Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffig. 6. Radiograff dant normal ar y chwith, a Dens Invaginans ar y dde hylif i'r rhwyd serennog. Mae arbwysedd yr hylif yn peri i'r organ enamel chwyddo fel pledren a cheir sist cynyddol ei faint fel gorchudd am goron y dant gan rwystro'i frigwthiad. Tiwmor cymharol brin yw hwnnw a welir yn Ffig. 8. Yma aeth y broses yn gwbl afreolus gan ddatblygu cymysgedd o feinweoedd deintol driphlith draphlith, a datblygu hefyd nifer o ddeintigoedd bychain ar draws ac ar hyd. Ar wahân i wyriadau yn natblygiad y dannedd fel y cyfryw ceir cryn dipyn o anormaledd ym mherthynas y dannedd â'i gilydd. Mae cam- gymheiriad, yn wir, mor gyffredin a 20-30 y cant ymhlith plant ysgol. Mae nifer o ffactorau yn gyfrifol am hyn. Un ffactor yw anghymesuredd etifeddegol rhwng maint y bwâu deintol a'r safnau a'u cynnwys. Gwelir hyn amlaf mewn cym- Ffìg. 7. Radiograff sist am goron y dant yn y safn deithasau cymysg eu tras. Ceir ffactor arall ym mhatrymau ymddygiad y meinweoedd meddal sef y tafod a'r gwefusau. Ffactor arall dra phwysig yw colledion cynnar o blith y dannedd darfodadwy. Mae'r bylchau a adewir yn cael effaith niweidiol ar frigwthiad y gyfres barhaol, a difethir ffurfiad y bwa parhaol o'r herwydd. Ar y cyfan, fodd bynnag, daw'r dannedd yn ddifai i'w priod le yng ngheg y plentyn. Nid cynt y dônt nad ymesyd y rhieni a'r teidiau a'r neiniau a'r perthnasau oll arnynt i'w difetha. Ond stori arall yw honno. CYDNABOD Dymunaf ddiolch i Mr. David Adams, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Ddeintol Caerdydd, am y radiograff o'r sist (Ffig. 7) ac am drefnu tynnu lluniau o'r radiograffau eraill. Ffig. 8. Radiograff odontoma cymhleth cyfansawdd yn y safn