Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gweithio Metelau Yng Nghymru (Athro Emeritws mewn Meteleg yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe) Ym 1968 dechreuwyd adeiladu'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant i gynhyrchu'r arian degol newydd. Mae'n safle hanesyddol ddiddorol gan fod mwyn- gloddiau plwm yno mor gynnar â 1262; gwelodd y rhain eu prysurdeb mwyaf tua 1770 pan gyflogai'r Arglwydd Bute bum cant o ddynion ym Mwyn- glawdd y Parc. Ceir mwyn arian yn gyffredin yn gysylltiedig â mwynau plwm, ac er nad oes bellach arian mewn arian bath dyma esgus priodol i fwrw golwg tros hanes metelau yng Nghymru. Yr Oesoedd Bore Mewn cylch o gytiau cyntefig ar Fynydd y Twr, ger Caergybi, daethpwyd o hyd i olion gweithdy copor, sydd i bob golwg yn dyddio'n ôl i ddwy fi1 0 flynyddoedd cyn Crist. Gwyddom hefyd am fwyn- doddi metelau ym Merthyr Mawr, ger Porthcawl, yn y cyfnod 500-350 c.c., gan fod yr archaeolegwyr wedi datguddio ffwrneisi bychain i gynhyrchu haearn a phres. Cefais gyfle i ddadansoddi rhai darnau bychain o'r pres, a darganfod nad aloi cyffredin o gopor a thun mohono ond copor ynghyd â sinc (3-6 y cant), plwm (2-3 y cant) a haearn (1-2 y cant). Gwyddwn fod sinc wedi ei gloddio yn gynnar iawn yng Ngwlad yr Haf a thybiais mai oddi yno, ar draws culfor Bryste, y daeth y sinc yma. Yn ddiweddar, beth bynnag, gwelais gyfeiriad yn llyfr W. J. Lewis, Lead Mining in Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967, t. 164) fod ychydig o fwyn plwm wedi ei godi ym Merthyr Mawr, a calamine (mwyn sinc) gerllaw yn Newton ac yn Sain Tathan yn gymysg â mwynau plwm. Mae'n debyg felly mai mwynau lleol oedd sail y burfa gyntefig ym Merthyr Mawr. Sicrhau cyflenwad o fetelau oedd un o brif amcanion ymgyrchoedd y Rhufeiniaid a gwyddom iddynt gloddio aur yn Nolaucothi yn Sir Gaer- fyrddin. Cafwyd rhagor o aur o'r un man yn ystod y ganrif hon, a chlywsom yn ddiweddar fod bwriad i ail agor gwaith aur y Clogau yn Sir Feirionnydd, gwaith lle cyflogwyd tri chant o ddynion ar un adeg. Defnyddiodd y Rhufeiniaid lo lleol i fwyn- HUGH O'NEILL Mwyngloddfa Ynyshir allan o Present State of the Mines gan William Waller (goruchwyliwr y gwaith), a gyhoeddwyd yn 1699 doddi'r mwynau plwm yn Sir Fflint ac y mae'n bur debyg eu bod wedi cloddio plwm hefyd yng Nghwmystwyth, Sir Aberteifi. Buont yn cloddio copor yn Sir Drefaldwyn ac ymhellach ger Risca a Chaerleon.