda'r fath ffynonellau o gynhyrchu pwer rhad trwy ddulliau sydd wedi ennill eu plwyf, beth sydd yn peri fod Canada'n awr yn datblygu cynllun pwer niwcliar? Ceir yr ateb wrth astudio talaith, neu hyd yn oed rannau o'r taleithiau, yn hytrach na'r wlad gyfan. Y taleithiau mwyaf eu gofyn am bwer niwcliar yn fuan ac yn y dyfodol yw Ontario, a Quebec, i raddau llai. Mae mwy na thrydedd ran poblogaeth Canada yn byw yn Ontario, er mai llai na degfed