Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Unedau SI Mae'r awdur ar hyn 0 brydyn uwch-ddarlithyddyn Adran Mathemateg, Coleg Addysg Dinas Caerdydd. Ar Mai laf bydd yn dechrau mewn swydd newydd, sef Cyfarwyddwr Cywaith y Cyngor Ysgolion mewn Gwyddoniaeth a Mathemateg yn yr Ysgolion Cynradd trwy gyfrwng y Gymraeg, dan nawdd Cyfadran Addysg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Efyw awdur Darganfod Rhif (U.C.A.C. 1968), a hefyd ef oedd yn bennaf gyfrifol am baratoi llyfryn y Cyngor Ysgolion, Y Dull Deg, sef arweiniad i athrawon ar y system ddegol. ER nad yw'r Llywodraeth, hyd yma, wedi cyhoeddi'r dyddiad y byddwn yn medrigeiddio'n systemau mesurau, y mae'n weddol sicr y byddwn yn newid tua chanol neu ddiwedd y saith degau. Gall hyn olygu llawer iawn o newid yng nghynllun gwaith dosbarthiadau uchaf yr ysgolion uwchradd, yn enwedig felly mewn mathemateg a ffiseg. Bydd yn rhaid i'r plant ieuengaf ymgodymu â centimetrau, metrau a kilometrau; militrau a litrau, gramau a kilogramau yn yr ysgolion cynradd, ac ni ellir rhag- weld ond ychydig iawn o anawsterau oherwydd byddant yn trin yr unedau hyn ar y cyfan trwy gyfrwng gwaith ymarferol, fel y gwnant eisoes gyda'r unedau a ddefnyddiwn ar hyn o bryd. Mae'r plant hyn, wrth gwrs, yn gyfarwydd â'r unedau hyn, ac yn eu defnyddio yn eu gwaith ysgol. Yn wir, y maent yn y chweched dosbarth yn defnyddio 0 leiaf ddwy system, sef y system droedfedd, pwys, eiliad (the fps system), a'r system centimetr, gram, eiliad (the cgs system), neu'r system metr, kilogram, eiliad (the mks system), ac o fewn i'r systemau hyn yn defnyddio unedau absoliwt ac unedau disgyrchedd. Y mae'r dasg o ymgyfarwyddo â'r gwahanol unedau o fewn i'r gwahanol systemau, fel y gwyr pob athro, yn ormod o dasg i lawer o'r disgyblion. Gan fod Prydain bellach wedi penderfynu medrigeiddio'r mesurau i gyd, cawn gyfle i gael un system drefnus, a honno'n system fydd yn cael ei derbyn a'i chydnabod gan bawb drwy'r byd. Systemau metric, wrth gwrs, yw'r systemau cgs a'r mks, ond nid un o'r rhain a fyddwn yn debyg o'i mabwysiadu pan ddel y newid. Y mae Prydain yn newid i system fetrig ar adeg pan mae system resymol, sef y Systéme International d'Unités (SI), yn cael ei mabwysiadu gan lawer iawn o wahanol wledydd trwy'r byd. Eisoes y mae tua dau ddwsin o MERFYN GRIFFITHS wledydd wedi paratoi deddfwriaeth i wneuthur y system hon yr unig system gyfreithlon o fesur. Dyma felly yr unig system resymegol i ni ym Mhrydain. Y mae ein cynrychiolwyr eisoes wedi cymryd rhan mewn trafodaethau a gynhaliwyd dan nawdd y Gymdeithas Safoni Ryngwladol (International Organisation for Standardiiatiori), gyda chynrychiolwyr o wledydd sydd eisoes wedi penderfynu mabwysiadu Sl-gwledydd sydd, gyda llaw, yn masnachu llawer â Phrydain. Mewn unrhyw system o fesur y mae'n rhaid dewis maint rhai mesurau ffisegol yn fympwyol, a'u pennu i fod yn werth uned o'r mesur hwnnw. Dyma wedyn fydd yr unedau sylfaenol, a phob uned arall yn uned ddeilliadol, a'u perthynas â'r unedau sylfaenol i'w cael drwy ddiffiniad. Y system ddelfrydol yw honno ag iddi y nifer lleiaf o unedau sylfaenol. Yn SI y mae pob mesur angenrheidiol ym mhob technoleg yn deillio o ddim ond chwe uned sylfaenol, a'r rhain wedi eu diffinio'n fympwyol. Y mae hyn yn wahanol i'r ddwy system fetrig sydd mewn bri yn awr. Gyda'r systemau hyn y mae mesurau ychwanegol, er enghraifft, y calori a'r marchnerth, yn cael eu diffinio'n fympwyol, ac yn wir yn wahanol mewn gwahanol wledydd metric. Y mae SI yn system gysylltiol o unedau. Dywedir fod system yn gysylltiol os yw lluoswm neu gyfran o unrhyw ddwy uned o fesurau o'r system yn uned o'r mesur canlyniadol. Er enghraifft, mewn system gysylltiol ceir uned grym trwy luosi uned más gydag uned cyflymiad, ac uned cyflymder trwy rannu uned hyd gydag uned amser, ac yn y blaen. Ac felly, mewn system gysylltiol sy'n rhoi troedfedd, pwys, ac eiliad, fel unedau hyd, más ac amser, uned grym yw'r bwysal (poundal) ac nid pwysau-pwys (pound-weight) neu pwys-grym (pound-force).