Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyn 1: Y Claf lach! NA nid dyn o blaned arall a ddangoswn ar y clawr eleni. Ei enw yw Dynwaredwr I. Dyma'r enw a roes Americanwyr ar ddyfais ddiweddar o'u heiddo. Gall hwn ar orchymyn cyfrifiadur, amrantu, anadlu, pesychu, chwydu, a hyd yn oed farw, a'r cwbl er hyfforddi meddygon yn y grefft o wneud claf dan lawfeddygaeth yn anymwybodol. Lluniwyd y ddelw ar fesuriadau dyn gan beirianwyr ac addysgwyr meddygol o Ysgol Feddygol Prifysgol De California, i'r myfyrwyr ymarfer arno a lleihau'r amser a gymerth i'w hyfforddi. Trwy droi adweithiau ffisiolegol yn hafaliadau mathemategol, cyflyrwyd y ddelw gan y gwyddon- wyr i ddynwared unigolyn o dan lawfeddygaeth. Ceir ynddo yr holl rannau corfforol a effeithir gan anesthetig; y tafod, y dannedd, y tafod bach, y tannau llais, y bibell wynt a phibellau'r frest. Wrth fod gan y dyn artiffisial yma guriad calon, pwysedd gwaed, ysgyfaint yn anadlu, gên ar golfach yn cau ac agor a channwyll llygaid yn lledu a chulhau, gall ddynwared adweithiau'r corff. Gorchuddir yr esgyrn dur-195 pwys ohonynt- gan blastig o liw cnawd. Gan ei fod yn medru crychu ei dalcen gall ymddangos yn hynod o ddynol; prin y disgwylir i benglog grychu ei dalcen. Rhoi y wyneb ar benglog Dyn Dyn yn cael ei baratoi Effaith cyffuriau ar d (a) ymlediad y gannwyl'