Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mewn deg pennod fe'n harweinir o ddamcan- íaethau'r Groegiaid (a rhaid edmygu eu dygnwch wrth gynllunio dyfeisiadau mor gymhleth i esbonio symudiadau'r cyrff nefolaidd) hyd at ddarganfydd- iadau diweddar seryddiaeth-radio. Daeth rhyfeddod y pulsars yn rhy ddiweddar i'w gynnwys yma. Rhoddir sylw digonol a hwylus i helyntion syniadau o bob math. Cefais hwyl ar ddilyn y drafodaeth ddiddorol a chlir o ddatblygiad dulliau'r seryddwr i wneud amcangyfrif o bellter, natur, maint a thymheredd gwahanol sêr. Buaswn yn dweud bod y llyfr hwn, ar wahân i'w gynnwys ffeithiol, yn gaffaeliad gwerthfawr i'r sawl a fyn astudio athroniaeth gwyddoniaeth. Neu, o leiaf, i'r rheiny sydd am wybod sut mae gwyddon- ydd yn ticio. Er enghraifft, yn yr ail bennod The Rule ofLaw ceir hanes gwaith Isaac Newton a sôn am ymdrechion mathemategwyr enwog i ddiorseddu Deddf Disgyrchedd. Ond hithau a orfu am ganrifoedd nes iddi fethu ag esbonio'n gyflawn symudiad y blaned Mercher. Nid deddf mohoni GWASG PRIFYSGOL CYMRU AGWEDDAU AR HANES DYSG GYMRAEG Enillodd yr Athro Griffith John Williams (1892-1963) Ie sicr iddo'i hun fel un o ysgolheigion Cymraeg mwyaf hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Yn y gyfrol hon, ceir detholiad o'i ddarlithiau wedi'u golygu gan Aneirin Lewis. Pris 45s. ASTUDIAETHAU AMRYWIOL Mae'r gyfroJ hon a gyflwynir i Syr Thomas Parry-Williams yn cynnwys casgliad o astudiaethau amrywiol. Maent yn cynrychioli rhai agweddau ar weithgareddau aelodau Adran Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, adran y bu Syr Thomas yn bennaeth arni o 1920 hyd 1952. Wedi'u golygu gan yr Athro Thomas Jones. Pris 30s. WILLIAM WILLIAMS PANTYCELYN Llyfryn Gŵyl Dewi, 1969. Dwyieithog. Gan John Gwilym Jones. Pris 5s. ENWAU BLODAU Casgliad o enwau blodau, planhigion a llysiau. Gan Meirion Parry. Pris 12s. 6ch. COFRESTRFA'R BRIFYSGOL, PARC CATHAYS, CAERDYDD. bellach ond rheol ddefnyddiol iawn. Einstein sy'n gwisgo'r fantell, ar adeg sgrifennu'r adolygiad hwn beth bynnag! Pwynt pwysig arall a ddaw i'r amlwg wrth ddilyn cwrs seryddiaeth yw'r ddibyniaeth ar amcan- gyfrifau, am nad oedd modd gwneud mesuriadau cywir. Mae'n nodweddiadol o wyddonwyr da eu bod yn medru amcangyfrif yn ofalus ar sail ychydig o wybodaeth. Felly rydw i am orffen drwy osod prawf i chwi: (1) Beth yw pwysau Y GWYDDONYDD? Pa wahaniaeth fyddai dileu inc yr argraffwyr yn ei achosi? (2) Faint o alwyni o laeth a yfwyd gan blant ysgolion uwchradd Cymru pan oedd y llaeth yn rhad ? Beth fu'r effaith ar ffermwyr a buchod pan newidiwyd y ddeddf ynglyn â hyn? Pa fath wyddonydd ydych chwi ? N.B.E.