Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhinweddau Meddyginiaethol Cynnyrch y Gwenyn MELVYN R. WILLIAMS Brodor 0 Dalysarn, Arfon, yw'r awdur. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn NantUe, Penygroes, ac wedyn yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, l/e graddiodd mewn swo/eg. Ar hyn o bryd mae'n athro cemeg a bywydeg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Ers amser cyntefig y Palaeolithig mae dyn wedi gwerthfawrogi cynnyrch y gwenyn yn fwy am ei felystra na dim byd arall. Mae hyn wedi'i gofnodi mewn ffurf darlun wedi'i baentio ar wal ogof yn Valencia, Sbaen. Ysywaeth, gyda threigl y blynydd- oedd, mae e wedi camu ymlaen yn ddirfawr yn ei wybodaeth ers yr amser boreol yma nid yn unig oherwydd ei ddiddordeb mewn hunan-gadwedig- aeth ond am ei ymddiriedaeth llwyr yn rhinweddau meddyginiaethol cynnyrch y gwenyn. Mae'r gwenyn yn perthyn i deulu'r pryfed adenog o'r enw Pterygota, ac oherwydd eu hadenydd tenau fe'u dosberthir gyda'r Hymenoptera, y teulu mwyaf o bryfed ym Mhrydain. Gan eu bod â chanol tenau, maent yn cael eu his-ddosbarthu fel Apocrita, ac mae eu colynnau ffyrnig yn eu dosbarthu ymhellach fel Acùleata. Enw gwyddonol y wenynen fêl yw Apis mellifera a gwahenir hwy oddi wrth y gwenyn eraill yn nosbarth Aculeata oherwydd eu bod yn byw fel uned trwy'r gaeaf. Maent wedi datblygu math uchel iawn o fywyd cymdeithasol gan rannu'r gwaith a'r dyletswyddau rhwng llawer. Mewn nythfa gwelir tri math o wenyn: (a) Y Frenhines. (b) Y Gweithwyr. (c) Y Gwenyn Gormes. Y Frenhines Dim ond un sydd mewn nythfa, a hi yw'r unig fenyw a all ddodwy. Felly, mae ei habdomen yn llawer mwy na'r lleill. (Dyma ffordd gymharol hawdd o adnabod y frenhines mewn nythfa.) Gall ddodwy i fyny at ddwy fil o wyau y diwrnod yn ystod yr haf, ac fel arfer, tua phum mlynedd yn unig yw hyd ei hoes. Gwenyn Gormes Hwy yw'r gwrywod. Un dyletswydd sydd gan- ddynt, sef sicrhau ffrwythloni'r frenhines forwynig newydd ei geni. Unwaith yn ei hoes mae hyn yn digwydd. Gweithwyr Benywod yw'r rhain ond heb y gallu i ddodwy. Mae ar gyfartaledd 50,000 ohonynt mewn nythfa sylweddol yng nghanol yr haf, a hwy sy'n gofalu am y gwahanol ddyletswyddau. Diliau mêl yn crogi'n gyfochrog â'i gilydd, gyda hanner modfedd rhyngddynt yw nythfa gwenyn. Mae'r diliau wedi'u cyfansoddi o gwyr melyn a gynhyrchir gan y gwenyn eu hunain o'r chwarren- nau cwyr o dan eu boliau. Gyda'r cwyr, maent yn adeiladu celloedd chwe-ochrog â digon o ddyfnder i ddal mêl, wyau a chynrhon. Os oes brenhines arall i'w geni fe adeiladant gell bwrpasol iddi ar ffurf mesen a elwir yn gell frenhines. Nid oes wy bren- hines fel y cyfryw gan fod y frenhines yn datblygu o wy gweithiwr wedi ei gario gan y gweithwyr i'r gell frenhines hon. Wedyn, fe'i megir yn gyfangwbl ar sylwedd o liw hufen a gynhyrchir gan chwarren- nau gyddfol y gweithwyr ifainc. Ceulfwyd brenhinol yw hwn (royal jeì/y). Fe gymerth un diwrnod ar bymtheg cyn y daw brenhines luniaidd hardd allan o'r gell. Ond beth am gynnyrch cydnabyddedig y gwenyn -mêl, cwyr a'r ceulfwyd brenhinol-a pha ddefnyddioldeb a roddwyd iddynt gan yr hil ddynol fel moddion meddyginiaethol? Cawn ein cofnodion cyntaf am hyn gan yr Eifftiaid tua 3,000 c.c. Mêl a anogwyd gan feddygon y cyfnod hwn i wella gwahanol afiech- ydon, a mêl hefyd a ddefnyddiwyd i orchuddio corff marw i'w gadw rhag pydru.