Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Debygwn i 0. E. Roberts ARBROFION MEDDYGOL CREODD cyfrol Dr. M. H. Pappworth (Human Guinea Pigs, 1967, Llundain: Routledge a Kegan Paul) gryn gynnwrf. Crêd Pappworth bod rhai meddygon yn camddefnyddio pobl o dan eu gofal mewn arbrofion meddygol a bod perygl i hyn ehangu. Ei ddiffiniad o gamddefnyddio yw 'unrhyw beth a wneir i'r claf na dderbynnir mohono yn gyffred- inol fel budd therapiwtig uniongyrchol neu a gyfranna tuag at ddïagnosis o'i afiechyd'. Cydnebydd Dr. Pappworth, wrth gwrs, y gwneir y rhan fwyaf o'r arbrofion gyda phob gofal a gonestrwydd ond bod rhai ymchwilwyr sy'n mynd y tu hwnt i anghenion rhesymol, gan wneud arbrofion na ellir mo'u cyfiawnhau. Rheol y dylid ei derbyn gan bob arbrofwr yw honno a fyn na fentra meddyg wneud dim i glaf na fodlonai ei dderbyn ei hun. Cyfyngir arbrofion ar anifeiliaid gan reolau arbennig a chaeth, ond nid oes mo'u tebyg i reoli arbrofion ar bobl. Mae yna nifer o ddatganiadau sy'n cynnal y meddyg arbrofol, er nad oes cyfraith gwlad i'w orfodi i ufuddhau iddynt megis Côd Nuremburg (1953) yn dilyn y tribiwnlys yn y ddinas honno wedi'r rhyfel ac a dderbynnir mewn rhai gwledydd; datganiadau'r Cyngor Ymchwil Meddygol (1953, 1964); rhai o dro i dro gan Cymdeithas Meddygon Prydain (e.e. 1963) a'r un a ddeilliodd o gyfarfyddiad Cymdeithas Meddygon y Byd yn Helsinki (1964). Mae yna nifer o anhwylderau dynol na ellir mo'u hastudio ond yn y cleifion a ddioddefa oddi wrthynt, a gofyn hynny weithiau am arbrofion er ceisio'u gwella. Eithr y mae cysylltiadau emosiynol rhyfedd â'r gair 'arbrofi' ac anodd perswadio claf yn aml i dderbyn triniaeth arbrofol am y cysylltir 'arbrofi' â phrofion ar anifeiliaid yng nghuddfannau labordy. Eto, mae hi'n hen arfer gan gleifion dderbyn unrhyw driniaeth yn ffyddiog, yn llawn hyder bod y meddyg yn rhoi'r driniaeth orau yn ôl ei wybod- aeth ar y pryd ac yn ôl anrhydedd ei broffesiwn. SAFBWYNT PERSONOL AR WYDDONIAETH HEDDIW Cyfyd y cwestiwn, felly, pa feddyg sydd orau, y sawl a ddilyna driniaeth draddodiadol neu hwnnw a geisia gymharu dau fath o driniaeth er mwyn dewis y gorau? Mae'n amlwg bod parhau i ddefnyddio cyffuriau traddodiadol heb unrhyw sicrwydd pendant o'u heffeithiolrwydd na'u dull o weithio yn fwy amheus nag arbrofi ar linellau priodol. Eithr problem foesol i'r meddyg yw'r prawf-dan- reolaeth, gan roi un driniaeth i nifer o gleifion a thriniaeth wahanol neu aneffeithiol-placebo, i eraill. Rhaid gweithio ar linellau fel hyn cyn y bydd yn bosibl sicrhau ffeithiau a ddengys a oes gwerth mewn triniaeth arbennig, megis gyda sylffenamidau ac antibiotigau yn y cyfnod cynnar. Problem foesol yw'r croesdyniad rhwng budd i'r ddynolryw a'r perygl i'r unigolyn. Nid yw sicrhau gwirfoddolwyr i bwrpas arbrofion meddygol yn beth hawdd nac ymarferol hwyrach. Gwir y rhoddir cyfle yn y Taleithiau Unedig i garcharorion wirfoddol, a bodlon yw llawer o'r rheiny y wneud hynny gyda'r gobaith oleihadyneu dedfryd. Fel rheol, y dyddiau hyn, arbrofir ar anifeiliaid yn gyntaf peth wedi darganfod neu ddarparu cyffuriau newydd addawol a phwrpasol. Yn ddigon naturiol, pan ddaw'r amser i arbrofi ar ddynion, wynebir y meddygon â phroblemau moesol, ond sut y gellir hyrwyddo ymchwil glinigol na therapi heb hynny? Bydd y rhan fwyaf o'r ymchwilwyr meddygol yn ddigon gonest ac agored i egluro i glaf y driniaeth newydd y bwriedir ei rhoi iddo os rhydd yntau ei ganiatâd. Ond nid oes yr un llinell derfyn a ddengys lle y mae arbrawf yn gorffen a thriniaeth gyffredinol yn cychwyn. Hynny yw, nid oes rhif pendant y mae'n rhaid gofyn eu caniatâd cyn rhoi'r driniaeth heb ofyn i'r nesaf, am ei bod erbyn hynny yn driniaeth gymeradwy yn hytrach nag arbrofol. Hap a digwydd roes lawer o sylfeini meddygaeth gynt, i raddau helaeth iawn. Dibynna unrhyw driniaeth newydd heddiw ar seiliau rhagorach na hynny, yn dilyn syniadau ar linellau gwyddonol, sylwadaeth gywir ar adwaith anifail a dyn, a