Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Arolwg Bartlett-Cameron2 (Bartlett gydag 8 rhan m.m. a Cameron 0-4 rhan m.m. o fflworeid). Mae hwn yn honni nad yw'r arolwg yn dangos fod unrhyw niwed gwerth sôn amdano yn deillio o'r cyfran uchel o fflworeid yn nwr Bartlett ar wahân i frychni ar y dannedd (fflworosis). Eto mae dau o'r saith awdur wedi gosod eu henwau wrth adroddiad aralP sy'n cydnabod fod yn oedolion Bartlett fwy o freuder a brychni gewinedd, o gyfnewidiadau yn yr esgyrn ac afloywder y llygad a bod angen ymchwiliadau pellach i hyn. Mae astudiaeth ddiweddarach4 o'r ystadegau hefyd yn dangos mwy o farwolaethau yn Bartlett. Beirniadaeth ar yr arolwg Mae Dr. C. G. Dobbs,5 prif ddarlithydd yn Adran Llysieueg Coleg y Brifysgol, Bangor, wedi gwrthwynebu fflworideiddio ar hyd y blynyddoedd. Anwyddonol i'r eithaf, medd ef, yw'r dehongli ar yr ystadegau a gasglwyd yn yr Unol Daleithiau. Yn un peth, bu pob arolwg ar raddfa rhy fach i fod yn arwyddocaol (fel enghraifft, dim ond 116 yn Bartlett a 121 yn Cameron). Ond yn bwysicach, yr oedd yr amrywiadau (a geir bob amser mewn unrhyw arolwg ystadegol o'r fath) yn fwy na'r effeithiau y gellid yn rhesymol eu disgwyl o gael 1 rhan m.m. o fflworeid yn y dwr yfed. Mae'r rhain o angenrheidrwydd yn fach ac nid yw'r ystadegau yn debyg o ddatgelu effeithiau parhau i dderbyn dogn bach fel hyn dros gyfnod hir o amser. Mae pobl heddiw yn dioddef o bob math o afiechydon neu anhwylderau na wyr neb beth yw eu hachos. Tynnwyd ein sylw dro ar ôl tro at y cynnydd mewn afiechydon parhaol a'r posibil- rwydd o gysylltiad efo'r difwyno cyson ar ein bwyd a'n dwr ac ar yr aer. Mewn adroddiad o ddinasoedd Illinois heb fawr o fflworeid yn y dwr, mae'r marwolaethau ym mhob 100,000 o bob achos yn amrywio 0 900 i 1,450; o glefyd y galon o 310 i 550; o ganser o 140 i 200. Dim ond 1 mewn 100,000 sy'n marw o polio- myelitis. Mae lle felly mewn amrywiadau fel yr uchod i gelu rhyw achos dirgel o farwolaeth (fflworeid hwyrach) sydd lawer gwaith yn waeth na poliomyelitis. Ac eto fe gyfrifir yr afiechyd hwn yr, ddigon drwg i gyfiawnhau ymgyrch i frechu yn ei erbyn. Fe geir triniaeth lawnach na hyn ym mhapurau Dr. Dobbs i ddangos pa mor ddiwerth yw'r ystadegau sydd i fod i brofi diniweidrwydd fflworeid ac a dderbyniwyd mor ddigwestiwn gan yr awdurdodau iechyd ym Mhrydain. Arbrofi ym Mhrydain Fe benderfynwyd rhoi prawf ar fflworideiddio dwr mewn tri lle ym Mhrydain yn 1955-yn wreiddiol Watford, Kilmarnock a rhan o Sir Fôn. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd Andover. Araf iawn fu ardaloedd eraill i ddilyn ac fe gafwyd gwrthwynebiad cryf mewn rhai cynghorau megis Manceinion a Lerpwl. Erbyn hyn mae Andover a Kilmarnock wedi rhoi'r gorau i fflworideiddio. Dengys yr ystadegau wellhad yn nannedd plant Sir Fôn.6 Yn 1955, cyn yr arbrawf, yr oedd 3-80 o ddannedd drwg ar gyfartaledd gan bob plentyn dan 3 oed. Erbyn 1961 yr oedd y ffigur wedi gostwng i 1-29. A'r un modd gyda phlant hyn. Cyn i'r erthygl hon ymddangos dichon y bydd yr adroddiad ar ôl deng mlynedd (hyd at 1965) o arbrofi yn Sir Fôn o'r wasg. Yn y cyfamser fe'm sicrheir fod y gwellhad yn parhau. Honnir hefyd na sylwyd ar unrhyw gynnydd mewn fflworosis yn esgyrn hen bobl Sir Fôn, er y cydnabyddir na wnaed ymchwiliad arbennig i hyn. Nid yw'r adroddiadau o ranbarthau eraill, megis Kilmarnock a Newburgh, Efrog Newydd, mor galonogol.5 Mae rhai deintyddion yn y lleoedd hyn yn credu mai gohirio pydredd a wna fflworeid ac nid ei rwystro. Dywed Dr. Weaver, Prif Gyng- horydd Deintyddol y Weinyddiaeth Addysg, na ellir canfod gwahaniaeth amlwg rhwng dannedd plant yn North Shields (0-25 rhan m.m.) a South Shields (1-4 rhan m.m.). Mae Dr. Dobbs yn maentumio na roddir yr ystadegau am Sir Fôn mewn perthynas ddealladwy â'r amrywiadau naturiol y gellir eu disgwyl 0 Ie i Ie ac o flwyddyn i flwyddyn. Hwyrach felly y dylid ystyried y posibil- rwydd fod ffactorau eraill heblaw fflworeid yn gwella dannedd plant Sir Fôn. Dichon fod rhieni ac athrawon, oherwydd yr holl gyhoeddusrwydd, yn fwy ymwybodol heddiw o'r angen i ofalu am y dannedd. Y dyfodol ym Môn Ond sut fydd hi yn Sir Fôn yn y dyfodol tybed ? Adroddwyd gan y cynrychiolwyr o Brydain i'r Unol Daleithiau yn 1955 na ddylid ychwanegu fflworeid i'r dwr lle mae eisoes berygl o fflworosis diwydiannol. A dyna Sir Fôn, o bob man, wedi croesawu Rio Tinto! Ni wyr neb yn iawn sut mae fflworeid yn gweithredu ar y dannedd. Mae rhai yn awgrymu mai o'r tu allan wrth yfed y dwr y ceir yr effaith. Sut bynnag, bach yw'r effaith ac yn ôl Dr. Dobb ac eraill y mae'n amrywio llawer mwy nag y" arweiniwyd ni i gredu gan bleidwyr fflworideiddic