Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Datblygiad Dannedd Dyn (Prif Swyddog Deintol Bwrdeisdref Abertawe) PAN ffrwythlonir yr wy yn y groth, dechreuir ar broses gymhleth a chywrain o ddatblygu'r corff dynol. Trwy i'r wy ffrwythlon fynych ymrannu fe geir cwlwm o gelloedd anwahaniaethedig a gymer ffurf tiwb yn fuan. Yn y tiwb hwn dechreua'r celloedd ymwahaniaethu yn dair haen gyntefig, sef: (1) yr haen allanol neu'r ectoderm: hon a rydd fod i'r system nerfol, i epitheliwm y croen a'r geg ac i enamel y dannedd, (2) yr haen ganol neu'r mesoderm a fydd yn datblygu'n gyhyrau, yn esgyrn, yn waed, ac yn arennau, etc., (3) yr haen fewnol neu'r endoderm a fydd yn ffurfio'r perfedd yn bennaf, ond hefyd yr ysgyfaint a'r bledren a'r groth. Hon yw'r haen sy'n leinio'r tiwb. Nid yw'r tiwb ar agor yn ei ddeupen i ddechrau, ond tua'r drydedd wythnos mae'r ectoderm ym mhen blaen y milrith yn pantio, neu cywirach fyddai dweud bod cylch o ectoderm a mesoderm yn tyfu gan adael pant yn ei ganol. Hon yw'r geg gyntefig, y stomodewm. Ymhen ychydig ddyddiau mae'r ectoderm ar waelod y pant hwn yn ymuno ag endoderm pen blaen y perfeddyn cyntefig, a dyna'r geg bellach mewn cyswllt â'r perfeddyn (Ffig. 1). O gwmpas y stomodewm y digwydd datblygiad yr wyneb a'r genau. Uwch ei phen fe dyf y mesoderm a'r;ectoderm sy'n ei orchuddio gan ffurfio'r amgrymedd oddfog a elwir yn broses ffryntol. O dan y stomodewm ymffurfia'r mein- weoedd fel bwâu neu dagellau. Y rhain yw'r bwâu canghennol y gwelir eu hafal yn nhagellau'r pysgodyn. A'r bwa canghennol cyntaf y mae a wnelo ni'n bennaf. Mae'r broses ffryntol wrth dyfu yn ymdraeanu neu'n fforchio'n dri, yn broses ganol fydd yn ffurfio canol y trwyn a chanol y wefus uchaf, ac yn ddwy broses o boptu fydd yn ffurfio ochrau'r trwyn a'r ffroenau (Ffig. 2). O'r bwa canghennol cyntaf, fodd bynnag, tyf dwy broses o'r ddwy ochr i'r stomodewm. Bydd y naill yn ymledu uwchben y geg gan ffurfio'r safn uchaf neu'r T. ARFON WILLIAMS Ffig. 1. Pen blaen y milrith, pedwaredd wythnos, toriad hydreddol: (1) Proses ffryntol (2) Stomodewm (3) Bwa branchiol cyntaf (4) Perfeddyn cyntefig macsila ynghyd â'r wefus uchaf, ar wahân i lain yn y canol. Bydd y Hall, ar y llaw arall, yn ymledu dan y geg i ymuno â'i chymhares o'r ochr arall gan ffurfio'r safn isaf neu'r mandibwl, rhan o'r dafod, a'r wefus isaf. Fel arfer bydd yr holl brosesau hyn yn ymuno'n llyfn â'i gilydd, ond ar dro fe ddigwydd diffyg mewn ambell uniad. Gall hyn amlygu fel bwlch yn y wefus, neu agen yn y daflod, neu gall ddigwydd fel sist yn asgwrn y safn nas datguddir ond ar radiograff. Tua'r chweched wythnos in utero mae'r epithel iwm yn y geg yn cronni'n wrym ar hyd y macsih