Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

9-4 y cant o boblogaeth Cymru yn gweithio yn y diwydiannau metel, ond y mae dulliau newydd yn parhau i leihau y rhif sydd yn gweithio yn union- gyrchol yn y diwydiant. Ymysg y diwydiannau metel eraill mae'n sicr mai'r diwydiant aliwminiwm ydyw'r pwysicaf. Bu purfa fechan yn Nolgarrog yn dibynnu ar drydan o'r cynllun trydan-dŵr yno. Yn ystod y rhyfel hefyd adeiladwyd purfa fechan ym Mhort Tennant, Abertawe, ynghyd â phurfa magnesiwm gyfagos. Ar drydan o'r grid y gweithiwyd y rhain, a'r un modd burfa fechan arall Rheola, Cwm Nedd. Bwriedid cynhyrchu trydan yno trwy losgi glo ond daeth y rhyfel i ben cyn dod â chynhyrchydd o'r Swistir yno. Rhyw 12,500 tunnell y flwyddyn oedd cynnyrch Rheola a Phort Tennant. Er nad yw'r metel yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru bellach datblygodd y diwydiant llunio a thrafod aliwmin iwm yn eithriadol er 1940. Cynhyrchwyd 68,00( o dunelli o lafnau, stribedi, gwifren a cheblai aliwminiwm ym 1951 ac erbyn 1966 yr oedd hyn wedi cynyddu i 134,000 tunnell, sef yn agos hanner cynnyrch Prydain. Yn Abertawe, Resolfen yng Nghwm Nedd, a Rogerstone yn Sir Fynwy, y lleolwyd y diwydiant hyd yma. Aliwminiwm wedi ei fewnforio i Brydain ydyw crynswth y deunydd, ond cawn wybod cyn hir a sefydlir purfa aliwmin- iwn fawr yn Sir Fôn, yn derbyn ei thrydan o orsaf niwcliar, ynteu ai purfa mewn man arall gyda gorsaf drydan yn llosgi glo a adeiladir. I orffen yr arolwg byr hwn rhaid nodi bod ffatri yn Waunarlwydd, Abertawe, yn cynhyrchu aloiau sy'n cynnwys titaniwm. Purfa Sinc Llansamlet