Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dan Law'r Meddyg [ Yn ystod y flwyddyn bydd meddyg Y GWYDDONYDD yn trafod rhai achosion ddaw i'w sy/w'nfeunyddiol. Er na aìl ymdrin â phob ymholiad efallai y carech dynnu ei sylw at ryw gyflwr sydd 0 ddiddordeb neilltuol neu yn eich poeni.—GOL.] Carreg yn yr aren UN rheswm pendant dros alw'r meddyg ar frys ar unrhyw awr o ddydd neu nos yw poen, a hwnnw'n annioddefol-ac mae yna gyflyrau sydd yn rhoi poen fel yna waeth pwy fo'r dioddefwr. (A da y gwyr pob meddyg fod gallu unigolyn i wrthsefyll poen yn amrywio'n fawr o'r naill berson i'r llall.) Galwad at achos fel hyn aeth â fi allan y dydd o'r blaen at wr deugain oed a adwaenwn yn dda er na fu cyn hyn yn fy ngofal. Gwyddwn nad oedd wedi colli diwrnod o waith yn ystod y ddeng mlynedd y bûm yn feddyg iddo. Dechreuodd y boen rhyw awr ynghynt; gweddol ysgafn oedd ar y cychwyn ond yn fuan yn gwaeth- ygu nes ei fod yn griddfan yn ei ddyblau. Dyna'r sefyllfa pan gyrhaeddais y cartref ac yr oedd yn hollol amlwg fod y gwr mewn poen difrifol. Erfyn yn daer am nodwydd, a hynny ar fyrder a wna'r claf dan yr amgylchiadau yma, wrth gwrs. Ond er mor awyddus yw'r meddyg i leddfu poen rhaid yn gyntaf ddarganfod yr achos. Nid oedd hynny'n anodd yn yr achos yma. Lleoliad y boen o'r lwyn i gesail y forddwyd, anterth y boen a'i natur yn mynd a dod, cyfogi a saldra i gyd yn gwneud diagnosis o garreg yn yr aren yn bur amlwg. Ciliodd y boen gyda chyffuriau arbennig ond bu'n rhaid rhoi rhagor ymhen teirawr wedyn. Ciliodd y boen yn raddol ac ni ddychwelodd. Beth yn hollol a barodd ymosodiad sydyn llym fel hyn? Carreg yn yr aren, neu'n hytrach ar ei ffordd o'r aren i'r bledren drwy'r sianel a elwir yn ureter. Yr ymdrech i symud y garreg ar hyd yr ureter sy'n cynhyrchu'r boen. Ni chilia'r boen nes cael gwared ar y garreg o'r bibell a dyna paham yr anogir y claf i yfed yn barhaus. Nid dyma'r patrwm bob tro, wrth gwrs. Yn aml mae'r garreg yn rhy fawr i fynd ddim ymhellach na phen uchaf yr ureter a gall fynd yn gaeth mewn un neu ddau o safleoedd arbennig ar ei ffordd i lawr. Rhaid wrth archwiliad pelydr-X i weld hyn-- peilogram intravenus. Dengys yr archwiliad y bibell ddwr yn glir ac os oes carreg yno fe'i lleolir ar unwaith. Pan fethir â'i symud rhaid cael triniaeth law- feddygol i'w thynnu o'i charchar. Yn yr achos a nodais fe drodd pethau allan yn ffafriol iawn. Erbyn iddo gael archwiliad pelydr-X, roedd y pibau yn gwbl normal-y garreg wedi ei phasio allan o'r corff. O ble y daw'r cerrig yma a sut gellir eu gochel? Pwnc eang a chymhleth, ond fe ellir nodi pedwar ffactor pwysig: (1) Mewn gwledydd lle mae vitamin A yn ddiffygiol yn yr ymborth, digwydd y cyflwr o gerrig yn yr arennau yn gyffredin. (2) Haint ar yr arennau. Gall hyn gyfrannu at ffurfiant y cerrig. (3) Diffyg ar rediad y dwr-h.y. pan fo unrhyw fath o rwystriad yn y sianelau neu, ac mae hyn o bwys mawr, pan na fo person yn cymryd digon o hylif i'w gorff. (4) Pan fydd rhyw nam ar dreuliad calsiwm yn y corff. Gwelir hyn ar ôl cyfnod hir o fod yn orweddiog, e.e. ar ôl torri asgwrn. Digwydd hefyd os yw'r chwarren thiroid yn gorweithio. Enghraifft yw hwn felly o gyflwr sydd yn weddol gyffredin yn ein mysg ond y mae'n lleihau. Achosa salwch sydyn a phoenus pan symuda'r garreg. Pan nad yw'n symud mae hi'n llawer mwy anodd darganfod yr arwyddion. Fel arfer â drwy'r pibellau mewn byr amser a dim o'i hôl i'w weld gyda phelydr-X ond os yw'n hir, a mwy nag un ymosodiad o'r 'colic' yn methu â'i symud yna rhaid wrth driniaeth lawfeddygol yn ôl pob tebyg. Mae lle i gredu nad yw rhai pobl yn cymryd digon o hylif i'w cyrff a hyn yn arwain at ddiffyg rhediad, a cherrig. Y mae hyn yn werth ei gofio gan fod y feddyginiaeth mor syml.