Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

W. M. Murphy, B.D.S. (Iwerddon), F.D.S., R.C.S. (Lloegr), M.D.S. (New- castle), yn uwch-ddarlithydd mewn Prostheteg Deintyddol. Eileen N. Thompson, M.D. (Uundain), D.C.H., M.R.C.P., yn uwch-ddarlithydd mewn Iechyd Plant. CAERDYDD Llongyfarchion i'r Dr. C. G. Gould, adran Mathemateg Bur, ac i'r Dr. K. M. Evans, y gyfadran Addysg, ar eu hapwyntio yn Ddarllenwyr Prifysgol Cymru. Derbyniwyd grantiau yn ddiweddar i barhau i ehangu gwaith yr adran Archaeoleg mewn amryw feysydd. Y mwyaf sylweddol ohonynt fu swm o £ 10,000 dros ddwy flynedd gan y Weinyddiaeth Adeiladu a Gweithfeydd Cyhoeddus i barhau gyda'r gwaith cloddio ym Mrynbuga, Sir Fynwy, dan arweiniad Mr. W. H. Manning. Gwahoddwyd aelod arall o'r adran, Mr. Leslie Alcock, i fynd i'r Unol Daleithiau am rai wythnosau i ddarlithio ar gyfnod y Brenin Arthur yng ngoleuni y darganfyddiadau archaeolegaidd nod- edig y bu ef yn gysylltiedig â hwy. Yn y rhifyn cyfredol o Fwletin y Coleg rhydd yr Athro G. C. Anderson, adran Daeareg, beth o'i hanes yn cynrychioli Prifysgol Cymru mewn cynhadledd gydwladol academig. Yr hyn a wna'r digwyddiad o ddiddordeb y tu ADDWYSEDD (ffis.): mesur o gryfder rhywbeth; S. intensity. ADDWYSEDD GOLEUOG: S. luminous intensity. ANFEIDROL (math.): S. infinite. BWRIADWAITH: cynllun ar gyfer gwaith ymchwil; S. project. CYLCHED, 11. -AU (tryd.): S. circuit. cwarc (ffis.): un o'r gronynnau sylfaenol; S. quark. CYMAROLDEB (math.): S. reìativity. DARLIFO (medd.): peri i hylif lifo trwy organ; S. perfuse. DEILLIADOL (math.): S. derived. DIDOREDD (math.): S. continuity. allan i gylch arbenigwyr mewn Daeareg yw mai yn ninas Prague y cynhaliwyd y gynhadledd, a hynny fis Awst diwethaf. 'Yn oriau man y bore ar y 21ain. Awst daeth swn awyrennau â rhyw syniad anniddig — "mae'n rhaid ei bod yn brysur iawn ar faes glanio'r awyrennau heno"-ac yna dyma sylweddoli bod rhywbeth o'i le a bod yn well codi a gwisgo'. Yn ystod y dydd rhyfedd hwnnw daeth gair fod y gynhadledd i fynd ymlaen yn y Brifysgol Dechnegol yn ôí y trefniadau, a hwyluswyd y ffordd i'r cynrychiolwyr gerdded yno heibio i'r tanciau bygythiol yng nghanol y ddinas. Ond nid hawdd oedd cynnal cynhadledd ysgolheigaidd dan y fath amodau. Y diwrnod wedyn daeth cyngor i ymadael mor fuan ag oedd bosibl, a chafodd yr Athro Anderson le mewn car oedd yn teithio i'r gorllewin. Ar ôl taith anturus croeswyd y ffin yn Waidhaus, a'r ffordd yna'n glir trwy Bafaria i Ffrancfurt ac adref. Erys atgof o benbleth y milwyr ifanc o Rwsia yn wyneb y derbyniad a gawsant, ac atgof arall o frwdfrydedd y Czechiaid yn troi yn anobaith mewn un noson. Ers blwyddyn neu ddwy bellach bu cynnydd yn narpariaeth y gyfadran Addysg ar gyfer athrawon mewn gwyddoniaeth. Trefnwyd cyrsiau un diwrnod yr wythnos am dymor neu fwy dan arweiniad Mr. Clifford Othen (Cemeg), Mr. Goronwy Jones (Ffiseg) a Mr. Douglas Hillier (Bioleg), a buont yn llwyddiant mawr. Gwerthfawrogir yn Geirfa GOWT (medd.): clefyd y cymalau; y cymalwst; S. gout. HEINTRYDDOL (medd.): S. immunological. GRONYN ELFENNOL (ffis.): S. elementary particie. ISOBAR, 11. -AU: llinellau ar fap sy'n cysylltu lleoedd o'r un bwysedd atmosfferig. in UTERO (medd.): yn y groth. LLUOSWM (math.): S. product. MEIDRIOL (math.): â therfyn iddo; S.fnite. PWYNT ANGHYFNEWID (math.): S. fixed point. TREIDDOSOD (medd.): gwthio gwrthrych truy y rywbeth er mwyn iddo gyrraedd man neilltuo S. insinuate. TROFWRDD: S. turntable. arbennig y cyfle i athrawon wne.d d gwaith ymarferol yn y meysydd llafar newydd gyda chyfleusterau ac ofbr arbennig coleg prifysgol at eu gwasa 1- aeth. Y tymor hwn bu rhai ohonom yn defnyddio'r un syniad o gynadleddau wythnosol mewn cwrs un tymor dan y teitl, 'Gweinyddiad Ysgolion Uwchradd yn y Saithdegau'. Bob prynhawn a nos Fercher am ddeng wythnos bu yn agos i 70 o brifathrawon a dirprwy brif- athrawon yn trafod arwyddocâd cyf- newidiadau cymdeithasol a thechnol- egol ar gyfer gweinyddiad ysgolion sydd eu hunain yn tyfu yn unedau mawrion. Yn ein rhaglen bu gennym ddarlithiau gan arbenigwyr ar wahanol agweddau o waith gweinyddol prifathro a'i brif gynorthwywyr. Buom hefyd yn astudio a thrafod achosion arbennig i roddi cig a gwaed i egwyddorion haniaethol rhai o'r darlithiau. Fel rhan o'r cwrs gwahoddwyd Dr. G. F. Thomason ac aelodau eraill o adran Cysylltiadau Diwydiannol y Coleg i drafod gyda ni y posibilrwydd y gellir mabwysiadu rhai o syniadau gweinyddu diwydiant ym myd addysg. Bu'r profiad yn un diddorol a gwerthfawr o'r ddwy ochr, a theimlwn mai dim ond dechrau dysgu yr ydym. Credaf yn bersonol v bydd trefnu cyrsiau addas i baratoi prifathrawon ar gyfer eu cyfrifoldeb bugeiliol a gweinyddol yn dod yn fater o bwysigrwydd cynyddol yn y blynydd- oedd nesaf. M.G.H.