Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

au'r Weinyddiaeth Gynllunio Gwlad a Thref cyn symud i'r Weinyddiaeth Danwydd a Phwer. Yn ystod ei ddwy flynedd ar bymtheg yn y Weinydd- iaeth hon, gwasanaethodd i ddechrau'n Brif Ystadegydd (1947 i 1955), yna'n Is-Ysgrifennydd Adran y Glo (1955 i 1962) ac yn olaf yn Bennaeth yr Adran Gyffredinol. Gwnaed ef yn C.B. yn Rhestr Anrhydeddau'r Frenhines yn 1962. Estynnodd ei gyfrifoldeb yn y Weinyddiaeth i amryfal feysydd megis ystadegau ynni; cynllunio polisïau tanwydd a phwer; problemau ariannol a phroblemau llunio polisi yn y diwydiant glo; cysylltiadau tramor a thrafodaethau ar ymuno â Chymuned Glo a Dur Ewrop. Pan sefydlwyd hi yn 1964 dyrchafwyd Dr. Daniel yn Ysgrifennydd Parhaol cyntaf y Swyddfa Gym- reig ac o'r swydd honno y daw i Aberystwyth. Wrth fwrw golwg nôl dros gerrig milltir gyrfa'r gwr amryddawn hwn, un nodwedd drawiadol amlwg o'r dechrau yw ei hyblygrwydd a'i allu i addasu'n llwyddiannus at y naill ddisgyblaeth academaidd ar ôl y llall. Dechreuodd ei yrfa academaidd i bob pwrpas ymarferol ym myd y celfyddydau. Yna trodd at astudiaeth daeareg yn y gyfadran wyddoniaeth yn y Coleg ond testun bywydegol yn ei hanfod oedd cynnwys y papur ymchwil cyntaf a gyhoeddodd ar 'Achos anarth- rosis etifeddol y bys canol'. Eto, yn ei waith gwreiddiol at y Diploma Anthropoleg gwelir defnyddio helaeth ar dechnegau ystadegaeth. Hwyrach mai yma y ceir dechrau'r blas o ddifrif ar ystadegaeth ? Dywedir mai un o nodweddion gwir wyddonydd yw ei anallu i adnabod y ffiniau-gwneud cyfleus a godwyd rhwng y gwyddorau. Cama trostynt yn ddiseremoni heb sylwi arnynt. Sylweddolai Goronwy Daniel na ddylid cydnabod y fath ffiniau ym maes cymdeithaseg; safbwynt a dderbynnir yn gyffredinol bellach. Yr oedd ef hefyd yn un o'r arloeswyr a welodd fod dadansoddiad ystadegol yn erfyn effeithiol i drafod data cymdeithasegol â thrachywiredd manwl nas cyrhaeddwyd o'r blaen mewn maes ymchwil a nodweddid yn rhy aml gan amwysedd ansoddol. Gwelir hyn mewn gweithred- iad yn ei bapur ar 'Cyfnewidiadau yn nodweddion hiliol y boblogaeth yn ardal Llandybie' yn Joumal of the Royal Anthropological Institute, cyf. lxvi, tt. 143-55 (1937). Dengys y ddau bapur a grybwyllwyd uchod un nodwedd arbennig arall a berthynai iddo, sef y cyswllt agos rhwng ei ddiddordebau ymchwil cynnar a'i gefndir ef ei hun. Casglai ei ddefnyddiau crai yn ei hen gynefin. Symudiadau poblogaeth yn y gorffennol agos a'i diddorai yn Llandybie ond trodd ei sylw'n fuan at broblem gyfamserol tipyn mwy llosg a phoenus o ymarferol, sef ymfudiad y gweithwyr o ardaloedd diwaith De Cymru. Pan aeth i Rydychen gwelai ugeiniau ohonynt yn cyrraedd pen eu taith ymfudol yno yn y ffatrïoedd ceir. Ysgrifennodd gyfres o bapurau'n dadansoddi gwahanol agweddau ar y symudiad mawr hwn: 'Ymfudiad y gweithwyr a'u hoedran', Sociological Review, cyf. xxxi, rhif 3, tt. 281-308 (1939); 'Ymfudiad y gweithwyr a'u ffrwythlondeb', Socio- logica/ Review, cyf. xxxi, rhif 3, tt. 370-440 (1939); 'Rhai ffactorau sy'n effeithio ar symudiadau gweithwyr', Oxford Economic Papers, rhif 3, tt. 144-79 (1940); 'Lleoliad diwydiant ac ail gyflogi gweithwyr', Bulletin of the Institute of Statistics, Oxford (1941). Triniaeth ysgolheigaidd, wrthrychol ac ystadegol o ffeithiau'r ymfudiad a ddatblygir yn y gyfres yma. Eto ceir ynddynt liaws o ôl-nodiadau diddorol a hynod ddynol eu naws yn ymwneud â phrofiadau cymdeithasol, agweddau seicolegol ac amgylch- iadau materol rhai o'r ymfudwyr. Yn wir, mae'r atodiad i'r trydydd papur yn cyfleu i leygwr ddarlun mwy byw o fywyd y Cymry alltud yn Rhydychen na chyfrol o ystadegau. O gofio mai dirwasgiad yr ugeiniau a'r tridegau cynnar oedd cefndir agos ei fachgendod y mae'n haws sylweddoli nad ystadegau oer yn unig oedd 'ymfudiad y gweithwyr' iddo ef ond gwyr a gwragedd a theuluoedd byw y gwyddai'n dda am eu hamgylchiadau a'r orfodaeth economaidd a'u halltudiodd. Amlygir ysgolheictod Dr. Daniel ymhellach mewn llawer o gyhoeddiadau ymchwil ychwanegol mewn cyfnodolion safonol ar ystadegaeth a thanwydd a phwer na ellir manylu arnynt yma. Heblaw hyn ysgrifennodd erthyglau niferus yn adroddiadau'r llywodraeth a chyrff rhyngwladol ar ystadegaeth, cynllunio rhanbarthol ac ad-drefnu llywodraeth leol. Casglodd brofiad eang ac amrywiol mewn gweinyddiaeth wrth ddringo'n gyflym i rengoedd uchaf y Gwasanaeth Sifil; profiad a fydd o werth mawr i Aberystwyth. Nid yw hyn ond braslun digon anghyflawn o ran yn unig o yrfa ddisglair Goronwy Daniel. Yn ddiau gall yr Hen Goleg ger y Lli ddisgwyl yn hyderus am gyfnod ffrwythlon o ddatblygiad dan ddylanwad ac arweiniad y rhan arall sydd i ddyfod. J.B.B.