Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol CARWN, y tro yma, sôn am dair cynhadledd y bûm ynddynt yn ystod yr wythnosau diwethaf. Cynhaliwyd un ym Mhortmeirion, un arall yn Salford a'r drydedd ym Mharis. Gan fod y tair cynhadledd mor wahanol, o ran cyfrannwyr a phynciau, diddorol iawn oedd eu cymharu. Cynhadledd Portmeirion Y Gynhadledd Miller ar Effeithiau Ymbelydredd a gynhaliwyd ym Mhortmeirion ar ôl y Pasg a daeth dros gant o wyddonwyr yno o bob rhan o'r byd. Yn rhyfeddol y tro yma, roedd mwy o Rwsiaid nac o Americanwyr yno, a chyfrannodd yr un ar bymtheg a ddaeth o'r Undeb Sofiet, fel y mynnent i bawb gyfeirio at eu gwlad, yn arbennig iawn at Iwyddiant y gynhadledd. Ni chlywn lawer am fanylion gwaith ymchwil Rwsia mewn cemeg ymbelydrol, ond o'r hyn a ddywedodd yr Athrawon Pikaev a Bach yno, mae'n amlwg fod eu datblygiad wedi bod yr un mor syfrdanol yn y maes hwn ag ydyw i ymchwiliadau'r gwagle. Fel arfer y patriarchiaid gwyddonol yn unig a ddaw i'r cynhadleddau gwyddonol o Rwsia, ond am y tro roedd y mwyafrif yn bobl ifanc v dan 30 mlwydd oed. Nid oeddynt yn dangos unrhyw awydd i gymysgu â'r gweddill ohonom hyd nes i ni gael Noson Lawen un gyda'r nos. Diftannodd y wynebau sych a'r cyfarchiad swta a gwelwyd trawsnewid ynddynt. Cafwyd fod y cwbl ohonynt yn gantorion a pherfformwyr offerynnol eithriadol, a byddai un o'r merched wedi ennill ei bywoliaeth ar unrhyw lwyfan. O'r funud honno daethant yn rhan o'r gynhadledd mewn gwirionedd a chafwyd cyfathrebu go iawn. Nid oeddynt wedyn yn anfodlon i drafod pynciau gwleidyddol chwaith, ac yn naturiol gan fod Dubcek wedi ymddiswyddo yn Czechoslovakia yn ystod yr wythnos bu trafod brwd ar y mater yma. Roedd yn amlwg fod gagendor aruthrol rhyngom ar faterion fel hyn. Credent yn llwyr yr agwedd swyddogol fod y milwyr Sofiet wedi eu gwahodd i mewn, ac mai dylanwad y brodorion yn unig oedd yn gyfrifol am ei ymddiswyddiad. A ninnau'n credu mor sicr eu bod hwy o dan ddylanwad propaganda eu gwladwriaeth, a hwythau yn llawn mor ddiffuant, yn meddwl mai ni sydd yn y tywyllwch am y gwir sefyllfa, mae yn anodd iawn gweld sut y gallwn byth bontio'r gagendor rhyngom. Gwelais ychydig ddyddiau 'nghynt mor ddi-ildio y mae'r gwledydd yn eu safbwynt. Yng Ngholeg Harlech daeth Americanwr, Rwsiad ac Almaenwr i siarad â myfyrwyr chweched dosbarth yng nghynhadledd flynyddol CEWC (Cymru). Y pwnc oedd Detente yn Ewrop a gwahoddwyd safbwynt y dair gwlad. Dywedodd y tri yr union beth a ddisgwylid ganddynt, ac yn rhyfeddol hefyd yn yr union arddull a ddisgwylid. Roedd gan y tri eu 'cyffes ffydd' ac nid oeddent yn barod am eiliad i amau cywirdeb eu safbwynt. Parodd i mi, beth bynnag, amau tybed mai ond un ochr i'r stori a glywn ninnau, ac nad oes bosibl, er yr holl sgwennu a thrafod yn ein papurau, bod yn hollol ddiragfarn. Cynhadledd Salford Defnyddio ymbelydredd i ddiheintio cyffuriau a chynhyrchion biofeddygol eraill oedd pwnc y gynhadledd a drefnwyd yn Salford. Gan fod effaith y pelydrau niwclear mor farwol, gellir eu defnyddio i ladd bacteria ac felly gynnig dull o ddiheintio nad yw'n gofyn tymheredd uchel fel y dull confensiynol gyda stêm. Heb amheuaeth, cyfraniad yr Athro L. O. Kallings o Stockholm a ddangosodd i bawb mor anfoddhaol yw'r sefyllfa bresennol, a bod yn rhaid cael dulliau diogelach i baratoi cyffuriau. Gwelwyd yn Sweden, drwy archwilio tabledi cyffredin, fod llawer iawn ohonynt yn cynnwys cymaint â miliwn o facteria ym mhob gram. Yn wir, mae llawer o'r dulliau presennol o sychu tabledi yn ddelfrydol i'r bacteria fagu. Profodd fod pobl yn Sweden, Rwmania, yr Unol Daleithiau a gwledydd Prydain wedi'u gwenwyno'n ddifrifol yn y llygaid, y bibell ddWr, a'r croen a bod marwolaethau nifer i'w priodoli'n uniongyrchol i gyffuriau halogedig. Fel canlyniad, mae