Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGOL FEDDYGOL GENEDLAETHOL CYMRU, CAERDYDD (PRIFYSGOL CYMRU) Llywydd: SYR CLEMENT PRICE THOMAS, K.C.V.O., LL.D., F.R.C.P., F.R.C.S. Pennaeth A. TREVOR Jones M.D., F.R.C.P., D.P.H. Cofrestrydd Academig: F. DODSWORTH, M.A., F.C.I.S. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau meddygol Prifysgol Cymru (M.B., B.Ch., B.D.S.). Dylid dychwelyd y ffurflenni cais i Ganolfan Ceisiadau am Fynediad i'r Prifysgolion. G.P.O. Box No. 28, Cheltenham, erbyn 15 Rhagfyr. Gellir gwneud cais cyn cael y canlyniadau'r arholiad a gydnabyddir gan y Brifysgol am matriculation. Ceir hefyd gyrsiau ar ôl gradd, sy'n arwain i ddiploma mewn Iechyd Cyhoeddus (Cymru), a diploma mewn Darfodedigaeth a Chlefydau'r Frest (Cymru), a gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd Academig. Dylai'r rhai sydd am ymgymryd ag astudiaethau meddygol neu deintyddol gael eu ffurflenni cais oddi wrth eu hysgolion neu golegau neu oddi wrth y Cyngor Canolog, G.P.O. Box No. 28. Cheltenham. Dylid anfon ceisiadau i'r Cyngor Canolog erbyn 15 Rhagfyr yn y flwyddyn sy'n blaenori'r flwyddyn y disgwylir cychwyn ar y cwrs. Dylid cyfeirio pob ymholiad ynglyn â'r cyrsiau at y Cofrestrydd Academig, 34 Newport Road, Caerdydd. ATHROFA TECHNOLEG Y BRIFYSGOL CYMRU PARC CATHAYS, CAERDYDD UN 0 GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: A. F. TROTMAN-DICKENSON, M.A., B.SC., PH.D., D.SC., F.R.I.C. Cynigir CYRSIAU GRADD mewn ADEILADU ASTUDIAETHAU CYMDEITHASOL CEMEG DIWYDIANNOL CYFFURIAETH CYFRAITH ECONOMEG ELECTRONEG FFERYLLIAETH FFISEG GWEINYDDIAETH OPTEG OFFTHALMIG PEIRIANNEG GYNHYRCHIOL PEIRIANNEG MECANYDDOL PEIRIANNEG SIFIL PEIRIANNEG TRYDANOL PENSAERNÏAETH TRAFNIDIAETH YSTADEGAETH Darperir nifer o gyrsiau wedi-gradd; a chynigir ysgoloriaethau ymchwil. Mae gan y Coleg ei gyfrifiadur electronig a'i labordy iaith ei hun. Ceir y Prospectws a phob manylion oddi wrth Gofrestrydd y Coleg.