Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATHROFA GWYDDONIAETH A THECHNOLEG Cyfeiriwyd mwy nag unwaith yn y nodiadau hyn at y pwyslais arbennig a roddir gan yr Athrofa ar gynnal cyrsiau byrion a chyrsiau rhan-amser. Hyn, ond odid, yw un o nodweddion amlycaf yr Athrofa (o'i chymharu â sefydliadau eraill y Brifysgol). Cynhaliwyd yn agos i gant o'r cyrsiau hyn yn ystod y flwyddyn academaidd 1967-68, ac fel y gellid disgwyl bu cryn wahaniaeth rhyngddynt o safbwynt eu natur a'u llwyddiant. Cofrestrodd dros 100 o fyfyrwyr ar gyfer rhai ohonynt (332 ar gyfer y symposiwm i drafod Mesur a Rheoli mewn Diwydiant) tra na fu ond deg o fyfyrwyr mewn cyrsiau eraill. Cwrs diddorol fu'r un a ymdriniai â 'Thech- negau Cyfrifiadurol mewn Pensaer- nÏaeth'; cwrs a drefnwyd ar y cyd rhwng Coleg y Brifysgol, Bangor, a'r Athrofa fu hwn-enghraifft hapus o gyd- weithredu rhwng y ddau begwn eithaf yn y Brifysgol! Ganol 1967 fe ymddeolodd Mr. H. C. Swaffield o'i swydd yn brif ddarlithydd yn adran Peirianneg Fecanyddol; bu'n gwasanaethu'r Athrofa am gyfnod o dros ddeugain mlynedd. Mae Adroddiad Buchanan ar ddat- blygiad Dinas Caerdydd wedi rhoddi cryn sylw i ddyfodol y sefydliadau addysg yng nghanol Caerdydd. Awgryma helaethu Coleg y Brifysgol a'r Athrofa (mewn cyfeiriad i'r gogledd o'u safle presennol) er mwyn creu Canolfan Brifathrofaol (University Campus) o ryw 98 erw erbyn y flwyddyn 2000. Byddai hyn yn ddigon i ddarparu ar gyfer 15,000 o fyfyrwyr-10,000 o Goleg y Brifysgol a 5,000 o'r Athrofa. Gobeithir dechrau ar y cynllun hwn yn gynnar yn y 1970au. Eisoes y mae Pwyllgor Grantiau'r Prifysgolion (UGC) wedi cymeradwyo codi un Undeb ar gyfer myfyrwyr y ddau sefydliad, a dyfarnwyd y swm o £ 750,000 i'r diben hwn. Bydd yr Undeb newydd yn barod erbyn 1971 a chyfleusterau ynddo ar gyfer 7,500 o fyfyrwyr. Dengys adroddiad blynyddol y Llyfr- gell fod cynnydd o 3,398 yn y llyfrau yn ystod 1967-68 a chynnydd o 138 yn nifer y cylchgronau a dderbynnir. Nodiadau o'r Colegau Ar ddiwedd ei adroddiad blynyddol olaf ceir gan y Dr. A. Harvey deyrnged arbennig o hael i Brifysgol Cymru am estyn deheulaw cymdeithas i'r Athrofa ac am y caredigrwydd personol a dderbyniodd ef (Dr. Harvey) gan gynrychiolwyr y Brifysgol yn ystod eu trafodaethau 'hir ac anodd'. Cyfeiria'n arbennig at yr arwyddion fod yr Athrofa bellach wedi cymryd ei Ue naturiol y tu fewn i furiau'r Brifysgol genedlaethol. A gawn ninnau, ar ran Y GWYDDONYDD, ddymuno pob hapus- rwydd i'r Dr. Harvey yn ystod ei ymddeoliad? Gwyddys fod ganddo ddiddordeb arbennig yn hanes datblyg- iad technoleg yng Nghaerdydd a'i fod wrthi ers blynyddoedd bellach yn hel defnyddiau yn y maes hwn. Pwy a wyr na chawn weld, ryw ddiwrnod, beth o ffrwyth ei lafur ar dudalennau Y GWYDDONYDD? ABERTAWE Penodwyd Dr. D. V. Ager yn athro a phennaeth yr adran Ddaeareg. Bydd yn cychwyn yn ei swydd ar ddechrau tymor yr haf. Ar hyn o bryd mae'r