Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gwyddonydd a'r Diwinydd Brodor 0 Aberpennar, Sir Forgannwg, yw awdur yr erthygl hon, a chafodd ei addysg mewn ysgolion Ileol. Graddiodd mewn mathemateg ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn y celfyddydau ym Mhrifysgol Cymru (Coleg Caerdydd). Mae hefyd yn meddu'r radd 0 B.D. (Prifysgol Llundairi). Buamgyfnodyn weinidog gyda'r Undodiaid yng Nghaerdydd cyn symud i Loegr i ddarlithio mewn mathemateg yng Ngholeg Technegol Redcar. Dychwelodd i Gymru yn 1966 ac y mae ar hyn 0 bryd yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Beiblaidd yng Ngholeg Addysg Caerdydd. Mae wedi dewis seilio ei gyfraniad i'r gyfres hon ar Iyfr pwysig a ymddangosodd yn ddiweddar, sef 'Issues in Science and Religion', G. Barbour (S.C.M.), 469 tt., argraffiad rhad (1968), 30s. UN o brif ddiddordebau'r llyfr hwn yw'r cysylltiad rhwng athroniaeth crefydd ac athroniaeth gwyddon- iaeth. Gellir deall cymwysterau Dr. Barbour i gyflawni ei waith o ystyried ei fod yn Athro Ffiseg a Chadeirydd Adran Crefydd yng Ngholeg Carle- ton, Northfield, Minnesota. Y mae yn ei elfen wrth ddadlennu hanes gwyddoniaeth, wrth roddi i ni y damcaniaethau diweddaraf mewn bioleg neu seryddiaeth, neu wrth gymharu syniadau Bergson a Teilhard de Chardin. Ni ellir meddwl am unrhyw lyfr arall ar y pwnc hwn sydd mor fodern a ffres ac ar yr un pryd mor gynhwysfawr. Tybed a ydyw'n pwyso gormod ar A. N. White- head o bryd i'w gilydd? Ond dichon y dylem ei ganmol am ein cyfeirio at waith a syniadau Whitehead. Fodd bynnag, llwyddodd i greu llyfr a fydd yn werthfawr iawn i filoedd o fyfyrwyr a phobl eraill. Yn wir, rhaid canmol y llyfr am fod yn ddarllenadwy iawn. Mor rhwydd fyddai defnyddio iaith dechnegol a lesteiriai ein synhwyrau nes i ni syrffedu'n llwyr: ac er y gallwn ei alw yn werslyfr y mae'n llyfr y gellir ei ddarllen a'i ddeall heb gefndir eang iawn. Ar y llaw arall y mae'r cynnwys yn sylweddol dros ben. Amcanion y gyfrol Yn y rhagymadrodd rhoir prif amcanion y llyfr. Yna cawn brif gynnwys y llyfr yn ymrannu yn dair rhan: crefydd a hanes gwyddoniaeth, crefydd a dulliau gwyddoniaeth, crefydd a damcaniaethau gwyddoniaeth. Ceir hanes gwyddoniaeth o'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen. Y mae'n olrhain gwaith D. ROY JOHN pwysig Galileo, Newton, Darwin ac eraill a'u harwyddocâd yn hanes dyn ac yn hanes meddwl dyn. Ar yr un pryd gwna gyfeiriadau at ddatblygiad athroniaeth a chrefydd o amser Aquinas ymlaen. Y mae'n nodi pwysigrwydd gwaith Schleiermacher a Ritschl yn y ganrif ddiwethaf wrth ganolbwyntio ar ymwybod crefyddol yr unigolyn a throedigaeth bersonol. Y mae moesoldeb a'n profiad personol o grefydd yn elfennau o bwys yng ngwaith dilynwyr y diwinyddion hyn. Y mae'n trafod Barth ac wrth gyfeirio at hynt rhai o'i ganlynwyr dywed y gall ceidwadwr eangfrydig gael ei hun yn agos iawn at ryddfrydwr a ddadrithiwyd (fel mewn gwleidyddiaeth). Byddai derbyn safbwynt Bultmann yn golygu, meddai, na allem ddeall y neges Gristnogol fel rhywbeth sydd yn cyfeirio at ddigwyddiadau yn y byd allanol, ond yn hytrach at y ddealltwriaeth newydd ohonom ein hunain a roddir gan Dduw yng nghanol pryderon a gobeithion ein bywyd personol. Nid oes felly, yn ôl Bultmann, unrhyw gyfathrach rhwng gwyddoniaeth a diwinyddiaeth- ond nid dyma safbwynt Barbour ei hun o gwbl. Dywed Barbour fod gwyddoniaeth yn ymgyrch mwy dynol, a diwinyddiaeth yn ymgyrch mwy hunan-feirniadol nag a amlygir yn y rhan fwyaf o'r trafodaethau diweddar. Er i ni gychwyn gyda'r syniad o wyddoniaeth a chrefydd fel ieithoedd cyfatebol gallwn weld fod posibilrwydd deialog rhyngddynt. (Ceir erthygl ddiddorol ar y pwynt hwn gan John S. Morris, Deon Prifysgol Colgate, Hamilton, N.Y., 'Religion and Theological Lan-