Athro Ager yn ddarllenydd yng Ngholeg Imperial, Llundain. Mae ei waith enwocaf yn ymwneud ag astudiaethau rhanbarthol ym mynyddoedd Jura yn ne-ddwyrain, a rhanbarth Dordogne, yn ne-orllewin Ffrainc. Bu'r Athro Ager yn athro am flwyddyn ym Mhrifysgol Illinois (U.D.A.) yn 1958, ac am gyfnodau byrrach yn Y Sorbonne, a Phrifysgolion Bordeaux ac Alberta. Hyd nes bydd yr Athro Ager yn cymryd drosodd, bydd yr adran o dan ofal Mr. T. R. Owen. Rheolwr newydd yr Uned Triboleg (gweler Y GWYDDONYDD, Rhagfyr 1968, tud. 186, am hanes yr Uned) yw Dr. A. R. Lansdown. Brodor o Gaer- dydd yw Dr. Lansdown ac addysgwyd ef yng Ngholeg y Brifysgol yno, cyn symud i Gaergrawnt 11e'r enillodd radd doethor. Am y chwe mlynedd diwethaf bu'n gweithio ar staff wyddonol y Weinyddiaeth Dechnoleg. Un o dair canolfan ym Mhrydain yw'r Uned yn Abertawe, ac ar y dechrau bydd yn rhoi sylw i broblemau triboleg yn y diwydiant metelegol. Mae'r ddwy uned R.E.H. arall ym Mhrifysgol Leeds ac yr, Sefydliad yr Awdurdod Ynni Atomig yn Risley. Sefydlwyd yr unedau gan y Weinyddiaeth Dechnoleg er mwyn hyrwyddo trosglwyddiad cynnyrch yr ymchwil diweddaraf yn nhriboleg, ddiwydiant. Hyrwyddo gwell cyfathrach rhwng prifysgolion a diwydiant fydd testun cyfarfod arbennig a gynhelir yn y Coleg yn ystod tymor y Grawys. Bydd y cyfarfod o dan nawdd y Weinyddiaeth Dechnoleg a Chynghrair y Diwyd- iannau Prydeinig. Disgwylir i Mr. C. T. Taylor, rheolwr Cwmni Rhyngwladol Polikoff (Cyf.) i siarad ar ran diwydiant, a'r Prifathro F. Llewellyn-Jones ar ran y Coleg. Yn ei ddarlith agoriadol yn ddiweddar amlinellodd yr Athro P. C. Thonemann, pennaeth newydd yr adran Ffiseg, bwysigrwydd Ffiseg yn y byd presennol. Dywedodd i Ffiseg gymryd lle canolog yn y chwyldro technolegol yn y ddeng mlynedd ar hugain diwethaf. Bygythia'r chwyldro yma ein bodolaeth ynghyd ag addo gwelliant mewn safon byw. Cyfrifoldeb adrannau Ffiseg meddai, yw sicrhau digon o raddedigion i ddysgu mewn ysgolion i wneud gwaith gwein- yddol a hyrwyddo datblygiadau technol- egol. Pwysleisicdd hefyd bwysigrwydd gwneud ymchwil yn y Prifysgolion mewn meysydd sydd o ddiddordeb hefyd i ddiwydiant. Dywedodd yr Athro Thonemann fod cyfnewidiad mawr mewn egwyddorau newydd, prosesau a chynhyrchion, o ganlyniad i ymchwil. Tynnodd sylw at y ffaith fod nifer o ddiwydiannau sy'n dibynnu ar wyddoniaeth yn awr yn cael eu sefydlu ym Mhrydain, yn arbennig yn ne Lloegr, Rhydychen, Caergrawnt a chanoldir Lloegr. Yn y cyswllt hwn mae Cymru'n bell ar ôl meddai. Gresyn fod tua 90 y cant o raddedigion Ffiseg yn 'ymfudo' o Gymru yn flynyddol. oherwydd nad oes diwydiant cymwys yma. Tybiai y gallai'r sefyllfa wella pe byddai'r Llywodraeth yn lleoli sefydliad ymchwil newydd yng Nghymru, gyda chyllid o ryw £ miliwn y flwyddyn, nev greu rhyw ddeg ar hugain o gymrodor iaethau i'w dal mewn gwahanol ddiwyd iannau yng Nghymru. A phe byddan Swyddfa Gymreig yn cael cyfrifoldel